Ysgol Fusnes
Cambria

The inside of cambria business school, from the second floor looking at the first floor and entrance

Croeso

Croeso i Ysgol Fusnes Cambria, ein hadeilad dysgu pwrpasol modern gwerth £3.5 miliwn wedi’i leoli yng nghanol golygfeydd godidog Llaneurgain, Gogledd Ddwyrain Cymru. Mae gan yr ysgol fusnes ddau lawr llawn o’r cyfleusterau rhyngweithiol diweddaraf. Mae’n gartref i rai o’n cyrsiau proffesiynol, cyrsiau lefel gradd a hyfforddiant cyflogwyr.

Mae adeilad yr ysgol fusnes yn cynnwys atriwm trawiadol lle gallwch chi ymlacio ar ein seddau cyfforddus, cymdeithasu ar ein meinciau ac o amgylch y byrddau coffi. Mae digonedd o olau naturiol, cyfleusterau digidol ac ardaloedd rhyngweithiol. Dewch draw i weld sut beth ydi dyfodol dysgu.

Taith Rithwir 360°

Os ydych chi erioed wedi bod eisiau cael cip olwg ar safle cyn i chi ymweld neu ddechrau eich taith gyda ni, gallwch chi wneud hyn yn gyfforddus gartref!

Os oes gennych chi benset rhithrealiti, gallwch chi weld y daith mewn rhithrealiti.

Cambria Business School

Ein Cyfleusterau

Cymerwch gip ar rai o’n datblygiadau diweddaraf ac uchafbwyntiau’r safle!

Dewiswch un o’r lluniau neu’r eiconau isod i weld darlun 3D o’r cyfleuster hwnnw.

Os oes gennych chi benset rhithrealiti, gallwch chi weld y daith mewn rhithrealiti.

Dewch o hyd i gwrs sy'n addas i chi yn Llaneurgain

Edrychwch ar ba gyrsiau sydd ar gael

Cliciwch ar un o’r pynciau isod i weld y rhestr lawn o gyrsiau rydyn ni’n eu cynnal yn Ysgol Fusnes Cambria.

Gweld ein safleoedd eraill

Cymerwch gip ar ein safleoedd eraill wrth glicio’r botwm isod!

Site website montage

Ble i ddod o hyd i ni

Coleg Cambria Llaneurgain

Ffordd Treffynnon

Yr Wyddgrug

Sir y Fflint

CH7 6AA

Rhif Ffôn

Gwasanaethaumyfyrwyr@cambria.ac.uk