main logo

Cyllid i Gyflogwyr a Gweithwyr

Gwybodaeth SEE

Mae prosiect Sgiliau i Gyflogwyr a Gweithwyr werth £18.7 miliwn ac yn gyfle cyffrous i chi a’ch busnes. Os ydych chi wedi’ch lleoli yng Ngogledd Cymru, bydd y prosiect hwn yn eich helpu i ddatblygu sgiliau staff a chreu gweithlu tra chymwys, gan eich galluogi i gyflwyno rhagor o lwyddiant masnachol yn y dyfodol.

Sefydlwyd Sgiliau i Gyflogwyr a Gweithwyr i ddarparu cynnydd sylweddol i’r economi lleol, wrth gynnig hyfforddiant â chymhorthdal i 7,000 o weithwyr. Mae’n targedu sectorau allweddol gan gynnwys: bwyd, economi ddigidol, gwyddorau bywyd ac iechyd, gweithgynhyrchu uwch, twristiaeth, adloniant a hamdden, gofal, adeiladu, ac ynni a charbon isel. Peidiwch â phoeni os nad yw eich busnes yn gweithredu yn y sectorau hyn, gallwch chi geisio am gyllid o hyd! Gwiriwch eich cymhwysedd isod.

A yw fy musnes yn gymwys i gael cyllid SEE

MASNACHWYR UNIGOL, BUSNES MEICRO, BACH, CANOLIG A MAWR

SECTOR PREIFAT NEU GYHOEDDUS (SECTORAU BLAENORIAETH YN UNIG)

BUSNESAU SYDD WEDI'U COFRESTRU YNG NGHYMRU

CADARNHAD COFRESTRIAD TAW GAN CTHEM (HUNAN-GYFLOGEDIG)

Pa gymorth y byddaf yn ei gael

Mae lefel hyd yn oed yn uwch o gymorth ariannol ar gael trwy’r prosiect yn sgil COVID-19. Gallwch chi gyrchu hyd at 100% o hyfforddiant â chymhorthdal ar gyfer eich gweithle (meini prawf cymhwysedd yn berthnasol).

Bydd y tîm Sgiliau i Gyflogwyr a Gweithwyr yn adnabod bylchau sgiliau a chyfleoedd hyfforddiant yn eich tîm. Ar ôl i chi gytuno ar gynllun hyfforddiant, bydd y darparwyr cymeradwy yn rheoli eich cyrsiau drosoch chi. Byddwn yn sicrhau bod y cyrsiau yn gweddu eich busnes; ac yn cael eu dewis er mwyn i’ch tîm wneud eu gorau glas.

Lawrlwytho'r rhestr o gyrsiau cymorthdaledig

A yw fy ngweithiwr yn gymwys i gael Cyllid SEE

16 OED O LEIAF

GWEITHIWR SY'N CAEL EU TALU GAN GWMNI CYMWYS

NID YDYNT YN CAEL UNRHYW GYLLID ARALL GAN Y LLYWODRAETH AM YR UN HYFFORDDIANT

HAWL I FYW A GWEITHIO YN Y DU

NID OES RHAID IDDYNT FYW YNG NGHYMRU

Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Partneriaid

Prentisiaethau

.

Llywodraeth Cymru

.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost