Home > Bywyd Coleg > Cambria Heini
Yng Ngholeg Cambria rydym am eich annog chi a’n staff i fod yn heini, yn iach ac yn ystyriol. Hoffem greu dyfodol gyda gweithlu rhagweithiol ac amrywiol i Gymru a’r DU.
Mae Cambria Heini wedi ein helpu i wneud hynny. Rydym wedi gweld newid cadarnhaol yn y diwylliant yng Ngholeg Cambria, gyda staff a myfyrwyr yn dod yn fwy ymwybodol o’u hiechyd, llesiant a lefelau gweithgaredd corfforol.
Yng Ngholeg Cambria rydym yn deall pa mor bwysig yw iechyd a llesiant i chi ac i’n staff hefyd. Mae cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy’n datblygu cyflyrau fel gorbryder, straen, iselder a chlefydau sy’n gysylltiedig ag iechyd yn y wlad yn y blynyddoedd diwethaf. Gyda Cambria Heini, hoffem gynnig cyfleoedd i helpu i leihau neu atal y cyflyrau hyn. Mae’r gweithgareddau a gynigir yn ategu’r gwaith a wneir gan ein tîm gwasanaethau myfyrwyr, ein hadran adnoddau dynol a’n staff darlithio.
Mae sesiynau Y Meddwl, Y Corff a’r Enaid Cambria Heini yma i ddatblygu eich dealltwriaeth o bwysigrwydd bod yn ofalgar, sut mae gweithgareddau corfforol yn helpu’r corff a sut mae datblygu enaid yn helpu i gymell a gwella eich twf personol eich hun. Mae’r sesiynau’n cynnwys sgwrs iechyd a llesiant, ynghyd â gweithgareddau corfforol fel yoga, pilates, pêl osgoi a phêl-droed. Gallwch gael cyngor gan weithwyr proffesiynol hyfforddedig a hyrwyddwyr coleg ar faterion sy’n ymwneud ag iechyd a ffitrwydd. Mae gan y coleg Hyfforddwyr Personol a Gweithwyr Proffesiynol hyfforddedig wrth law i’ch helpu. Gallwch gyrchu ystod eang o weithgareddau corfforol rhad ac am ddim a ddarperir gan Cambria Heini i helpu i leihau straen, pryder a chlefydau sy’n gysylltiedig ag iechyd.
Mae Cambria Heini yn cynnig ystafelloedd ym mhob un o’i safleoedd lle gallwch fynd i gael rhywfaint o amser ymwybyddiaeth ofalgar. Mae ein mewnrwyd myfyrwyr a staff yn cynnig taflenni ffeithiau i wella iechyd, diet, lefelau cwsg a ffitrwydd a phecyn cerdyn gweithgaredd corfforol.
Rydym yn cynnig ystod eang o weithgareddau ffitrwydd a chwaraeon AM DDIM sy’n caniatáu ichi fod yn egnïol yn ystod eich amser yn gweithio neu’n astudio yn y coleg. Rydym yn deall pwysigrwydd cadw’n heini, yn enwedig ar ôl eistedd i lawr am y rhan fwyaf o’r dydd yn ystod gwersi a gwaith.
Troelli
Pilates
Ioga
Badminton
Tai chi
Hyfforddi a Chryfder
Mae gan Goleg Cambria ystafelloedd ffitrwydd i staff eu defnyddio am ddim ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy a Llysfasi, ynghyd â champfa breifat ar y safle o’r enw Lifestyle Fitness ar safle Glannau Dyfrdwy a champfa newydd sbon ar ein safle Iâl. Mae nifer o gampfeydd preifat wedi’u lleoli ger ein safle yn y Bers ac Iâl. Mae Coleg Cambria hefyd yn cynnig amrywiaeth o ostyngiadau staff ar gyfer campfeydd lleol yn Wrecsam, Sir y Fflint a Swydd Gaer fel rhan o’n hwb buddion staff.
Yn ystod eich amser yng Ngholeg Cambria, byddwch chi’n cael llwythi o gyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau ‘meddal’, fel hyder, cadw amser, gwytnwch a gwaith tîm. Gall Cambria Heini gynnig cyfleoedd i chi ddatblygu eich sgiliau hyfforddi, TG, gweinyddu a marchnata, yn y coleg ac yn y gymuned leol i ehangu eich sgiliau personol.
Mae rhaglen wirfoddoli o’r enw ‘Arweinwyr Dibynadwy’ ar gael i ymuno â hi, lle byddwch yn cael tystysgrifau gwirfoddolwyr y Mileniwm, cymwysterau hyfforddi, teithiau i ffwrdd a mentora i’ch galluogi i dyfu. Gall staff sy’n helpu cael eu rhoi ar grŵp Bydda’n Bencampwr y coleg. Gall y gwaith gwirfoddol hwn eich helpu chi gyda Gwobr Dug Caeredin, Bagloriaeth Cymru a gwella eich CV.
Cadwch eich plant yn heini trwy gydol gwyliau’r ysgol gyda Gwersylloedd Gwyliau Cambria Heini yng Nglannau Dyfrdwy!
Mae ein tîm o hyfforddwyr cyfeillgar, proffesiynol a chymwys yn cyflwyno gweithgareddau, digwyddiadau a sesiynau hwyliog ac ysbrydoledig sydd wedi’u dylunio i gefnogi meddwl, corff ac enaid eich plentyn.
O bêl-droed i ioga, athletau i gelf a chrefft, bydd ein tîm cymwys o hyfforddwyr cyfeillgar, proffesiynol yn cyflwyno sesiynau deniadol i ddatblygu gwytnwch, cryfder, hyder a ffitrwydd eich plentyn.
Mae’r gwersylloedd yn cael eu cynnal bob hanner tymor ac yn ystod tair wythnos o’r gwyliau haf.
Sylwch fod angen i blant ddod â lluniaeth fel diodydd, byrbrydau a chinio gyda nhw, yn ogystal â gwisgo dillad chwaraeon ac esgidiau addas ar gyfer gweithgareddau dan do a thu allan.
I ddarganfod pryd mae’r Gwersyll Gwyliau Cambria Heini nesaf ac i gadw eich lle, anfonwch e-bost at activecambria@cambria.ac.uk
Mae plant rhwng 5 a 9 oed yn cael eu gwahodd i ymuno â ni am sesiwn rhedeg, neidio a thaflu sy’n hwyl a deniadol bob dydd Llun a dydd Mercher o 6pm tan 7pm yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy, Cei Connah.
Pris sesiynau yw £5.00 y plentyn (taliad heb arian parod) ac mae’n hanfodol cadw lle ymlaen llaw.
I gadw lle i’ch plentyn, cwblhewch y ffurflen hon ac arhoswch am e-bost gan Donna Welsh i gadarnhau eich lle (yn anffodus ni allwn roi lle i bobl sydd heb gadw lle).
Er mwyn cymryd rhan, dylai plant wisgo esgidiau rhedeg a dillad chwaraeon, a dod â diod o ddŵr neu sudd gyda nhw.