main logo

Gweithgareddau Myfyrwyr

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

A Deeside Sixth Form student playing table tennis on the first floor
Sefyll o flaen y gweddill

Gwnewch y gorau o’ch amser yng Ngholeg Cambria wrth gymryd rhan yn ein clybiau a’n cymdeithasau. Yn unrhyw un o’r clybiau isod byddwch yn dysgu sgiliau newydd, cynyddu eich hyder y tu allan i’r dosbarth a gwneud ffrindiau gyda phobl sy’n rhannu eich diddordebau.

Rydym yn credu fod addysg yn cael ei gadarnhau wrth ei gyfuno gyda gweithgaredd cyfoethogi cymdeithasol. Byddwch yn sefyll o flaen y gweddill ar geisiadau prifysgol a CVs llawer mwy na pe byddai eich profiad yn y coleg yn cynnwys mynd i ddosbarthiadau yn unig. Gwnewch y mwyaf o’ch amser gyda ni.

Mae cymryd rhan yn hawdd, dewch draw i Gwasanaethau Myfyrwyr i ddarganfod rhagor.

Grwpiau Trafod

Grwpiau LHDTC+

Iaith Arwyddo

Grwpiau Gofalwyr Ifanc

Clwb Cerddoriaeth

Grwpiau Chwaraeon

Clwb Menter

Dungeons Dragons

Ysgrifennu Creadigol

Warhammer

Clwb Myfyrwyr Rhyngwladol

Clwb Gwyddbwyll

Anime

Grwpiau Rhedeg

Dylunio Gwefannau

Beth arall allwch chi gymryd rhan ynddynt?

Gwnewch wahaniaeth gwirioneddol yn eich cymuned gydag un o’n clybiau sydd fwyaf gwerth chweil. Byddwch yn gweithio gyda sefydliadau lleol a grwpiau cymunedol, yn gwirfoddoli mewn gwahanol ardaloedd ac yn cael profiad gwerthfawr, sy’n aml yn newid bywyd.

Os ydych chi eisiau dechrau eich busnes eich hun ryw ddydd, nid ydych chi ar eich pen eich hun. Mae llawer o bobl ifanc eisiau bod yn rheolwr arnyn nhw eu hunain, am lawer o wahanol resymau. Gallwch chi wneud rhywbeth rydych chi’n angerddol amdano ar eich telerau eich hun, creu’r bywyd rydych chi ei eisiau ac adeiladu rhywbeth y gallwch chi fod yn falch ohono. Gadewch i ni ddangos i chi sut.

Mae clybiau’n cael eu cynnal bob pythefnos ar draws ein safleoedd.

Dydd Llun: CAD Iâl 12.15 – 13.15
Dydd Mawrth: Parth Dysgu Llysfasi 12.00 -13.00
Dydd Mercher: CAD Ffordd y Bers 12.15 – 13.15
Dydd Iau: Parth Dysgu Glannau Dyfrdwy 12.00 – 13.00
Dydd Gwener: Parth Dysgu Llaneurgain 12.00 – 13.00

Anfonwch e-bost at enterprise@cambria.ac.uk i drefnu apwyntiad sy’n addas i chi.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gofalu amdanoch chi’ch hun gyda’n cymdeithas llesiant. Dyma gyfle i gael manteisio ar gyrchu ystod o weithgareddau sy’n cefnogi eich llesiant personol eich hun. Bydd y coleg yn cefnogi gweithgareddau trwy weithio gyda chi i ddatblygu ardaloedd ac adnoddau priodol.

Yng Ngholeg Cambria mae Cydraddoldeb ac Amrywiaeth wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud. Os hoffech chi gymryd rhan mewn hyrwyddo’r gwerthoedd hyn a dathlu amrywiaeth, ymunwch â ni. Gwnewch wahaniaeth.