main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Adeilad ffordd y Bers

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch ym mis Mawrth.

Byddwch yn gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod â’n staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein holl gymorth cynhwysiant a dysgu.

Dewch i’n gweld ni yn ein Digwyddiadau Agored Mis Mawrth lle gallwch chi:

  • Ddarganfod beth sydd ar gael
  • Archwilio ein cyfleusterau o’r radd flaenaf
  • Siarad â’n tiwtoriaid arbenigol
  • Cael ateb i’ch holl gwestiynau
  • Cyfarfod ein myfyrwyr presennol
  • Gwnewch gais am gwrs

I wneud y mwyaf o’r amser sydd ar gael, rydym yn argymell eich bod yn cyrraedd 5.30pm.

Mae nifer y tocynnau yn gyfyngedig ar gyfer y digwyddiadau hyn i’ch galluogi chi i fwynhau’r digwyddiad agored mewn amgylchedd cyfeillgar synhwyraidd heb heidiau o bobl.

Mae dyddiadau ein Digwyddiadau Agored Hygyrch eraill fel a ganlyn:

Glannau Dyfrdwy/ Chweched Glannau Dyfrdwy – Thursday 14th March – 5:30pm to 6:30pm

Iâl / Chweched Iâl – Wednesday 20th March – 5:30pm to 6:30pm

Llaneurgain – Wednesday 10th April – 5:30pm to 6:30pm

Llysfasi – Thursday 11th April – 5:30pm to 6:30pm

Booking will open in January, in the meantime, feel free to check out our Open Event top tips!

Rydym yn cynnal ein prif Ddigwyddiadau Agored ar y dyddiadau isod:

Glannau Dyfrdwy/ Chweched Glannau Dyfrdwy – Wednesday 6th March – 5pm to 7pm

Llysfasi – Saturday 9th March – 10am to 12pm

Iâl / Chweched Iâl / Ffordd y Bers – Wednesday 13th March – 5pm to 7pm

Llaneurgain – Saturday 16th March – 10am to 12pm