Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch ym mis Mawrth.
Byddwch yn gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod â’n staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein holl gymorth cynhwysiant a dysgu.
Dewch i’n gweld ni yn ein Digwyddiadau Agored Mis Mawrth lle gallwch chi:
- Ddarganfod beth sydd ar gael
- Archwilio ein cyfleusterau o’r radd flaenaf
- Siarad â’n tiwtoriaid arbenigol
- Cael ateb i’ch holl gwestiynau
- Cyfarfod ein myfyrwyr presennol
- Gwnewch gais am gwrs
I wneud y mwyaf o’r amser sydd ar gael, rydym yn argymell eich bod yn cyrraedd 5.30pm.
Mae nifer y tocynnau yn gyfyngedig ar gyfer y digwyddiadau hyn i’ch galluogi chi i fwynhau’r digwyddiad agored mewn amgylchedd cyfeillgar synhwyraidd heb heidiau o bobl.
Mae dyddiadau ein Digwyddiadau Agored Hygyrch eraill fel a ganlyn:
Glannau Dyfrdwy / Chweched Glannau Dyfrdwy – Nos Iau 14 Mawrth – 5:30pm tan 6:30pm
Iâl / Chweched Iâl – Nos Fercher 20 Mawrth – 5:30pm tan 6:30pm
Ffordd y Bers – Nos Iau 21 Mawrth – 5:30pm tan 6:30pm
Llaneurgain – Nos Fercher 10 Ebrill – 5:30pm tan 6:30pm
Gallwch gadw eich lle o fis Ionawr ymlaen ac yn y cyfamser gallwch chi weld ein hawgrymiadau ar gyfer Digwyddiadau Agored!
Rydym yn cynnal ein prif Ddigwyddiadau Agored ar y dyddiadau isod:
Glannau Dyfrdwy / Chweched Glannau Dyfrdwy – Nos Fercher 6 Mawrth – 5pm tan 7pm
Llysfasi – Dydd Sadwrn 9 Mawrth – 10am tan 12pm
Iâl / Chweched Iâl / Ffordd y Bers – Nos Fercher 13 Mawrth – 5pm tan 7pm
Llaneurgain – Dydd Sadwrn 16 Mawrth – 10am tan 12pm