Home > Dyddiadau’r Tymor ac Absenoldeb
Mae popeth sydd angen i chi ei wybod am ddyddiadau’r tymor ac, wrth gwrs, pryd fydd eich gwyliau a’ch toriadau ar y dudalen hon. Ar hyn o bryd rydyn ni wedi rhestru dyddiadau allweddol yn unig ar gyfer 2022/23. Dewch yn ôl yn fuan i wirio dyddiadau ar gyfer y flwyddyn 2023/24.
Dydd Llun 5 Medi - Tymor yn Dechrau
Dydd Llun 31 Hydref - dydd Gwener 4 Tachwedd - Hanner Tymor
Dydd Iau 22 Rhagfyr - Tymor yn Gorffen
Dydd Llun 9 Ionawr - Tymor yn Dechrau
Dydd Llun 20 - dydd Gwener 24 Chwefror - Hanner Tymor
Dydd Gwener 31 Mawrth - Tymor yn Gorffen
Dydd Llun 17 Ebrill - Tymor yn Dechrau
Dydd Llun 29 Mai - dydd Gwener 2 Mehefin - Hanner Tymor
Dydd Gwener 23 Mehefin - Tymor yn Gorffen
Dydd Llun 4 Medi - Tymor yn Decrhau
Dydd Llun 30 Hydref - dydd Gwener 3 Tachwedd - Hanner Tymor
Dydd Iau 21 Rhagfyr - Tymor yn Gorffen
Dydd Llun 8 Ionawr - Tymor yn Dechrau
Dydd Llun 12 - dydd Gwener 16 Chwefror - Hanner Tymor
Dydd Gwener 22 Mawrth - Tymor yn Gorffen
Dydd Llun 8 Ebrill - Tymor yn Dechrau
Dydd Llun 27 Mai - 31 Mai - Hanner Tymor
Dydd Gwener 21 Mehefin - Tymor yn Gorffen
Dydd Llun 1 Mai 2023
Dydd Llun 8 Mai 2023
Os y bydd eich plentyn neu ddibynnydd yn absennol o’r coleg, gallant roi gwybod am hyn ar-lein trwy ein ap myfyrwyr. Os na allant wneud hyn, yna ffoniwch 0300 30 30 007 o 8am ymlaen.
Bydd angen i chi roi gwybod i ni pa bwnc(pynciau) y mae eich plentyn neu ddibynnydd yn ei astudio ac ym mha safle Cambria.
Yna bydd y switsfwrdd yn eich trosglwyddo i’r maes pwnc perthnasol.
Pan fyddwch chi’n cael eich trosglwyddo, efallai y byddwch chi’n cyrraedd peiriant ateb, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gadael neges sy’n nodi’n glir:
Mae presenoldeb yn ddisgwyliad craidd o gyflogadwyedd, a disgwyliwn lefel uchel o bresenoldeb gan ein holl fyfyrwyr a phrentisiaid. Fodd bynnag, os na allwch fynychu, cliciwch ar y botwm Adrodd am Absenoldeb isod i roi gwybod am eich absenoldeb.
Os ydych chi’n brentis, gallwch ddefnyddio’r botwm isod neu gysylltu â’ch aseswr yn uniongyrchol.
Enw Myfyriwr
Cerdyn Adnabod Myfyriwr
Rheswm dros Absenoldeb
MANYLION MEWNGOFNODI Y COLEG
Os yw myfyriwr yn disgwyl bod yn hwyr ar gyfer gwers wedi’i chynllunio neu os oes angen iddynt adael y coleg yn ystod y dydd a bod ganddynt wersi y dylent fod yn eu mynychu, gwnewch yn siŵr eu bod yn cysylltu â’r dderbynfa neu’n mynd i’r Swyddfa Weinyddu ar eu safle Cambria perthnasol. Os nad ydynt yn gwybod ble mae hynny, gwnewch yn siŵr eu bod yn gofyn i’w tiwtor cwrs neu anogwr cynnydd a byddant yn eu cyfeirio chi.
Os yw absenoldeb myfyriwr yn hysbys ymlaen llaw (h.y. diwrnod agored prifysgol, apwyntiad ysbyty), yna mae angen i’r myfyriwr gysylltu â’r dderbynfa neu fynd i’r Swyddfa Weinyddu ar eu safle Cambria perthnasol. Os nad ydynt yn gwybod ble mae hynny gwnewch yn siŵr eu bod yn gofyn i’w tiwtor cwrs neu anogwr cynnydd a byddant yn eich cyfeirio chi.
Rydym yn eich annog yn gryf iawn i beidio â threfnu gwyliau yn ystod y tymor a gofynnwn, pryd bynnag y bo modd, bod apwyntiadau gyda meddygon a deintyddion yn cael eu gwneud y tu allan i oriau coleg. Fodd bynnag os ydych wedi trefnu gwyliau teuluol gofynnwch i’r myfyriwr gysylltu â’r dderbynfa neu fynd i’r Swyddfa Weinyddu ar y safle Cambria perthnasol. Os nad ydynt yn gwybod ble mae hynny, gwnewch yn siŵr eu bod yn gofyn i’w tiwtor cwrs neu anogwr cynnydd a byddant yn eich cyfeirio chi. Hefyd gofynnwch i’r myfyriwr roi gwybod i’r holl diwtoriaid cwrs ac anogwyr cynnydd.