main logo

Meithrin Gwytnwch - Llwybr 3

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01359
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn. Mae’n gwrs llawn amser, 3 diwrnod yr wythnos.
Y diwrnodau yn y coleg yw: Dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener.
Hyd y diwrnod coleg yw 9.30am tan 4.45pm (3.45pm ar ddydd Gwener).
Adran
Sgiliau Byw’n Annibynnol
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Lluniwyd cyrsiau Sgiliau Byw’n Annibynnol i gynorthwyo dysgwyr sydd ag anableddau a/neu anawsterau datblygu ac estyn y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer bywyd bob dydd a gwaith. Bydd myfyrwyr ar y cwrs lefel Mynediad hwn yn derbyn cymorth ychwanegol i ddilyn cwricwlwm amrywiol sy’n cynnwys: Sgiliau Gweithredol, Sgiliau Bywyd a Byw, Sgiliau Galwedigaethol, ac Iechyd a Llesiant. Bydd myfyrwyr newydd yn ymgymryd ag asesiad a chyflwyniad cychwynnol cynhwysfawr cyn symud ymlaen i amserlen unigol sy’n gysylltiedig â’u targedau penodol.

Byddwn yn cynorthwyo myfyrwyr i ddewis o ystod o weithgareddau galwedigaethol sy’n gallu cynnwys:

Gofal Anifeiliaid, Ceffylau, Sgiliau Gweithdy, Crefftau Manwerthu ac Adfer Dodrefn, Glanhau Ceir, Gwallt a Harddwch, Gwaith Adeiladu, Lletygarwch a/neu Arlwyo, Busnes a Gweinyddu, Drama/Dawns.
Mae gan bob myfyriwr Gynllun Dysgu Unigol sy’n cofnodi eu nodau a’u targedau unigol. Bydd myfyrwyr yn derbyn cymorth un i un yn rheolaidd gan eu tiwtor personol i adolygu eu cynnydd. Mae targedau unigol yn sicrhau bod myfyrwyr yn symud ymlaen i gyrchfannau tymor hir.
Bwriadwyd y cwrs hwn ar gyfer ymgeiswyr ag anawsterau dysgu cymhleth cymedrol a/neu anawsterau cymdeithasol ac ymddygiadol, y nodwyd bod angen cymorth arbenigol uwch arnynt ar raglen Llwybr 3

Byddwn yn ystyried pob cais yn unigol a bydd unrhyw gynnig yn dibynnu ar asesiad ac ystod o dystiolaeth atodol, gan gynnwys cyflawniadau blaenorol ac asesu anghenion cymorth. Rydym yn gofyn i bob ymgeisydd ddod i sesiwn rhagflas fel rhan o’r broses ymgeisio, i gadarnhau eu haddasrwydd, eu gallu a’u hanghenion cymorth ychwanegol.

Bydd gan ddysgwyr sy’n addas ar gyfer y cwrs hwn, Gynllun Addysg (Cynllun Sgiliau Dysgu neu Gynllun Gofal Iechyd Addysg) sy’n nodi eu hanghenion dysgu ychwanegol.
Efallai bydd dysgwyr yn gallu symud ymlaen o’r cwrs hwn i Lwybr 3 – Archwilio Gwaith neu Baratoi ar gyfer Gwaith. Mae’r cwrs hefyd yn cynorthwyo gyda symud ymlaen i ragor o annibyniaeth, byw’n annibynnol / byw â chymorth, a nifer o gyd-destunau amrywiol sy’n gysylltiedig â gwaith. Lle bo hynny’n briodol, bydd cyfle hefyd i ystyried symud ymlaen i waith â chymorth naill ai’n wirfoddol neu gyda thâl.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?