main logo

Lefel 1 mewn Mentergarwch Creadigol (Niwroamrywiol)

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01570
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn, llawn amser.
Adran
Dysgu Sylfaen, Sgiliau Byw’n Annibynnol
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r rhaglen Menter Greadigol i’r Niwroamrywiol Lefel 1 yn rhaglen gynhwysol gyda chefnogaeth lawn sy’n darparu amgylchedd dysgu a fydd yn gweddu orau i CHI. Mae’r cwrs hwn wedi’i lunio i ddiwallu anghenion a galluoedd dysgwyr niwroamrywiol ac mae’n ffordd wych o ddysgu rhagor am weithio mewn busnes a sefydlu eich busnes creadigol eich hun.

Bydd y rhaglen hon yn caniatáu i chi roi cynnig ar wahanol sectorau creadigol e.e. gwaith coed, ffasiwn, gwniadwaith, gwniadwaith, a chrefftwaith sy'n eich galluogi i ennill sgiliau ymarferol gwerthfawr i ddatblygu eich busnes ar-lein. Ochr yn ochr â hyn, byddwch chi’n dysgu sut i sefydlu busnes ar-lein, gan gynnwys e-fasnach, dylunio gwefannau, marchnata a chyllidebu. Bydd yr ystod eang o wybodaeth greiddiol a sgiliau ymarferol yn rhoi dechrau da i chi yn eich llwybr gyrfa dewisol.

Bydd y rhaglen Menter Greadigol i’r Niwroamrywiol yn rhoi i chi’r cyfuniad perffaith o sgiliau i gynyddu eich uchelgais, gan sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau a’r wybodaeth i lwyddo. Ar y cwrs, byddwch chi’n gweithio gyda staff arbenigol i ddatblygu eich sgiliau. Bydd yn cael eich cefnogi’n llwyr, a byddwch hefyd yn meithrin sgiliau cymdeithasol, cyfathrebu, trefnu, a sgiliau bywyd a byw.

Ar y cwrs hwn, bydd cymhwyster Gateway Astudiaethau Galwedigaethol Lefel 1 yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi i lwyddo, ar draws ystod o wahanol unedau ac arbenigeddau. Gall hyn gynnwys rhai o’r canlynol -
● Bod yn drefnus
● Gweithio gydag eraill
● Marchnata Digidol
● Cyflwyniad i Hunan Gyflogaeth
● Sgiliau Crefftau Creadigol
● Hyrwyddo Digwyddiadau Celfyddydau Creadigol
● Archwilio i Gyfryngau Cymysg

Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu llythrennedd a rhifedd a bydd pob dysgwr yn cael cyfle i ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru neu TGAU.

Byddwn yn pennu Anogwr Cynnydd i chi, a fydd yn eich helpu trwy gydol eich amser ar y rhaglen. Bydd yr anogwr yn sicrhau bod unrhyw gymorth a/neu addasiadau rhesymol yn cael eu rhoi ar waith cyn i ddysgwyr ddechrau ar eu cwrs. Bydd hefyd yn sicrhau bod unrhyw anghenion newydd am gymorth a fyddai’n gallu ymddangos yn cael eu cynnwys yn eu rhaglen i helpu i’r dysgwyr lwyddo. Cefnogir y cwrs yn llawn i fodloni anghenion unigol a gwahaniaethau dysgu.


Asesiad parhaus drwy dasgau a monitro gan diwtoriaid.
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y rhaglen hon rhaid i ddysgwyr fod ag anawsterau cyfathrebu cymdeithasol fel Awtistiaeth sy’n cael eu dogfennu mewn cynllun addysg h.y. CDU, LSP neu EHCP.

Does dim gofynion mynediad ffurfiol, er y disgwylir i ddefnyddwyr fod yn gyfarwydd â hanfodion defnyddio cyfrifiadur a’r rhyngrwyd, a bod a Chynllun Dysgu a Sgiliau cyfredol, Cynllun Datblygu Unigol neu Gynllun Addysg, Iechyd a Gofal, sy’n dogfennu anhawster cyfathrebu cymdeithasol fel Awtistiaeth.

Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr symud ymlaen i raglen AB Lefel 1 neu 2, Twf Swyddi Cymru+ neu brentisiaeth.

Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?