main logo

Prentisiaethau: Popeth sydd angen i chi ei wybod

Play Video

Pam Dewis Prentisiaeth?

Dechreuwch eich gyrfa gyda phrentisiaeth i ennill cyflog wrth ddysgu.

Mae cwmnïau ledled Gogledd Cymru a thu hwnt yn recriwtio pobl ar gyfer prentisiaethau a hyfforddiant yn y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfa.

Fel prentis byddwch chi’n ennill cyflog wrth ddysgu, ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad a chymwysterau cydnabyddedig ar hyd y ffordd. P’un ai rydych chi rhwng 16 ac 19 oed neu’n 20 oed neu’n hŷn, gallai ystod o opsiynau prentisiaeth fod ar gael i chi.

Mae dysgu wedi’i gyfuno rhwng y gweithle o dan oruchwyliaeth hyfforddwyr cymwys gyda hyfforddiant yng Ngholeg Cambria i gefnogi hynny.

Mae prentisiaethau yn ffordd wych o ddechrau eich gyrfa ac agor y drws i ragolygon cyflogaeth cyffrous yn y dyfodol!

Prif Fanteision

Ennill cyflog

Cael hyfforddiant

Ennill cymhwyster cydnabyddedig

Datblygu sgiliau wrth weithio

Gwyliau â thâl

Mae prentisiaethau Lefel 2 a 3 wedi'u hariannu i bob oedran

Mae modd ariannu prentisiaethau uwch ar gyfer pob oedran (yn amodol ar feini prawf cymhwysedd).

Mae prentisiaid yn cael eu hyfforddi yn y gwaith ac yn y coleg. Bydd faint o amser rydych yn ei dreulio yn y coleg yn dibynnu ar ba brentisiaeth rydych yn ei dilyn.

Gweld Pob Maes Pwnc

Sgiliau Hanfodol

Mae sgiliau hanfodol yn rhan bwysig o’ch prentisiaeth. Eu nod yw gwella eich llythrennedd, rhifedd a’ch llythrennedd digidol. Maent yn eich helpu chi i gyflawni eich prentisiaeth ac maent ar gael hyd at Lefel 3, yn dibynnu ar y cymwysterau sydd gennych chi yn barod (a’r brentisiaeth rydych chi’n ei dilyn).

Mae pob prentis yn cael asesydd sy’n cefnogi eich dysgu.

Cronfeydd yr UE: Buddsoddi yng Nghymru

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost