main logo

Paratoi ar gyfer Gwaith - Llwybr 3

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01361
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Llawn Amser, Cwrs blwyddyn yw hwn. Mae’r cwrs yn un llawn amser, 3 diwrnod yr wythnos.

Y dyddiau mynychu yw: Dydd Mawrth, Dydd Mercher a Dydd Iau.

Hyd y diwrnod coleg yw 9.30am tan 4.45pm (3.45pm ar ddydd Gwener).
Adran
Sgiliau Byw’n Annibynnol
Dyddiad Dechrau
03 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cwrs Sgiliau Byw Annibynnol hwn wedi'i gynllunio i helpu dysgwyr ag anableddau a/neu anawsterau dysgu i ddatblygu ac ymestyn y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer bywyd a gwaith bob dydd. Bydd myfyrwyr ar y cwrs lefel Mynediad hwn yn dilyn cwricwlwm amrywiol sy'n cynnwys Sgiliau Gweithredol wedi'u gwreiddio, Sgiliau Byw a Bywyd, Sgiliau Galwedigaethol, ac Iechyd a Llesiant. Mae Myfyrwyr Newydd yn ymgymryd ag asesiad a sesiwn ymsefydlu cynhwysfawr cychwynnol cyn symud ymlaen i amserlen unigol sy'n gysylltiedig â'u targedau penodol. Cefnogir myfyrwyr i ddewis o amrywiaeth o weithgareddau galwedigaethol gan gynnwys:
Gofal Anifeiliaid, Ceffyleg, Sgiliau Gweithdy, Crefftau Manwerthu ac Adfer Dodrefn, Gwasanaeth Glanhau Ceir, Gwallt a Harddwch, Gwaith Adeiladu, Lletygarwch a/neu Arlwyo, Busnes a Gweinyddu, Drama/Dawns.
Mae gan bob dysgwr Gynllun Dysgu Unigol sy’n cofnodi eu nodau a’u targedau personol. Mae’r myfyrwyr yn derbyn cymorth 1:1 rheolaidd gan eu tiwtor personol i adolygu eu cynnydd. Mae targedau unigol yn sicrhau cynnydd tuag at gyrchfannau hirdymor.
Bydd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn gweithio tuag at Fynediad 2 / 3. Bwriedir y cwrs hwn ar gyfer ymgeiswyr ag anawsterau dysgu cymedrol a/neu anawsterau cymdeithasol ac ymddygiadol.

Caiff pob cais ei ystyried ar sail unigol ac mae cynigion yn seiliedig ar gyfweliad ac ystod o dystiolaeth ategol gan gynnwys cyflawniadau blaenorol ac asesiad o anghenion cymorth. Gofynnwn i bob ymgeisydd fynychu sesiwn ragflas fel rhan o’r broses ymgeisio er mwyn sefydlu eu haddasrwydd, eu potensial a’u hanghenion cymorth ychwanegol. Bydd gan ddysgwyr sy’n addas ar gyfer y cwrs hwn gynllun Addysg (Cynllun Sgiliau Dysgu neu Gynllun Gofal Iechyd Addysg) sy’n cynnwys manylion eu hanghenion dysgu ychwanegol.
Bwriedir y rhaglen hon ar gyfer ymgeiswyr ag anawsterau dysgu sydd angen cymorth ychwanegol i gael gael gafael ar waith neu fynediad i raglenni addysg brif ffrwd. Nod y cwrs Paratoi ar gyfer Gwaith yw cefnogi dysgwyr i fod yn barod i weithio gan ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i gael mynediad i fyd gwaith. Dilyniant posibl o’r cwrs hwn yw’r Porth i Gyflogaeth neu raglen alwedigaethol Mynediad 3. Mae’r cwrs hefyd yn cefnogi dilyniant i fwy o annibyniaeth, byw’n annibynnol a/neu â chymorth, ac amrywiaeth o gyd-destunau sy’n gysylltiedig â gwaith. Ceir cyfleoedd hefyd i archwilio dilyniant i waith cyflogedig, â chymorth neu wirfoddol lle bo hynny’n briodol.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?