Siop Swyddi i Gyflogwyr

A learner speaking to the Job Shop team about their career options
Gwybodaeth am Siop Swyddi Coleg Cambria

Mae Siop Swyddi Cambria ar gael ar holl safleoedd Cambria ac mae’n wasanaeth i gefnogi sgiliau cyflogadwyedd pob myfyriwr yn Cambria. Mae’r “gwasanaeth cyflogadwyedd” yn hanfodol i’n myfyrwyr symud ymlaen i yrfaoedd ar ôl astudio yn Cambria.

Trwy’r Siop Swyddi, gall cyflogwyr hysbysebu swyddi gwag llawn amser a rhan-amser, prentisiaethau a gwaith gwirfoddol sy’n cynorthwyo eu proses recriwtio. Mae’r Siop Swyddi yn annog cyfleoedd dilyniant yn barhaus; nid yn unig ar gyfer ein myfyrwyr ond ar gyfer y gymuned  a thu hwnt.

Evan Perry

Evan Perry

Astudiodd – Lefel 3 mewn Peirianneg Uwch (llwybr i brentisiaethau)

Ar hyn o bryd – Prentis Peirianneg Cynnal a Chadw yn ConvaTec

 Wrth astudio fy nghwrs llawn amser, mi es i i ddigwyddiad “cyfarfod y cyflogwyr” wedi ei drefnu gan Siop Swyddi Coleg Cambria. Yno mi wnes i gyfarfod Rheolwr Peirianneg ConvaTec a dechrau dysgu am y cwmni a’r hyn maen nhw’n ei wneud.

Roedd y digwyddiad es i iddo’n hynod ddefnyddiol oherwydd roeddwn i wedi gallu siarad gyda llawer o gwmnïau a chynrychiolwyr gwahanol i fy helpu i ddeall gyda phwy yr hoffwn i wneud cais am brentisiaeth.

Ar ôl y digwyddiad, mi wnes i ddefnyddio’r Siop Swyddi i wella fy sgiliau cyfweliad ar gyfer pan fyddwn i’n clywed yn ôl gan y cwmnïau y gwnes i gais gyda nhw. Roeddwn i’n gwybod fod ganddyn nhw lawer o adnoddau a fyddai’n sicrhau y byddwn i wedi paratoi’n dda.

Roedd fy mhrofiad gwaith yn help mawr i mi fesur nid yn unig yr etheg gwaith o fewn y cwmni ond hefyd sut brofiad fyddai gweithio yno. Roedd hyn wir yn gymorth i mi wrth wneud yr ymdrech ychwanegol a cheisio gwneud fy hun mor gyflogadwy â phosib.

 

Dangos Rhagor

Yn y Siop Swyddi mae ein tîm yn cynnal llawer o ddigwyddiadau gyrfaoedd bob blwyddyn academaidd, gan wahodd cyflogwyr lleol a rhanbarthol a sefydliadau cefnogi i holl safleoedd Cambria. Yma, mae Cyflogwyr yn cyfarfod â myfyrwyr ar draws ein meysydd cwricwlwm, gan arwain yn aml at gynnig profiad gwaith. Prentisiaethau a chyfleoedd swyddi hirdymor. Yn ogystal â hyn, croesewir cyflogwyr i’r safle i gyflwyno “Sesiynau gyda’r Cyflogwr” i hyrwyddo eu busnesau, eu brandiau a’u cyfleoedd, unwaith eto i godi ymwybyddiaeth myfyrwyr a chefnogi prosesau recriwtio.

Dechreuodd y gwasanaeth gwerth ychwanegol hwn ym mis Ebrill 2019 ac mae’n parhau i fod yn rhan hanfodol o gymorth i fyfyrwyr yma yn Cambria. Oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd drwy’r Warant i Bobl Ifanc; Siop Swyddi yn bodloni disgwyliadau cenedlaethol agenda cyflogadwyedd pobl ifanc.

