Home > Bywyd Coleg > Chwaraeon Elît
Os ydych chi wrth eich bodd gyda phêl-droed, p’un a ydych chi wedi bod yn cicio pêl ers i chi allu cerdded neu os ydych chi eisiau dod oddi ar y fainc am y tro cyntaf, mae gennym ni dîm i chi. Dewiswch o Academi Nomads Cambria, Pêl-droed Dynion Cambria yn Iâl, neu Dîm Pêl-droed Merched Cambria. Darganfyddwch am bob un o’n timau gwych isod.
Yng Ngholeg Cambria, rydym yn mynd i’n chweched flynedd mewn partneriaeth â Chlwb Pêl-droed Nomads Cei Connah, sef un o dimau gorau pêl-droed domestig Cymru.
Rydym wedi ein hysbrydoli gan gwricwlwm tîm cyntaf Clwb Pêl-droed Nomads Cei Connah, trwy ddarparu amserlen hyfforddi gynhwysfawr. Bydd adlewyrchu eu cwricwlwm yn sicrhau bod gennych y datblygiad technegol, tactegol a chorfforol gorau.
Dydd Llun 4-6 – Cryfder a Chyflyru / Hyfforddiant Technegol
Dydd Mawrth 4-6 – Hyfforddiant Tactegol
Dydd Mercher – Gemau Chwaraeon AoC
Dydd Iau – 4-5:30 – Sesiwn adfer
Dydd Gwener – Dim Hyfforddiant
Dydd Sadwrn – Cynghrair Dynion Clwyd dan 18 Gogledd Ddwyrain Cymru
Dydd Sul – Uwch Gynghrair Datblygu Cymru dan 19 oed
Dynion 1 Coleg Cambria
Dynion 2 Coleg Cambria
Mae’r holl gemau cartref yn cael eu chwarae ar gae 3G Cei Connah yn CQHS
Byddwch yn cael y cyfle i wirfoddoli i Academi Nomads Cei Connah. Byddwch yn gallu ennill rhai o gymwysterau hyfforddi Pêl-droed FAW os ydych chi’n dymuno.
Rydym yn credu, ni waeth beth rydych chi’n ei astudio yn Cambria, y dylech chi gael y cyfle i gynrychioli ein timau elitaidd. Rydym wedi ymrwymo i gyfuno rhagoriaeth academaidd a chwaraeon, gan gefnogi eich uchelgeisiau yn y dosbarth ac ar y maes.
Yn ein hadroddiad Estyn diweddaraf, rhoddodd arolygwyr radd ‘rhagorol’ i’r coleg, gan wneud Cambria yn un o’r colegau mwyaf llwyddiannus yn y DU, a’r coleg sy’n perfformio orau yng Nghymru.
Cam 1 – Gwahoddir unrhyw chwaraewr sydd â diddordeb yn y rhaglen i ddod i Noson Agored mis Chwefror.
Cam 2 – Yna gofynnir i bob chwaraewr sy’n mynd i’r noson agored gwblhau datganiad o ddiddordeb, gan nodi eu rhesymau dros ddymuno bod yn rhan o’r rhaglen yn ogystal â’u huchelgeisiau wrth symud ymlaen.
Cam 3 – Yn dilyn hyn, mae CQN yn adolygu’r holl ddatganiadau o ddiddordeb a dewisir nifer o chwaraewyr i’w treialu.
Cam 4 – Yn olaf, mae chwaraewyr wedyn yn cael eu dewis o’r treial ac yn cael eu hannog i gwblhau eu cofrestriad coleg.
Mae Suzanne Barnes yn gyfrifol am y maes hwn.
Mae’r tîm pêl-droed dynion yn ddewis hynod o boblogaidd i fyfyrwyr. Rydym yn cynnal treialon yn yr ail wythnos ym mis Medi bob blwyddyn.
Rhwng gemau, byddwch yn cael y cyfle i weithio ar ddatblygiad tactegol a gwaith ffitrwydd.
