main logo

Lefel 1 mewn Niwrogyfryngau

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP87953
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs llawn amser 1 flwyddyn – Glannau Dyfrdwy
Adran
Dysgu Sylfaen, Sgiliau Byw’n Annibynnol
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Niwro Gyfryngau Lefel 1 yn gwrs cynhwysol ac wedi’i gefnogi’n llawn sydd â'r nod o ddarparu amgylchedd dysgu a fydd yn gweddu orau i CHI. Bwriad y cwrs hwn yw diwallu anghenion a galluoedd dysgwyr Awtistig ac mae'n ffordd wych o ddysgu mwy am y digidol a'r hyn y gall ei gynnig.

Mae astudio cwrs Niwro Gyfryngau yng Ngholeg Cambria yn eich galluogi i weithio gyda chynhyrchion arloesol a thechnoleg newidiol yn y sector sy'n tyfu gyflymaf yn y byd. Mae'n eich rhoi yn y lle gorau posib i wneud y gorau o'r amgylchedd digidol hwn a manteisio'n llawn ar eich potensial.

Bydd Niwro Gyfryngau yn eich darparu gyda'r cymysgedd cywir o sgiliau er mwyn cynyddu eich uchelgeisiau, gan sicrhau eich bod yn cael y profiad a'r wybodaeth cyffredinol gorau i lwyddo. Ar y cwrs byddwch yn gweithio gyda staff arbenigol i wireddu eich gwir botensial, wrth i chi ddatblygu eich sgiliau digidol a chyflogadwyedd. Gyda chefnogaeth lawn, byddwch hefyd yn datblygu sgiliau cyfathrebu cymdeithasol, trefnu, bywyd a byw.

Wedi'ch cefnogi'n llawn ym mhob maes o’r cwrs gan staff cymorth profiadol, arbenigol, bydd gennych yr hyder a'r gallu i archwilio diwydiannau'r Cyfryngau, gyda'r opsiwn i symud ymlaen o fewn y coleg i lwyddo mewn bywyd a gwaith.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn technolegau digidol? Gall y cwrs hwn eich helpu i fynd ar y trywydd iawn!

Ar y cwrs hwn bydd cymhwyster Lefel 1 BTEC Pearson mewn Technoleg Gwybodaeth yn eich darparu gyda'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i lwyddo mewn ystod o wahanol unedau ac arbenigeddau. Gall hyn gynnwys rhai o'r canlynol -
● Bod yn Drefnus
● Datblygu Cynllun Dilyniant Personol
● Gweithio gydag Eraill
● Ymchwilio i Bwnc
● Defnyddio Technolegau Cyfathrebu Digidol
● Creu Gwefan
● Creu Cynnyrch Digidol
● Datblygu Graffigyn Digidol wedi’i Animeiddio

Byddwch hefyd yn derbyn cymorth a hyfforddiant mewn Saesneg a Mathemateg ar y cwrs, gan eich galluogi i gyflawni cymhwyster perthnasol a sgiliau swyddogaethol.
Asesu parhaus trwy dasgau a monitro gan diwtor.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol, er bod disgwyl i ddefnyddwyr fod yn gyfarwydd â hanfodion defnyddio cyfrifiadur a’r rhyngrwyd, a bod â Chynllun Dysgu a Sgiliau, Cynllun Datblygu Unigol neu Gynllun Addysg, Iechyd a Gofal cyfredol.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr symud ymlaen i’r lefel nesaf o ddysgu.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?