main logo

SGILIAU BYW'N ANNIBYNNOL

Play Video about students and tutor sitting at table in Coleg Cambria Northop ILS building

Mae’r cyrsiau hyn yn addas i chi os oes gennych chi anawsterau dysgu a/neu anableddau, a hoffech chi archwilio a datblygu sgiliau ar gyfer bywyd a gwaith. Mae gennym ystod eang o lwybrau Sgiliau Bywyd a byddwn yn rhoi cymorth i chi wrth i chi ddatblygu eich sgiliau personol, cymdeithasol ac annibynnol. Byddwn hefyd yn gwella’r cyfleoedd i chi symud ymlaen at gyflogaeth neu astudiaeth bellach.

Fel unigolyn unigryw, rydym yn gwybod y bydd gennych chi anghenion unigol, a byddwn yn gweithio’n agos gyda chi i ganfod eich cyrchfannau hirdymor a gosod targedau cyraeddadwy gyda chi. Byddwch hefyd yn manteisio ar gwricwlwm unigol gyda’r cymorth yr ydych chi ei angen.

Esme ludgate

Esme Ludgate

Astudiodd – Sgiliau Byw’n Annibynnol

“Gwnes i astudio ‘Sgiliau Bywyd’ yn Llaneurgain am bedair blynedd, roedd yn anhygoel! Gwnes i ddysgu nifer o sgiliau newydd a gwneud llawer o ffrindiau newydd. Roeddwn i wrth fy modd yn coginio prydau blasus, gwella fy sgiliau TG a sgiliau cadw tŷ, ond roedd cymaint o ddewis ar y cwrs hwn. Gwnes i fwynhau mynd allan i’r gymuned i siopa, bwyta allan a rhoi cynnig ar weithgareddau chwaraeon.

“Ond yn fwy na dim roeddwn i wrth fy modd gyda’r staff, roedden nhw’n wych! Roeddwn i’n teimlo fy mod yn cael cefnogaeth gan staff a helpodd hyn i mi ddatblygu a dod yn fwy annibynnol. Mae’r cwrs hwn wedi helpu gyda fy hyder ac i ddilyn fy llwybr dewisol ar gyfer y dyfodol a gobeithio dod o hyd i swydd dwi’n ei charu.”  

Dangos Mwy
frankie - Yale 6 (1)

Frankie McCamley

Studied – A Level English, Drama, Maths and French

Currently – Presenter and News Correspondent for the BBC 

“I wasn’t sure what I wanted to do in the future, so I chose a range of different subjects to study at A Level. I’m now employed by the BBC as a Presenter and News Correspondent and studying at Yale Sixth gave me the confidence and skills to go onto university. I made some amazing friends, had some great teachers who I’ll never forget and had a great time in Wrexham! 

“I look back on my time at Yale with pride and fondness and will never forget it!”

Show more
Play Video
Pethau Defnyddiol i'w Lawrlwytho

A oes gennych chi gwestiwn?

Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Previous slide
Next slide
Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
11/04/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost