Pam ein dewis ni
Ein Gwasanaethau
Ysgol Fusnes Cambria
Canllaw Cyrsiau
Llogi Lleoliad
Manteision gweithio gyda Cambria ar gyfer Busnes
Ni yw un o ddarparwyr mwyaf addysg a hyfforddiant yng Nghymru a Gogledd Orllewin Lloegr. Mae gennym enw da o ran darparu sgiliau a pherthnaseddau cadarn gyda chyflogwyr rhanbarthol a chenedlaethol.
Rydym yn gweithio gyda busnesau o bob maint gan gyflwyno hyfforddiant a datblygiad hyblyg o safon uchel sy’n bodloni anghenion y diwydiant.
Mae tîm Cambria ar gyfer Busnes yn darparu un pwynt cyswllt ar gyfer cyflogwyr, gan helpu i nodi eich anghenion hyfforddiant, cyllid hygyrch a chynorthwyo busnesau i elwa ar y manteision a all ddod yn sgil y buddsoddiad hwn. Mae’r tîm hefyd yn gweithio’n agos gyda’n Siop Swyddi, i ddarparu cymorth hysbysebu recriwtio i’n cyflogwyr a mynediad i’n myfyrwyr, i gynorthwyo â dilyniant yn eich busnes ac anghenion cynllunio gweithlu’r dyfodol.
Bydd y tîm yn teilwra’r gwasanaethau i weddu i’ch anghenion unigol, eich cyllideb a’ch amcanion. Mae ganddynt gyfoeth o wybodaeth ar draws y diwydiant, y maent yn ei defnyddio i helpu i gynghori a rhoi gwybod i fusnesau am y datrysiadau hyfforddi gorau sydd ar gael a ffynonellau cyllid posibl.
Chwilio am ein holl gyrsiau
Pam gweithio gyda ni
Proffil graddau gorau
Profiad
Staff profedig
Partneriaethau cadarn
Bodloni eich anghenion busnes
Darparwr cymeradwy
Miloedd o fyfyrwyr i ddewis ohonynt i gynorthwyo â chynlluniau recriwtio
Cyfleusterau hyfforddi o'r radd flaenaf
Cael gwybod am y newyddion diweddaraf
Cofrestru ar gyfer ein cylchlythyr Cambria ar gyfer Busnes
Newyddion Diweddaraf
Fe wnaeth dysgwyr ymroddedig loywi diwrnod y myfyrwyr a’r staff yng Ngholeg Cambria
Mae criw o ymchwilwyr addysgu yn paratoi i suddo eu dannedd mewn antur elusennol epig
Gyda Pwy Rydym yn Gweithio
Diwallu anghenion eich busnes
Mae ein tîm dawnus yma i’ch helpu chi, gydag ystod eang o arbenigedd a phrofiad o fewn y sector masnachol a chyhoeddus ac enw da cadarn am ddarparu rhagoriaeth academaidd ar draws ein portffolio o gyrsiau, rydym yn siŵr bod gennym ni’r atebion sydd fwyaf addas i chi.
P’un a ydych am uwchsgilio gweithwyr presennol, hyfforddi staff newydd neu ddatblygu sgiliau arwain a rheoli, mae gennym ystod eang o gyrsiau, hyfforddiant a phecynnau pwrpasol ar gael.
Chwiliwch ein holl gyrsiau
Cipolwg ar ein gwasanaethau
Dyma rai o’r ffyrdd y gallwn eich helpu i recriwtio pobl ddawnus, gwella sgiliau eich gweithlu a thyfu eich busnes.
Cymorth recriwtio a chreu cysylltiadau gyda myfyrwyr trwy Siop Swyddi Cambria.
Cyflogi Prentis
Datblygu proffesiynol
Cyrsiau rhan amser
Atebion Pwrpasol
Cyrsiau lefel gradd
Twf Swyddi Cymru+
Cymorth Recriwtio
Creu cysylltiadau gyda myfyrwyr
trwy Siop Swyddi Cambria
Croeso
Croeso i Ysgol Fusnes Cambria, sef amgylchedd dysgu modern gwerth £3.5 miliwn mewn amgylchedd prydferth a thrawiadol yn Llaneurgain, Gogledd Ddwyrain Cymru. Mae gan yr Ysgol Fusnes newydd ddeulawr o gyfleusterau modern, rhyngweithiol ac mae’n gartref i rai o’n cyrsiau datblygu proffesiynol, cyrsiau lefel gradd a hyfforddiant cyflogwyr.
Mae adeilad yr ysgol fusnes yn cynnwys atriwm trawiadol gyda seddau cyfforddus, byrddau coffi, soffas a meinciau lle gallwch gymdeithasu. Gyda’i olau naturiol helaeth, cyfleusterau digidol a mannau rhyngweithiol, dyma ddyfodol dysgu.
Ble ydym ni
- Ysgol Fusnes Coleg Cambria
- Ffordd Treffynnon,
- Llaneurgain,
- Yr Wyddgrug,
- CH7 6AA
Teithiau Rhithwir 360°
Ysgol Fusnes
Cambria
Chwilio am Gyrsiau Ysgol Fusnes Cambria
Pam Dewis Ysgol Fusnes Cambria
Proffil gradd gorau
Rydym wedi ennill y Proffil Gradd Gorau hyd yma ar gyfer dysgu yn y gwaith yng Nghymru ar ôl arolygiadau gan Estyn Arolygiaeth Ei Mawrhydi.
Enw da
Mae gennym flynyddoedd o brofiad perthnasol ac enw da mewn cyflwyno hyfforddiant masnachol.
Staff Profiadol
Mae gennym staff profiadol, sydd wedi ennill gwobrau sydd â llu o wybodaeth am y diwydiant i'w rhoi i chi.
Partneriaethau cadarn
Mae gennym bartneriaethau gwaith cadarn gyda dros 1500 o gyflogwyr o bob maint ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.
Pethau Defnyddiol i'w Lawrlwytho
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
I ddarganfod popeth am y cyrsiau prentisiaeth rydym yn eu cynnig, cliciwch yma.
Lleoliad Cynadleddau a Chyfarfodydd
Mae gan ein mannau cynadledda a chyfarfod pwrpasol a darlithfeydd bopeth y bydd ei angen arnoch i gynnal eich digwyddiad. Ar gyfer ein cynrychiolwyr busnes a gwesteion, rydym yn cynnig wifi, ystafelloedd cyfarfod mawr, ystafelloedd bwrdd ar gyfer eich cyfarfodydd mwy ffurfiol a neuaddau digwyddiadau a all gynnwys cynadleddau, cyfarfodydd rhwydweithio a seremonïau gwobrwyo.
Wifi
Lluniaeth
Ysafelloedd Bwrdd
Mannau Cyfarfod Mawr
Llogi lle yn ein Ysgol Fusnes
Siaradwch â'r tîm
Os hoffech drafod y ffyrdd y gallwn helpu eich busnes i dyfu, ffoniwch neu e-bostiwch ein tîm heddiw neu llenwch y ffurflen isod.
Cysylltwch â ni
0300 303 006
Lleoliadau
Fel pe na bai ein Hysgol Fusnes Cambria yn Llaneurgain yn ddigon, mae gennym ni leoedd mewn llawer o leoliadau eraill hefyd. Gallwch ddewis o Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych. Mae ganddynt hefyd ystafelloedd cyfarfod mawr, ystafelloedd bwrdd ar gyfer eich cyfarfodydd mwy ffurfiol, a neuaddau digwyddiadau a all gynnwys unrhyw gynadleddau, digwyddiadau rhwydweithio a seremonïau gwobrwyo!
Gan ein bod ar ffin Gogledd Cymru, rydym mewn sefyllfa berffaith i ddod â chydweithwyr ynghyd, waeth beth fo’r achlysur.
Ymholiad Llogi Lleoliad
Llenwch y ffurflen isod a byddwn yn cysylltu â chi
Cadw'n Hysbys
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr Cambria for Business.