Home > Coleg 16-18
Coleg 16-18
Byddwn yn eich ysbrydoli i gyflawni, ni waeth pa gyrsiau Safon Uwch y byddwch yn dewis eu hastudio gyda ni. Mae tiwtor profiadol a llawn gwybodaeth ym mhob ystafell ddosbarth a fydd yn rhoi hyder i chi, y sgiliau perthnasol, a’r cymhelliant i gyflawni i’ch potensial llawn.
Fel myfyriwr y chweched dosbarth yng Ngholeg Cambria, byddwch hefyd yn cael eich gwerthfawrogi fel unigolyn ac yn cael y gofal a’r cymorth angenrheidiol i sicrhau eich gyrfa neu gwrs addysg uwch perffaith. Mae gennym enw rhagorol dros lwyddiant myfyrwyr am reswm.