Cyflogi Prentis
Cyllid Prentisiaethau
Cyflogi prentis yng nghymru
Rydym yn ddarparwr prentisiaethau allweddol yng Nghymru ac rydym yn gweithio gyda nifer o sectorau diwydiant ledled y rhanbarth ac ymhellach na hynny.
Mae nifer y cyflogwyr sy’n dewis prentisiaethau ar gyfer eu gweithwyr presennol a newydd yn cynyddu ac mae rhagor o fusnesau’n sylweddoli manteision cefnogi datblygu sgiliau trwy raglenni prentisiaethau.
Gweld pob Maes Pwnc
Popeth sydd angen i chi ei wybod
Mae prentisiaid yn ennill sgiliau gwerthfawr wrth weithio, ochr yn ochr ag astudio tuag at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol sydd cyfwerth â 5 TGAU
Mae prentisiaid yn ennill sgiliau gwerthfawr wrth weithio, ochr yn ochr ag astudio tuag at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol sydd cyfwerth â 2 Safon Uwch
Ar lefel Prentisiaethau Uwch, mae unigolion yn gweithio tuag at gymhwyster sy’n gyfwerth â HND / HNC, gradd sylfaen neu radd anrhydedd. Mae Prentisiaethau Uwch ar gael ar draws ystod o sectorau o Awyrennau i Gyfrifeg i Adeiladu.
Siaradwch â'n tîm heddiw
Siaradwch â’n tîm cyfeillgar heddiw i ddysgu rhagor am brentisiaethau – 0300 30 30 006, neu cliciwch ar y botwm sydd gyferbyn i anfon e-bost at y Tîm Prentisiaethau.
Cyflogi prentis yn Lloegr
Rydym yn ddarparwr cymeradwy yn Lloegr ar gyfer Busnesau sy’n Talu’r Ardoll. Mae nifer y cyflogwyr sy’n dewis prentisiaethau ar gyfer eu gweithwyr presennol a newydd yn cynyddu ac mae rhagor o fusnesau’n sylweddoli manteision cefnogi datblygu sgiliau trwy raglenni prentisiaethau.
Mewn partneriaeth â

Llywodraeth Cymru
.
Strwythur Prentisiaethau
Twf Swyddi Cymru+
Lefel 1
Cymwysterau Cyfwerth
Dysgu Galwedigaethol
Lefel Cyflogaeth
Cyn-brentisiaeth
Prentisiaethau Sylfaen
Lefel 2
Cymwysterau Cyfwerth
5 TGAU (Gradd A-C)
Lefel Cyflogaeth
Technegydd rhannol gymwys
Prentisiaethau
Lefel 3
Cymwysterau Cyfwerth
3 Chymhwyster Safon Uwch
Lefel Cyflogaeth
Technegydd Cymwys / Arweinydd Tîm
Prentisiaeth Uwch
Lefel 4/5
Cymwysterau Cyfwerth
Gradd Sylfaen (HNC / HND)
Lefel Cyflogaeth
Rheolwr
Prentisiaethau Gradd/Uwch
Lefel 5/6
Cymwysterau Cyfwerth
Gradd Baglor / Gradd Meistr
Lefel Cyflogaeth
Uwch Reolwyr / Partner / Cyfarwyddwr
Cwestiynau Cyffredin
CYMRU
Rhaid i chi fod: Yn 16 oed neu’n hŷn. Wedi gweithio o leiaf 16 awr Gwaith 51% o’r amser yng Nghymru am gyfnod eich prentisiaeth. Ddim mewn addysg amser llawn.
Mae hyd prentisiaeth yn dibynnu ar y math o gymhwyster a’r lefel. Gall prentisiaeth gymryd rhwng 1 a 4 blynedd i’w chwblhau.
Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yn llawn gan Lywodraeth Cymru.
Byddwch yn cael eich talu yn unol â chanllawiau cyflog cenedlaethol – Dilynwch y ddolen i gael rhagor o wybodaeth am ganllawiau Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Mae’r ddarpariaeth yn dibynnu ar y diwydiant y mae’r brentisiaeth ynddo. Mae rhai rhaglenni’n cael eu cyflwyno yn y gweithle yn unig, mae eraill angen mynd i un o safleoedd ein coleg.
Ydyn – mae prentisiaethau yn agored i weithwyr presennol a gweithwyr newydd.
Yn Amodol ar Gymhwysedd.
Mae cyflogwyr yn hysbysebu cyfleoedd prentisiaeth ar eu cyfryngau eu hunain a / neu drwy Wasanaeth Paru Prentisiaethau Gyrfa Cymru
LLOEGR
Yn 16 oed neu’n hÿn Yn gweithio 30 awr yr wythnos o leiaf Gweithio 50% o’r amser yn Lloegr am gyfnod eich prentisiaeth Ddim mewn addysg amser llawn.
Mae hyd prentisiaeth yn dibynnu ar y math o gymhwyster a’r lefel. Gall prentisiaeth gymryd rhwng 1 a 4 blynedd i’w chwblhau.
Gall prentisiaethau gael eu hariannu gan daliadau ardoll cyflogwyr, cyd-fuddsoddi a ariennir rhwng cyflogwyr a’r ESFA neu eu hariannu’n llawn gan yr ESFA (yn dibynnu ar feini prawf).
Byddwch yn cael eich talu yn unol â chanllawiau cyflog cenedlaethol – Dilynwch y ddolen i gael rhagor o wybodaeth am ganllawiau Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Rhaid i leiafswm o 20% o’r dysgu fod ‘i ffwrdd o’r swydd’ a bydd hyn yn cael ei gytuno gyda’ch cyflogwr yn y cyfnod ymsefydlu.
Ydyn – Mae prentisiaethau yn agored i weithwyr presennol a recriwtiaid newydd
Yn Amodol ar Gymhwysedd.
Mae cyflogwyr yn hysbysebu cyfleoedd Prentisiaeth ar eu sianeli eu hunain a/neu drwy’r gwasanaeth Darganfod Prentisiaeth
Datblygwch eich gweithlu gyda rhaglenni Prentisiaeth wedi'u hariannu'n llawn.
Ydych chi am wella sgiliau eich gweithlu presennol? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi elwa o newidiadau diweddar yng nghyllid Llywodraeth Cymru? Fel rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru i greu Cymru ‘Llewyrchus a Diogel’, gall gweithwyr o unrhyw oedran a hyd gwasanaeth elwa ar y rhaglen Brentisiaeth wedi’i hariannu’n llawn.
Os ydych chi eisiau ehangu eich busnes, datblygu gweithlu medrus, lleihau costau hyfforddi a recriwtio, heddiw ydy’r amser gorau.
Cysylltwch â thîm Cambria ar gyfer Busnes am ragor o wybodaeth ar 0300 30 30 006.
Bwriadu cyflogi Prentis?
Cadarnhau Cymhwysedd
Cysylltwch â Cambria ar gyfer Busnes trwy anfon e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk neu ffonio 0300 30 30 006 i gael rhagor o wybodaeth neu i gadarnhau cymhwysedd.
Partneriaid

Prentisiaethau
.

Llywodraeth Cymru
.