main logo

Cymorth Dysgu yn y Gwaith a Phrentisiaethau

Adult learner

Yng Ngholeg Cambria rydym wedi ymrwymo i ddarparu profiad addysg cynhwysfawr, p’un ai rydych ar y safle neu beidio. Rydym yn deall bod dysgwyr prentisiaethau a dysgu yn y gwaith yn wynebu heriau unigryw yn ystod eu taith, felly dyma pam rydym wedi ymrwymo i gynnig ystod o wasanaethau cymorth i helpu ein myfyrwyr prentisiaethau a dysgu yn y gwaith i ffynnu ar y safle, ar-lein ac yn y gwaith.

Mae ein Timau Gwasanaethau Myfyrwyr wedi’u lleoli ar ein holl safleoedd, ac maent yma i ddarparu cymorth ac arweiniad ar faterion personol, ariannol, ac academaidd, gan gynnwys gwybodaeth a chyngor ar gyfleoedd cwrs a gyrfa yn y dyfodol.

Rydym wedi ymrwymo i’ch cynorthwyo chi mewn unrhyw ffordd posib, er mwyn i chi gyflawni eich nodau academaidd a llwyddo mewn bywyd.

Dysgwch isod am sut y gall ein tîm Gwasanaethau Myfyrwyr eich helpu chi.

Gallwch gysylltu â Gwasanaethau Myfyrwyr wrth ffonio 0300 30 30 007 neu anfon e-bost at gwasanaethaumyfyrwyr@cambria.ac.uk.

Rydym yn cydnabod bod iechyd meddwl a llesiant yn gallu cael effaith sylweddol ar brofiad myfyrwyr ac rydym yn angerddol am ddarparu’r cymorth a’r adnoddau gorau i gefnogi llesiant ac iechyd meddwl da.

Nid oes unrhyw feini prawf i’w bodloni, gall dysgwyr dderbyn cwnsela a chymorth lles a gallant siarad â’u Hymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith, galwch i mewn i weld y tîm Gwasanaethau Myfyrwyr neu anfonwch e-bost at gwasanaethaumyfyrwyr@cambria.ac.uk.

Gallwch ddarganfod rhagor am Gymorth Iechyd Meddwl yma.

Gall ein Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr ac Ymgynghorwyd Gyrfaoedd gynorthwyo dysgwyr gyda’u cwestiynau am newidiadau posib mewn swyddi, neu os ydynt yn ansicr am eu cwrs presennol.

Mae gennym Gydlynydd Menter ac Entrepreneuriaeth, a all gynnig arweiniad a chymorth ar hunangyflogaeth a dechrau busnes trwy weithdai, siaradwyr gwadd a chlybiau menter.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau neu ragor o wybodaeth anfonwch e-bost at careers@cambria.ac.uk.

Os oes gennych unrhyw bryderon neu rydych yn poeni am unrhyw un arall, anfonwch e-bost at safeguarding@cambria.ac.uk neu ffoniwch 0300 30 30 009

Yng Ngholeg Cambria rydym yn awyddus i glywed eich llais a’ch barn. Os hoffech gymryd rhan, anfonwch e-bost at studentvoice@cambria.ac.uk