Home > Cyfrif Dysgu Personol
CYFRIF DYSGU PERSONOL (PLA)
Rhagymadrodd
Gwirydd Cymhwysedd
Cyrsiau
FAQ

Darganfyddwch gyrsiau hyblyg sy’n *rhad ac am ddim ar draws amrywiaeth o feysydd pwnc yng Ngholeg Cambria sydd wedi’u dylunio i’ch helpu i ddatblygu neu newid eich gyrfa.
*Os ydych yn hŷn na 19 oed, yn byw yng Nghymru, mewn cyflogaeth ac yn ennill llai na £30,596 y flwyddyn, neu os yw eich swydd mewn perygl, mae Cyfrif Dysgu Personol yn ffordd wych i gael y cyfle i astudio cyrsiau penodol yn rhan amser.
Beth yw Cyfrif Dysgu Personol?
Mae Cyfrif Dysgu Personol yn eich galluogi i astudio cyrsiau rhan amser yn hyblyg ochr yn ochr â’ch bywydau a’ch ymrwymiadau. Mae’n eich galluogi i feithrin y sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen arnoch i newid eich gyrfa neu i ddilyn llwybr newydd.
Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn darparu dysgu hyblyg sydd wedi’i ariannu’n llawn, ar-lein ac wyneb yn wyneb.
Byddwch yn gallu ennill sgiliau a chymwysterau newydd sydd eu hangen ar gyflogwyr lleol i’ch helpu i wneud cynnydd yn eich gyrfa bresennol neu i newid eich gyrfa yn gyfan gwbl.
Mae pob un o’r cyrsiau sy’n cael eu cynnig yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. Gallwch weld y rhestr lawn o gyrsiau Cyfrif Dysgu Personol yng Ngholeg Cambria isod.
Siaradwch â'r Tîm
Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth!

Ydych chi’n gymwys?
- Ydych chi’n hŷn na 19 oed?
- Ydych chi’n byw yng Nghymru?
- Ydych chi mewn cyflogaeth ac yn ennill llai na £30,596 y flwyddyn? Neu a yw eich swydd mewn perygl?
Os ydych chi wedi ateb ‘ydw’ i’r cwestiynau hyn, dylech chi fod yn gymwys ar gyfer cyllid Cyfrif Dysgu Personol a chyrsiau AM DDIM.
Beth sydd angen i chi ei wneud nesaf?
Mae angen i chi gael y dogfennau canlynol yn barod
- Eich Pasbort neu Dystysgrif Geni
- Trwydded Yrru neu Fil Cyfleustodau
- Slipiau cyflog y 3 mis diwethaf (neu un slip cyflog o bob un o’r tri mis diwethaf os telir yn wythnosol)
- Bydd rhaid i rai nad oes ganddynt basbort y DU gael Setliad yr UE/BRP
Cliciwch ar y botwm Creu eich Cyfrif Dysgu Personol ar waelod y dudalen hon
Byddwch chi’n cyrraedd ein porth i greu eich Cyfrif Dysgu Personol. Bydd angen i chi greu proffil/cyfrif gyda’r Coleg yma*.
*Os oes gennych chi fanylion mewngofnodi Cambria yn barod o gais blaenorol i’r Coleg, defnyddiwch y manylion hynny.
Ar ôl i chi osod eich proffil/cyfrif gyda’r Coleg, gwnewch y canlynol:
- Cwblhewch POB rhan o’r ffurflen gais a thiciwch bob caniatâd perthnasol
- Uwchlwytho’r HOLL dystiolaeth angenrheidiol
- Cliciwch anfon.
Ar ôl i chi glicio anfon, bydd eich cyfrif yn cael ei ddilysu, byddwn yn gwirio eich dogfennau a bydd aelod o’r tîm Cyfrif Dysgu Personol yn cysylltu â chi o fewn 7 diwrnod.
Ceisiadau sydd heb eu cwblhau
- Os nad ydych chi wedi uwchlwytho eich tystiolaeth, byddwch chi’n cael e-bost am 3 diwrnod yn olynol i’ch atgoffa chi.
- Os nad ydym yn cael unrhyw ymateb ar ôl y 3 e-bost, bydd eich cais yn cael ei gau a bydd angen i chi ddechrau’r broses o greu eich cyfrif eto.
Rhagor o gyngor ac arweiniad
Cysylltwch â pla@cambria.ac.uk os oes gennych chi ragor o gwestiynau neu os oes angen rhagor o arweiniad arnoch chi.
Cyfrifeg
Gwasanaethau Harddwch
CISCO
Adeiladu
Technolegau Digidol
Addysg a Hyfforddiant
PEIRIANNEG
Amgylcheddol
Cymorth Cyntaf
Gweithgynhyrchu Bwyd
ECDL
Arwain a Rheoli
NEBOSH ac IOSH
Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol
PLD (digidol)
Tywysog2 Ymarferydd
Sefydliad Prince2
Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol
Byddwn yn gwirio eich cymhwysedd pan fyddwch yn gwneud cais. Mae’n rhaid i chi fod:
- Yn byw yng Nghymru
- Eisiau ennill sgiliau
- Yn hŷn na 19 oed
Yn ogystal â hyn rhaid i chi ddilyn y meini prawf canlynol:
- Bod yn gyflogedig (gan gynnwys hunangyflogedig), yn ennill o dan yr incwm canolrifol (£30,596), neu
- Yn weithiwr ar gontract dim oriau, neu
- Staff asiantaeth, neu
- Mewn perygl o gael eich diswyddo, neu
- Yn gyflogedig ac wedi cael eich effeithio’n negyddol gan yr economi e.e. y diwydiant lletygarwch.
Mae unigolion yn anghymwys (ar adeg gwneud y cais) os ydynt:
- Yn iau na 19 oed; neu
- Yn mynd i ysgol neu goleg yn llawn amser fel disgybl neu fyfyriwr; neu
- Yn astudio’n llawn amser ar gwrs addysg uwch; neu
- yn astudio cwrs Dysgu yn y Gwaith a ariennir gan Lywodraeth Cymru
- yn wladolyn tramor anghymwys; neu
- yn cael Grant Dysgu Cynulliad neu Lwfans Cynnal a Chadw Addysg; neu
- yn anghyflogedig.
Gan fod y rhaglen i unigolion sy’n dymuno newid eu gyrfaoedd, nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am y sector. Gellir dechrau rhai cyrsiau heb unrhyw sgiliau neu gymwysterau penodol.
Ond gallwch drafod gofynion y cwrs pan fyddwch yn cael eich cyfarfod gydag aelod o dîm Cyfrif Dysgu Personol Coleg Cambria.
Bydd staff y coleg yn gwneud eu gorau i ddiwallu anghenion pawb wrth gynllunio dyddiadau ac amseroedd cynnal y cwrs.
Rydym yn gweithredu’n hyblyg a byddwn yn anelu at gyflawni’r dysgu o amgylch ymrwymiadau teuluol a gwaith pobl. Byddwch yn trafod pryd rydych ar gael yn ystod eich asesiad cyn-derbyn. Yn ogystal â hynny, mae’r coleg yn cynnal nifer o gyrsiau ar-lein.
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r cwrs yn llawn.
Bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu’r cwrs yn llawn.
Ond bydd angen i chi dalu eich costau teithio a sicrhau fod gennych ddigon o amser i fynychu’r cwrs a’i gwblhau.
Cyn dechrau’r cwrs, cynigir i chi ddatblygu cynllun hyfforddi a fydd yn nodi’r cyrsiau/cymwysterau y gallwch eu dilyn i’ch helpu i ddatblygu’ch gyrfa ym mha bynnag sector a ddewiswch.
Gallwch ddilyn mwy nag un cwrs, ond rhaid i chi gwblhau un cwrs cyn dechrau un arall.
Rydym yn deall bod amgylchiadau’n newid. Gallech wneud cais i ddechrau cwrs newydd, os ydych yn dal i fodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y rhaglen. Ond, os ydych yn tynnu’n ôl o’ch ail gwrs ni fydd gennych hawl i gael cyllid trwy Gyfrif Dysgu Personol yn y dyfodol.
Mae prinder sgiliau yn y sectorau digidol, adeiladu a pheirianneg, iechyd ac ariannol yn achosi problemau recriwtio i gyflogwyr. Cafodd y cyrsiau hyn eu dewis yn dilyn cryn drafod â chyflogwyr, rhanddeiliaid, grwpiau cynrychioli a chyfranogwyr posibl i sicrhau eu bod yn mynd i’r afael â’r prinder sgiliau yn y sectorau hyn.
Ni fyddech yn cael yr arian yn uniongyrchol. Bydd y coleg yn cael ei dalu’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.
Ni fydd costau gofal plant, costau teithio neu unrhyw gostau ychwanegol eraill yn cael eu hariannu.
Petaech yn cael eich diswyddo yn ystod eich cwrs Cyfrif Dysgu Personol, yna gallwn gydweithio gyda chi i wneud y gorau o’r arian sydd ar gael i chi petaech yn dymuno ail-hyfforddi.
Oes, bydd gofyn i chi ddangos cerdyn adnabod â llun a phrawf o’ch cyflog cyn cwblhau ffurflen hunan-ddatganiad.
Bydd y coleg yn gweithredu’n hyblyg a byddwn yn anelu at gyflawni’r dysgu o amgylch ymrwymiadau teuluol a gwaith pobl. Byddwch yn trafod pryd rydych ar gael yn ystod eich asesiad cyn-derbyn.
Bydd angen i chi drefnu amser eich hun i astudio ar gyfer y cymhwyster. Gallech ddysgu mewn amgylchedd ystafell dosbarth neu ddosbarth ar-lein ar ddiwrnod penodol yr wythnos.
O ganlyniad i effaith Covid-19, bydd y cyrsiau’n cael eu cyflwyno ar-lein yn unol â rheoliadau’r llywodraeth.
Byddai gennym ddiddordeb clywed eich hanes personol am sut mae Cyfrif Dysgu Personol wedi’ch helpu i newid gyrfa a gwireddu eich dyheadau gyrfa. Bydd y cwestiynau hyn yn rhan o’ch cynllun dysgu.
Ydy, maent ar gael i unrhyw un sy’n bodloni’r holl feini prawf.