main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Yana Williams

Mae’r coleg yn ngogledd ddwyrain Cymru yn y ras am Wobr y National Centre for Diversity am Arweinyddiaeth Dysgu Cynhwysol yng Ngwobrau Beacon Cymdeithas y Colegau (AoC), a gynhelir y Gwanwyn nesaf.

Mae’r Gwobrau’n dathlu’r arfer gorau a mwyaf arloesol ymhlith colegau’r DU bob blwyddyn.

Mae’r anrhydedd hon gan y National Centre for Diversity yn cydnabod ac yn dathlu enghreifftiau o sefydliadau sy’n hyrwyddo ac yn ymarfer arweinyddiaeth gynhwysol – gan wneud i bobl deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael eu trin mewn modd teg a pharchus.

Dywedodd Prif Weithredwr Cambria, Yana Williams: “Mae amrywiaeth a chynwysoldeb yn hollbwysig i staff a dysgwyr Cambria wrth i ni geisio meithrin amgylchedd cynnes a chroesawgar gydag iechyd, llesiant, a chefnogaeth yn ganolog iddo.

“Rydyn ni mor falch o fod yn y rownd derfynol am Wobr Beacon unwaith eto, ac yn cynrychioli’r coleg ar lwyfan mor bwysig.

“Mae’r gefnogaeth rydyn ni’n ei darparu i staff niwroamrywiol yn arloesol ac yn gynhwysol, felly mae cael ein cydnabod am hynny yn anrhydedd.”

Ychwanegodd Mark White OBE DL, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol AoC: “Mae Gwobrau Beacon Cymdeithas y Colegau yn dangos yn union pam mae colegau mor bwysig i bob cymuned a pham mae pobl yn eu gwerthfawrogi.

“Mae’r wobr hon yn cydnabod ac yn dathlu enghreifftiau o golegau sy’n hyrwyddo ac yn ymarfer arweinyddiaeth gynhwysol.

“Mae hyn yn dod i’r amlwg fel gallu unigryw a hanfodol ac mae gwaith y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn dangos sut y gall colegau addasu i farchnadoedd amrywiol a newidiol a meithrin syniadau a thalent.”

Yn gynharach eleni, datgelodd Cambria gynllun gweithredu dwy flynedd sy’n canolbwyntio mwy ar wella cysylltiadau cymunedol, ymgysylltu â dysgwyr a staff, ac ymgyrchu dros goleg mwy cyfartal a chynhwysol i bawb.

Meddai Yana: “Y flaenoriaeth yw parhau i gydweithio gyda’n staff a’n myfyrwyr i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau cyfartal, cynhwysol a ‘diwylliannol ddeallus’. Ochr yn ochr â rhanddeiliaid a sefydliadau allweddol ar draws y rhanbarth, rydyn ni am barhau i ddarparu’r safonau uchel hynny ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Am ragor o wybodaeth am Wobrau Beacon Cymdeithas y Colegau, dilynwch @nfcdiversity ac @aoc_info ar y cyfryngau cymdeithasol a defnyddiwch yr hashnodau #AoCBeacons a #LoveOurColleges.

Ewch i www.cambria.ac.uk am y newyddion a’r wybodaeth diweddaraf o Goleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost