main logo

Chwilio Prosiect/Asda (Interniaeth â Chymorth)

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01363
Lleoliad
Asda Queensferry
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn. Mae’n gwrs llawn amser, 5 diwrnod yr wythnos.

Amseroedd presenoldeb 9.15am – 4.15pm
Adran
Sgiliau Byw’n Annibynnol
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r rhaglen hon yn bartneriaeth rhwng Project Search, ASDA a Choleg Cambria sy’n cynorthwyo myfyrwyr wrth iddynt bontio i’r gweithle er mwyn iddynt feithrin sgiliau gwaith gwerthadwy.

Mae’r cwrs hwn yn rhaglen interniaeth blwyddyn o hyd sy’n cynorthwyo dysgwyr er mwyn iddynt ennill cyflogaeth mewn lleoliad manwerthu yn Asda, Queensferry. Bydd pum diwrnod yr wythnos yn cael eu treulio yn y gweithle yn ystod y rhaglen hon. Bydd unigolion yn gweithio yn yr archfarchnad, yn profi agweddau gwahanol o’r adrannau manwerthu ac yn dysgu sgiliau cyflogaeth gwerthfawr a fydd yn arwain at yrfa werth chweil. Bydd myfyrwyr yn cael sesiynau yn y dosbarth yn ystod yr wythnos. Bydd y rhain yn cael eu cynnal ar y safle er mwyn atgyfnerthu sgiliau a gwybodaeth a sicrhau bod ganddynt y sgiliau sydd arnynt eu hangen i lwyddo.

Bydd mentor Cyflogadwyedd ar y safle trwy gydol y rhaglen er mwyn sicrhau bod cymorth ac arweiniad wrth law er mwyn sicrhau y bydd unigolion yn gallu gweithio'n annibynnol o fewn tîm ASDA yn y pen draw.
Mae gan bob myfyriwr Gynllun Dysgu Unigol (CDU) sy’n cofnodi eu nodau a’u targedau unigol. Bydd myfyrwyr yn cael cymorth un i un rheolaidd gan eu tiwtor personol a’r swyddog pontio er mwyn adolygu eu cynnydd a’u cymorth o fewn y lleoliad. Mae targedau unigol yn sicrhau bod myfyrwyr yn symud ymlaen i gyrchfannau tymor hir. Bydd y myfyrwyr yn gallu cyflawni cymwysterau neu unedau perthnasol pan fyddent ar y rhaglen.
Cafodd y rhaglen hon ei gynllunio ar gyfer dysgwyr ag anableddau dysgu a/neu anawsterau sydd angen cymorth i fynd i waith gyda thâl. Mae’r rhaglen yn addas ar gyfer dysgwyr sy’n symud ymlaen o Raglenni SBA. Mae’r rhaglen hon wedi’i leoli ar safle ASDA lle mae’r rhan helaeth o’r rhaglen yn brofiad gwaith ymarferol Bydd myfyrwyr newydd yn ymgymryd ag asesiad a chyflwyniad cychwynnol cynhwysfawr cyn symud ymlaen i raglen brofiad gwaith unigol sy’n gysylltiedig â’u targedau â’u dyheadau penodol. Bydd gan ddysgwyr sy’n addas ar gyfer y cwrs hwn, Gynllun Addysg (Cynllun Sgiliau Dysgu neu Gynllun Gofal Iechyd Addysg) sy’n nodi eu hanghenion dysgu ychwanegol.

Bydd ar ddysgwyr angen teithio’n annibynnol i leoliadau gwaith.
Canlyniad delfrydol yr interniaeth fydd cyflogaeth â thâl.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?