Home > Bywyd Coleg > Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n arwain ar ddatblygiad addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sector Ôl-16 yng Nghymru. Mae’r Coleg yn cyflawni hyn drwy weithio mewn partneriaeth gyda phrifysgolion, sefydliadau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau i adeiladu cyfundrefn addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg cynhwysol sydd o’r radd flaenaf.
Er mwyn hwyluso darpariaeth y Coleg, mae gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi’i rannu’n ganghennau lleol.
Nod y canghennau yw cefnogi gwaith y Coleg a gweithredu fel pwynt cyswllt uniongyrchol ar gyfer myfyrwyr a staff.
Wedi’i sefydlu ym mis Medi 2020, mae Cangen Cambria yn gweithio’n barhaus i ehangu a datblygu darpariaeth academaidd a chymdeithasol cyfrwng Cymraeg y coleg.
Yn weithredol ar draws pum safle’r coleg, mae gwaith y gangen yn cynnwys hwyluso a threfnu digwyddiadau, gweithgareddau, cyflwyniadau ac adnoddau cyfrwng Cymraeg a datblygu llwybrau gwaith perthnasol ar gyfer dysgwyr addysg bellach a phrentisiaid.
Gweledigaeth y gangen yw cynyddu defnydd o’r Gymraeg a chyfoethogi cyfleoedd cyfrwng Cymraeg y dysgwyr.
Penodir Swyddog Cangen i bob coleg a’u rôl yw cydlynu gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a gweithredu fel y pwynt cyswllt lleol.
Mae’r Swyddog yn cefnogi darpariaeth cyfrwng Cymraeg y coleg ac yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau (o fewn cyrsiau ac yn allgyrsiol) er mwyn hybu a hyrwyddo defnydd cymdeithasol y Gymraeg.
Yn rhinwedd y rôl, bydd y Swyddog yn ceisio sicrhau bod llais y dysgwyr yn cael eu clywed a’u gweithredu.
Yn Coleg Cambria, mae rhaglen o ddigwyddiadau cymdeithasol yn cael eu cydlynu drwy’r GymGym (Y Gymdeithas Gymraeg), lle mae croeso i ddysgwyr a siaradwyr rhugl y Gymraeg ymuno’n wythnosol i gymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog.
Bob blwyddyn, mae’r coleg yn penodi criw o ddysgwyr brwdfrydig i gefnogi gwaith y Swyddog Cangen ac i hyrwyddo cyfleoedd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog y coleg.
Nod y cynllun yw sicrhau rhwydwaith o lysgenhadon ledled Cymru i annog defnydd y Gymraeg. Ym mis Medi, penodwyd wyth llysgennad Cymraeg Addysg Bellach ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022/23.
Dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
Mae nifer o gyfleoedd i astudio’n ddwyieithog neu drwy gyfrwng y Gymraeg yn y coleg gan gynnwys:
Cyfle i astudio modiwlau’n ddwyieithog
Profiad gwaith mewn safle dwyieithog neu Gymraeg
Cwblhau aseiniadau ac arholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg
Dosbarthiadau tiwtorial Cymraeg
Tiwtor Cymraeg
Adnoddau Cymraeg
Rhestrau termau dwyieithog
Profiad Dysgwyr

Carys Morgan
Llysfasi
Amaethyddiaeth
Fy enw i ydy Carys Morgan. Rydw i’n astudio Amaethyddiaeth lefel 3 yn y coleg ac yn gweithio fel Llysgennad Cymraeg ar safle Llysfasi. Cymraeg yw fy iaith gyntaf ac er fy mod i’n dysgu’n ddwyieithog ar fy nghwrs, mae gallu gwneud peth o fy ngwaith yn Gymraeg yn wych ac yn help mawr imi. Mae’n grêt gallu dewis pa adnoddau neu pa ddarnau o’r cwrs dwi’n eu gwneud yn Gymraeg ac mae fy nhiwtoriaid wastad yn help mawr yn hynny o beth. Rwy’n mwynhau dysgu yn y Gymraeg oherwydd dyna beth sy’n naturiol imi – ges i fy holl addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn Llysfasi, mae yno gymuned Gymraeg glos iawn a dwi’n lwcus hefyd bod rhan fwyaf o’m hathrawon i’n gallu siarad Cymraeg.

Catrin Morris
Chweched Glannau Dyfrdwy
Safon Uwch
Helo! Fy enw i ydi Catrin a dwi’n fyfyriwr yn Chweched Ddosbarth Glannau Dyfrdwy. Dwi’n astudio Busnes, Saesneg, ac Astudiaethau Ffilm. Dwi hefyd yn Llysgennad Cymraeg, sydd yn dod â llawer o gyfleodd arbennig i mi. Ers i mi ymuno, rwyf wedi cyfarfod llawer o ddysgwyr eraill sy’n gallu siarad Cymraeg, ac rydym yn cyfarfod yn aml yn gwenud gweithgareddau hwyliog. Mae hyn yn bwysig iawn i mi fel person iaith gyntaf Cymraeg ac mae’r coleg yn fy helpu i’n ddwyieithog. Mae’r coleg hefyd yn rhoi’r cyfle i mi gyflwyno fy ngwaith yn Gymraeg, ac yn cynnig gwasanaeth cyfieithu arbennig felly mae hyn yn gysur mawr. Mae llawer o gefnogaeth o fy nghwmpas gan gynnwys tiwtor personol Cymraeg ac adnoddau a chymorth cyfrwng Cymraeg. Dwi’n edrych ymlaen at le eith y Gymraeg a fi yn y dyfodol!

Max Bentley
Chweched Glannau Dyfrdwy
Safon Uwch
Haia! Max ydw i a dwi’n Llysgennad Cymraeg yn chweched Glannau Dyfrdwy. Rydw i’n astudio’r Gyfraith, Hanes a Gwleidyddiaeth. Mae’r coleg wedi rhoi’r cyfle i mi gymryd rhan mewn llawer o bethau fel sesiwn tynnu lluniau i hyrwyddo’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a gweithio ar stondin Cymraeg yn ystod un o’n nosweithiau agored. Mae’n grêt cael y dewis o gyflwyno fy ngwaith yn Gymraeg a chael y cyfle i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae bod yn ddwyieithog yn hynod o bwysig i mi gan ei fod yn agor drysau i bob mathau o wahanol gyfleoedd.

Ifan Martin
Glannau Dyfrdwy
Peirianneg

Daisy Williams
Chweched Iâl
Safon Uwch

Dafydd Edwards
Chweched Iâl
Safon Uwch

Owain Jones
Iâl
Chwaraeon

Osian Williams
Ffordd y Bers
Gwaith Trydanol