Mae’r tîm yn cystadlu ar brynhawn dydd Mercher yn y gynghrair AOC y Colegau a’r twrnamaint cenedlaethol Colegau Cymru.
Wrth chwarae ar brynhawn dydd Mercher byddwch yn cael y rhyddid i astudio yn ogystal â chwarae i’r tîm. Hefyd byddwch yn cael cyfleoedd i gwblhau rhagor o gymwysterau ar y cyd a’ch tîm elit.
Rydym yn credu, ni waeth beth rydych chi’n ei astudio yn Cambria, y dylech chi gael y cyfle i gynrychioli ein timau elitaidd. Rydym wedi ymrwymo i gyfuno rhagoriaeth academaidd a chwaraeon, gan gefnogi eich uchelgeisiau yn y dosbarth ac ar y maes.
Hefyd byddwch y cael cyfleoedd i gwblhau rhagor o gymwysterau ar y cyd a’ch tîm elit.
Rydym yn cynnal treialon yn ystod mis Medi, gyda gemau cystadleuol yn dechrau’n fuan wedyn. Rydym yn chwilio am chwaraewyr newydd bob amser i gryfhau’r sgwad, felly peidiwch â phoeni; gallwn roi cyfle i chi ymuno a’r tîm hyd yn oed os ydych chi’n methu’r treial cychwynnol ym mis Medi.
Mae Daniel Millington yn gyfrifol am y maes hwn.
Beth am ymuno â’n darpariaeth pêl-droed merched lwyddiannus a bod yn rhan o dîm sy’n tyfu ac yn datblygu’n gyson, diolch i’n cysylltiadau â Chlwb Pêl-droed Wrecsam.
Gan weithio’n agos gyda hyfforddwyr CPD Wrecsam, gallwn ddarparu llwybr clir i chi o bêl-droed coleg i Dîm Merched o dan 19 oed y clwb.
Bydd tîm y coleg yn hyfforddi ac yn chwarae ar brynhawn Mercher.
Mae’r tîm pêl-droed yn chwarae yn Rhanbarth De Cynghrair y Gogledd Orllewin AoC a hefyd yn cymryd rhan yn Nhwrnamaint Colegau Cymru.
Os cewch eich dewis ar gyfer sgwad Merched Clwb Pêl-droed Wrecsam ac yn astudio yn y Coleg, byddwch yn ymwneud â thîm y Coleg.
Mae chwarae ar brynhawn dydd Mercher yn rhoi’r rhyddid i chi astudio ochr yn ochr â chwarae i’r tîm. Byddwch hefyd yn cael y cyfleoedd i gwblhau rhagor o gymwysterau ochr yn ochr â’ch tîm elît.
Rydym yn credu, ni waeth beth rydych chi’n ei astudio yn Cambria, y dylech chi gael y cyfle i gynrychioli ein timau elît. Rydym wedi ymrwymo i gyfuno rhagoriaeth academaidd a chwaraeon, gan gefnogi eich uchelgeisiau yn y dosbarth ac ar y cae.
Byddwch hefyd yn cael y cyfleoedd i gwblhau rhagor o gymwysterau ochr yn ochr â’ch tîm elît.
Mae tîm y coleg yn cynnal treialon yn ystod mis Medi, gyda gemau cystadleuol yn dechrau yn fuan wedyn. Rydym bob amser yn chwilio am chwaraewyr newydd i gryfhau’r sgwad, felly peidiwch â phoeni; gallwn roi lle i chi ar y tîm hyd yn oed os byddwch yn methu’r treial cychwynnol ym mis Medi.
Caiff merched eu dewis ar gyfer Canolfan Ragoriaeth Merched CPD Wrecsam drwy broses dreialon. Cysylltwch â Jonathan Kerry i ofyn am dreial.
Ymunwch â chwaraeon tîm gwirioneddol a chwarae pêl-rwyd gyda Choleg Cambria. Beth bynnag yw eich maint a’ch gallu i chwarae pêl-rwyd, mae lle i chi ar y cwrt. Mae ein tîm wedi’i leoli ar safle Iâl, ond rydym yn croesawu dysgwyr o bob un o’n safleoedd coleg. Bob blwyddyn mae merched o wahanol glybiau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yn dod at ei gilydd i gystadlu ar gyfer Goleg Cambria, a gallai hynny fod chi! Rydym wedi cael llwyddiannau yng nghynghrair yr AOC a ni oedd Pencampwyr Colegau Cymru yn 2021 a 2022 a ni yw Pencampwyr presennol Cwpan Llywydd Cymru yn 2023.
Byddwn yn hyfforddi ar brynhawn dydd Mercher a byddwn yn canolbwytio ar feithrin sgiliau, cryfder a chyflyru yn ogystal â datblygu strategaeth Trefnwyd gemau ar gyfer prynhawniau Mercher hefyd.
Byddwn yn trefnu gemau ar brynhawn Mercher hefyd.
Mae cysylltiadau â Phêl-rwyd Cymru yn cynnig cyfleoedd i’n chwaraewyr wella eu profiadau dyfarnu. Bydd y rhai sydd â diddordeb mewn hyfforddi yn cael y cyfle i wirfoddoli mewn clybiau pêl-rwyd lleol hefyd.
Mae ein tîm Pêl-rwyd yn cystadlu yng Nghynghrair Gogledd-orllewin 1 Cymdeithas Chwaraeon Colegau (AOC). Rydym hefyd yn cymryd rhan mewn cystadlaethau Colegau Cymru, a phetaem yn llwyddo yno, bydd y tîm yn cynrychioli Cymru yng nghystadlaethau Colegau Prydain. Rydyn ni’n cystadlu yng Nghwpan y Llywydd hefyd.
Rydym yn credu y dylai pob myfyriwr sy’n astudio cwrs yn Cambria gael cyfle i gynrychioli ein timau elît. Rydym wedi ymrwymo i gyfuno rhagoriaeth academaidd a chwaraeon, gan gynorthwyo gydag uchelgais ein myfyrwyr yn yr ystafell ddosbarth ac ar y maes chwarae.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn chwarae pêl-rwyd dewch i gymryd rhan yn ein rhaglen. Rydym yn cynnal treialon ar ddechrau’r tymor i ddewis chwaraewyr i’n dau dîm. Mae ein tîm cyntaf yn cystadlu yn y gynghrair AOC. Rydym yn cynnig tîm hamdden ar gyfer y rhai hynny nad ydynt eisiau cystadlu ond sy’n dymuno chwarae i fwynhau eu hunain ac i gymdeithasu gyda’u ffrindiau.
Danielle Coxey sy’n gyfrifol am Bêl-rwyd ar draws y safleoedd.
Mae Dreigiau Cambria yn dîm chwaraeon sy’n cynnwys myfyrwyr SBA. Mae’r tîm yn chwarae amrywiaeth o chwaraeon yn erbyn colegau eraill. Mae’r rhain yn cynnwys boccia (bowlio), tenis, pêl-droed, pêl law a phêl-rwyd.
Rhaid bod gan y chwaraewr angen dysgu ychwanegol er mwyn chwarae. Rydym yn cystadlu mewn cystadlaethau cwpan a Chynghrair Traws-anabledd Cymdeithas y Colegau. Rydyn ni’n cael llawer o hwyl ac yn mwynhau cystadlaethau cyfeillgar. Mae Dreigiau Cambria yn ymarfer gweithio mewn tîm, cyfathrebu, Gwerthoedd Prydeinig a sgiliau chwaraeon.
Rydym yn credu y dylai pob myfyriwr sy’n astudio cwrs yn Cambria gael cyfle i gynrychioli ein timau elît. Rydym wedi ymrwymo i gyfuno rhagoriaeth academaidd a chwaraeon, gan gynorthwyo gydag uchelgais ein myfyrwyr yn yr ystafell ddosbarth ac ar y maes chwarae.