I gymryd rhan, cysylltwch â  Jobshop@cambria.ac.uk neu ffoniwch 0300 30 30 006 (opsiwn 2).

Pam Gweithio Gyda'r Siop Swyddi?

Codi Ymwybyddiaeth Brand Busnes

Cefnogi eich Proses Recriwtio

Cynnig Profiad Gwaith

Mynd i Ddigwyddiadau Gyrfaoedd a Sesiynau am Gyflogwyr

Cefnogi Gweithgaredd Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol

Llawer rhagor!

Siaradwch â'r tîm

Cysylltwch â’n tîm i ddarganfod rhagor am brentisiaethau, cyrsiau, cyllid a llawer rhagor!

mobile phone svg

Cysylltwch â ni

0300 30 30 006

mail svg

E-bost

Jobshop@cambria.ac.uk

Cwestiynau Cyffredin

Mae cyflogi prentis yn ffordd gynhyrchiol ac effeithiol o dyfu dawn a datblygu gweithlu llawn cymhelliant, medrus a chymwys.

  • Dywedodd 86% o gyflogwyr fod prentisiaethau wedi eu helpu i ddatblygu sgiliau sy’n berthnasol i’w sefydliad
  • Dywedodd 78% o gyflogwyr fod prentisiaethau wedi eu helpu i wella cynhyrchiant
  • Dywedodd 74% o gyflogwyr fod prentisiaethau wedi eu helpu i wella ansawdd eu cynnyrch neu wasanaeth.

Mae manteision eraill o weithio gyda phrentis yn cynnwys:

  • Gallwch addasu eu hyfforddiant yn unol ag anghenion eich busnes
  • Gallwch helpu i ddatblygu “sgiliau meddal” prentisiaid a rhannu gwerthoedd a chredoau eich cwmni
  • Maent yn cael eu hysgogi i ddysgu sgiliau newydd
  • Gallwch ehangu ac uwchsgilio eich gweithlu.
  • Creu disgrifiad swydd sy’n addas i’r gynulleidfa
  • Cynnwys manylion y llwybr gyrfa, buddion, oriau gwaith a thâl ac ati.
  • Anfon e-bost at Employers@cambria.ac.uk neu ffonio 0300 30 30 006 i rannu
  • Cwblhau dogfen Gwasanaeth Swyddi Prentisiaethau Gyrfa Cymru (a ddarperir gan y tîm Cyflogwyr)
  • Byddwn yn hysbysebu ar eich rhan trwy ein porth Siop Swyddi Cambria, gwefan Gyrfa Cymru ac yn uniongyrchol gyda myfyrwyr yma yn Cambria
  • Defnyddio byrddau Swyddi eraill bob amser i “ledaenu’r gair”.

Mae lleoliad profiad gwaith yn gyfle dros dro a gefnogir neu a drefnir gan Goleg Cambria, sy’n galluogi myfyrwyr i gael profiad gwaith ochr yn ochr â’u hastudiaethau neu i rai sy’n chwilio am waith mewn maes penodol i gael profiad ymarferol – a darganfod sut brofiad yw gweithio mewn sector.

Mae rhai o’r manteision o gynnig profiad gwaith yn cynnwys:

  • Gallwch fod o flaen y gweddill wrth ddod â phobl sydd â syniadau ffres i’ch busnes cyn iddynt ddechrau dringo’r ysgol swyddi
  • Bydd gweithio gyda hyfforddeion yn rhoi cyfle i aelodau staff sefydledig ddatblygu eu sgiliau mentora a hyfforddi pobl ifanc
  • Gallwch “brofi cyn buddsoddi” os rydych mewn lle i recriwtio prentis neu weithiwr newydd
  • Gall profiad gwaith wella eich proses recriwtio
  • Mae cyflogi dysgwyr trwy Cambria yn adeiladu perthnasoedd gyda’r gymuned.

 

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost