Home > Safleoedd y Coleg
Safleoedd y Coleg
Bersham Road
Ysgol Fusnes Cambria
Glannau Dyfrdwy
Chweched Glannau Dyfrdwy
Llysfasi
Llaneurgain
Iâl
Chweched Iâl
Bwyty Iâl
Blodau Iâl
Salon Iâl
Siop Goffi Iâl

Croeso
Mae gan safle Ffordd y Bers Coleg Cambria rhai o’r cyfleusterau gorau yn y rhanbarth ac rydym wedi buddsoddi llawer er mwyn sicrhau ein bod yn cynnig yr offer a’r dechnoleg orau i’ch helpu chi gyda’ch astudiaethau. Yn ddiweddar mae Ffordd y Bers wedi cael ailddatblygiad gwerth £8.5 miliwn a oedd yn cynnwys cyfleusterau blaenllaw ac sy’n darparu addysg o’r radd flaenaf.
Ble ydym ni
- Ffordd y Bers
- Wrecsam
- LL13 7UH
Teithiau Rhithwir 360°
CANOLFAN PEIRIANNEG
A THECHNOLEG
AU A CHYFLEUSTER
TECHNEGOL
CYFLEUSTER GWAITH SAER
AC ASIEDYDD
CYFLEUSTER PLYMWAITH A GWRESOGI
CYFLEUSTER PAENTIO
AC ADDURNO
CYFLEUSTER GWNEUTHURO A WELDIO
ADRAN DRYDANOL
CYFLEUSTER PLASTRO
CYFLEUSTER CERBYDAU MODUR
CYFLEUSTER GWAITH
BRICS
Dewch o hyd i gwrs sy'n addas i chi yn Ffordd y Bers
Pethau Defnyddiol I'w Lawrlwytho
Uchafbwyntiau’r Safle
Canolfan Technoleg Peirianneg
Gweithdy Cerbydau Modur
Gwaith Saer Ac Asiedydd
Gwneuthuro a Weldio
Plymwaith
Adeiladu Technegol
Paentio Ac Addurno
Ffreutur
Café'r Bers
Llyfrgell
Gwybodaeth Ddefnyddiol
Ar agor ar ddydd Llun i ddydd Gwener:
- Bore: 8.15am i 11.15am
- Prynhawn: 12pm i 3.15pm
Nifer cyfyngedig o leoedd parcio am ddim sydd ar gael yn Ffordd y Bers, felly y cyntaf i’r felin.
Nid yw’n bosib cadw lle.
Yn ystod y tymor yn unig
- Dydd Llun – Dydd Iau: 8.30am – 4.30pm
- Dydd Gwener: 8.30am – 4.00pm
Ffoniwch 01978 267817 os oes angen adnewyddu eich llyfrau.
Ar gyfer holl ymholiadau’r llyfrgell anfonwch e-bost at library@cambria.ac.uk
Dewch i Gymryd Cip o Amgylch y Safle

Croeso
Croeso i Ysgol Fusnes Cambria, sef amgylchedd dysgu modern gwerth £3.5 miliwn mewn amgylchedd prydferth a thrawiadol yn Llaneurgain, Gogledd Ddwyrain Cymru. Mae gan yr Ysgol Fusnes newydd ddeulawr o gyfleusterau modern, rhyngweithiol ac mae’n gartref i rai o’n cyrsiau datblygu proffesiynol, cyrsiau lefel gradd a hyfforddiant cyflogwyr.
Mae adeilad yr ysgol fusnes yn cynnwys atriwm trawiadol gyda seddau cyfforddus, byrddau coffi, soffas a meinciau lle gallwch gymdeithasu. Gyda’i olau naturiol helaeth, cyfleusterau digidol a mannau rhyngweithiol, dyma ddyfodol dysgu.
Ble ydym ni
- Ffordd Treffynnon
- Llaneurgain
- Yr Wyddgrug
- CH7 6AA
Teithiau Rhithwir 360°
Ysgol Fusnes
Cambria
Chwilio am Gyrsiau Ysgol Fusnes Cambria
Pam Dewis Ysgol Fusnes Cambria
Proffil gradd gorau
Rydym wedi ennill y Proffil Gradd Gorau hyd yma ar gyfer dysgu yn y gwaith yng Nghymru ar ôl arolygiadau gan Estyn Arolygiaeth Ei Mawrhydi.
Enw da
Mae gennym flynyddoedd o brofiad perthnasol ac enw da mewn cyflwyno hyfforddiant masnachol.
Staff Profiadol
Mae gennym staff profiadol, sydd wedi ennill gwobrau sydd â llu o wybodaeth am y diwydiant i'w rhoi i chi.
Partneriaethau cadarn
Mae gennym bartneriaethau gwaith cadarn gyda dros 1500 o gyflogwyr o bob maint ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.
Pethau Defnyddiol i'w Lawrlwytho
Gyda Pwy Rydym yn Gweithio














Croeso
Mae gan Lannau Dyfrdwy, Chweched Glannau Dyfrdwy a Chanolfan Brifysgol Cambria enw da rhagorol mewn sgiliau. Mae’r Ganolfan Rhagoriaeth Peirianneg sydd wedi ennill gwobrau yn un o’r cyfleusterau hyfforddiant peirianneg gorau yn y DU. Mae’r Ganolfan Brifysgol newydd sy’n cynnwys cyfleusterau o’r radd flaenaf i gefnogi myfyrwyr lefel gradd yn rhagorol hefyd.
Mae’r cyfleusterau chwaraeon ymysg y rhai gorau yn y rhanbarth ac mae gennym Feithrinfa Toybox sydd wedi cael gradd ‘rhagorol’ gan Estyn sydd ar gael i’r myfyrwyr a’r gymuned.
Ble ydym ni
- Coleg Cambria Glannau Dyfrdwy
- Ffordd Celstryn, Cei Connah
- Glannau Dyfrdwy,
- Sir y Fflint,
- CH5 4BR
Teithiau Rhithwir 360°
ADRAN AWYRENNAU
MODURON
UWCH
MODURON
TRYDANOL
CERBYDAU
MODUR
GWAITH BRICS
GWEITHDY
PEIRIANNEG
GWAITH ASIEDYDD A
GWAITH COED
PLYMWAITH A
GWRESOGI
Dewch o hyd i gwrs sy'n addas i chi yng Nglannau Dyfrdwy
Pethau Defnyddiol I'w Lawrlwytho
Uchafbwyntiau’r safle
CHWECHED GLANNAU DYFRDWY
Stadiwm Glannau Dyfrdwy/Trac Athletau
PEIRIANNEG
LLYFRGELL
LIFESTYLE FITNESS
SALON CAMBRIA
Y CWRT BWYD
DELI MARCHE A COSTA
Y FFREUTUR YN CHWECHED GLANNAU DYFRDWY
Gwybodaeth Ddefnyddiol
Addysg Bellach
- Adeiladu
- Busnes, Rheoli ac Arwain
- Chwaraeon
- Diwydiannau Creadigol – Cynhyrchu Cerddoriaeth
- Diwydiannau Creadigol – Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol
- Diwydiannau Creadigol – Peirianneg Sain
- Gofal Plant ac Addysg
- Gwaith Saer ac Asiedydd
- Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai
- Gwaith Brics
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Lletygarwch ac Arlwyo
- Mynediad i Addysg Uwch
- Paentio ac Addurno
- Peirianneg – Cerbydau Modur
- Peirianneg – Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw
- Peirianneg – Gwneuthuro a Weldio
- Plastro
- Plymwaith
- Saesneg a Mathemateg
- Sgiliau Sylfaen
- Technolegau Digidol, Cyfrifiadura a TG
- Therapïau Cyflenwol, Sba a Harddwch
- Trin Gwallt
Addysg Uwch
- Addysgu, Asesu ac Addysg
- Adeiladu ac Adeiladau
- Astudiaethau Plentyndod
- Busnes, Rheoli ac Arwain
- Chwaraeon a Ffitrwydd
- Cyfryngau Creadigol a Chynhyrchu Digwyddiadau Byw
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Iechyd Meddwl
- Mynediad i AU
- Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw
- Technolegau Digidol, Cyfrifiadura a TG
Mae rhywbeth i bob lefel ffitrwydd a grwpiau oedran yn Lifestyle Fitness. Mae ganddynt staff tra chymwys proffesiynol sy’n gallu darparu sesiynau ffitrwydd personol i’ch helpu chi i fodloni eich amcanion ffitrwydd. Mae ystod o opsiynau aelodaeth ar gael, mae rhywbeth i bawb.
Oriau Agor
- Dydd Llun i ddydd Gwener: 6am i 9.30pm
- Dydd Sadwrn a dydd Sul: 7am i 7pm
- Gwyliau’r Banc: 8am i 4pm.
Mae Salon Camria yn cynnig ystod o driniaethau gwallt, harddwch a therapïau cyflenwol gan gynnig pob agwedd o driniaethau proffesiynol i’r cyhoedd am brisiau anhygoel.
Mae Salon Cambria yn galluogi i’n myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau mewn amgylchedd sydd wedi’i reoli a dan oruchwyliaeth, gan eu galluogi i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt i weithio yn y diwydiant. Mae’r holl fyfyrwyr wedi’u hyfforddi i’r safonau uchaf ac yn cynnig y triniaethau diweddaraf i gleientiaid yn llawer rhatach na phrisiau’r stryd fawr.
Rydym ar agor ar gyfer apwyntiadau i’r cyhoedd, yn ogystal â myfyrwyr, yn ystod y tymor.
Mae ystod lawn o gynnyrch manwerthu a thalebau ar gael ym mhrif dderbynfa Salon Cambria.
Mae’n rhaid i gleientiaid posib sydd eisiau cael triniaethau bod yn 16 oed o leiaf. Mae triniaethau torri gwallt ar gael i’r rhai o dan 16 oed pe bai rhiant neu warcheidwad yn dod gyda nhw.
Oriau Agor (Yn Ystod y Tymor Yn Unig)
- Dydd Llun i ddydd Gwener: 9am tan 4pm.
Dydd Llun i ddydd Gwener
- Brecwast: 9am i 11am
- Cinio: 12pm i 1.45pm
Oriau Agor:
- Dydd Llun a dydd Gwener: 8:30am i 4pm
- Dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau: 8.30am i 6pm
Nifer cyfyngedig o leoedd parcio am ddim sydd ar gael yng Nglannau Dyfrdwy, felly y cyntaf i’r felin. Mae gennym nifer o leoedd parcio i bobl sydd ag anableddau wrth ymyl mynedfeydd ein hadeiladau.
Yn ystod y tymor
- Dydd Llun: 8.30am – 5pm
- Dydd Mawrth – Dydd Iau: 8.30am – 6pm
- Dydd Gwener: 8:30 – 4pm
Hanner tymor a gwyliau
- Dydd Llun – Dydd Iau: 8.30am – 4.30pm
- Dydd Gwener: 8.30am – 4pm
Ffoniwch 01978 267277 os oes angen adnewyddu eich llyfrau.
Ar gyfer holl ymholiadau’r llyfrgell anfonwch e-bost at library@cambria.ac.uk
Dewch i Gymryd Cip o Amgylch y Safle

Croeso
Mae Chweched Glannau Dyfrdwy, a wnaeth agor yn 2016 yn lle cyfeillgar a bywiog, sy’n cynnig llyfrgell ragorol a chyfleusterau TG blaengar sy’n cefnogi astudio ac ymchwil annibynnol. Ymhlith y cyfleusterau mae stiwdio gelf gyda theras awyr agored, ystafell dylunio cynnyrch gydag argraffydd 3D a thorrwr laser, stiwdio ddrama, canolfan gerddoriaeth a labordy gwyddoniaeth mawr. Caiff myfyrwyr eu hannog i ddefnyddio’r llyfrgell a’r ddarlithfa newydd.
Gall pob myfyriwr ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf gyda’n cyfrifiaduron o’r radd flaenaf, yn ogystal â Chromebooks ym mhob ystafell addysgu.
Yn ogystal â’r pynciau Safon Uwch rydych chi’n eu dewis eich hun, byddwn yn eich cefnogi yn rhagor i gyflawni eich potensial trwy eich cofrestru ar y Fagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch y byddwch yn ei hastudio fel Safon Uwch ychwanegol ac a fydd yn eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau academaidd a chyflogadwyedd ychwanegol.
Ble Ydym Ni
- Coleg Cambria Glannau Dyfrdwy
- Ffordd y Celstryn, Cei Connah
- Glannau Dyfrdwy
- Sir y Fflint
- CH5 4BR
Teithiau Rhithwir 360°
GLANNAU DYFRDWY
CHWECHED
Dewch o hyd i gwrs sy'n addas i chi yn Chweched Glannau Dyfrdwy
Pethau Defnyddiol I'w Lawrlwytho
Uchafbwyntiau’r Safle
Stiwdio Gelf
Ystafell Dylunio Cynnyrch
Stiwdio Ddrama
Canolfan Gerdd
Labordy Gwyddoniaeth
Ystafell TGCh
Llyfrgell
Darlithfa
Ffreutur a Costa
Gwybodaeth Ddefnyddiol
- Addysg Gorfforol
- Astudiaethau Busnes
- Astudiaethau Crefyddol (Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd)
- Astudiaethau Cyfryngau
- Astudiaethau Ffilm
- Bioleg
- Celf a Dylunio
- Cemeg
- Cerddoriaeth
- Cyfrifiadureg
- Cymdeithaseg
- Cymraeg (Ail Iaith)
- Daearyddiaeth
- Diwylliant Clasurol
- Drama ac Astudiaethau Theatr
- Dylunio Cynnyrch
- Economeg
- Ffiseg
- Ffrangeg
- Hanes
- Iaith Saesneg
- Llenyddiaeth Saesneg
- Llywodraeth a Gwleidyddiaeth
- Mathemateg
- Mathemateg Bellach
- Seicoleg
- Technoleg Ddigidol
- Troseddeg
- Y Gyfraith
Argaeledd staff y Llyfrgell- yn ystod y tymor yn unig
- Dydd Llun – dydd Iau: 8.30am – 4.30pm
- Dydd Gwener: 8.30am – 4pm
Ffoniwch 01978 267486 os oes angen adnewyddu eich llyfrau.
Ar gyfer holl ymholiadau’r llyfrgell, anfonwch e-bost at library@cambria.ac.uk
Dewch i Gymryd Cip o Amgylch y Safle

Croeso
Mae Llysfasi mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol ac mae’n un o’r lleoedd prydferthaf i astudio yn y DU. Rydym wedi ein lleoli ger Rhuthun yn Nyffryn Clwyd, Gogledd Cymru ac rydym yn agos iawn at Swydd Gaer, Swydd Amwythig a Phowys, ac mae’n hawdd cyrraedd Gogledd a Chanolbarth Cymru o’r safle.
Rydym yn arweinwyr y diwydiant ym maes cyrsiau’r tir ac mae gennym enw da ers amser maith mewn Amaethyddiaeth, Peirianneg Amaethyddol, Cefn Gwlad a Choedwigaeth.
Mae Llysfasi yn cael ei ailddatblygu’n sylweddol ar hyn o bryd gyda chynlluniau ar gyfer Hwb Cynaliadwyedd Dyfodol Ffermio.
Darganfyddwch bopeth am yr adeilad newydd yma.
Ble Ydym Ni
- Llysfasi
- Ffordd Rhuthun
- Rhuthun
- Sir Ddinbych
- LL15 2LB
Teithiau Rhithwir 360°
PEIRIANNEG
AMAETHYDDOL
Dewch o hyd i gwrs sy'n addas i chi yn Llysfasi
Pethau Defnyddiol I'w Lawrlwytho
Uchafbwyntiau’r Safle
Mentrau Da Byw
Buches o 250 o Wartheg Friesian Pedigri
Coedwigaeth a Chefn Gwlad
Canolfan Addysgu Amaethyddol
Gweithdai Peirianneg
Cyfleusterau Labordy
Deli Marche
Llety Preswyl
Llyfrgell
Gwybodaeth Ddefnyddiol
Addysg Bellach
- Amaethyddiaeth ac Amaethyddiaeth Fanwl
- Coedwigaeth a’r Cefn Gwlad
- Cynllun Hyfforddi Diploma AGCO
- Cynllun Hyfforddi Diploma Kubota
- Peirianneg Amaethyddol
- Sgiliau Sylfaen
Addysg Uwch
- Coedwigaeth a’r Cefn Gwlad
- Dydd Llun – dydd Iau: 8.30am – 4.30pm
- Dydd Gwener: 8.30am – 4pm
Ffoniwch 01978 267917 os oes angen adnewyddu eich llyfrau.
Ar gyfer holl ymholiadau’r llyfrgell, anfonwch e-bost at library@cambria.ac.uk
Dewch i Gymryd Cip o Amgylch y Safle

Croeso
Mae Llaneurgain yng nghanol golygfeydd godidog sydd yn cynnwys coedwig hynafol, planhigfeydd coed a gerddi addurnol. Mae’n gartref i’n darpariaeth gofal anifeiliaid fwyaf ac Ysgol Fusnes Cambria.
Ble ydym ni
- Coleg Cambria Llaneurgain
- Ffordd Treffynnon
- Llaneurgain
- Yr Wyddgrug
- CH7 6AA
Teithiau Rhithwir 360°
CANOLFAN ANIFEILIAID
BACH
SGILIAU
BYWYD
Dewch o hyd i gwrs sy'n addas i chi yn Llaneurgain
Pethau Defnyddiol I'w Lawrlwytho
Uchafbwyntiau’r Safle
Canolfan Gofal Anifeiliaid
Canolfan Bridiau Prin
Deli Marche
Canolfan Sgiliau Bywyd
Llyfrgell
Ysgol Fusnes Cambria
Café Celyn
Gwybodaeth Ddefnyddiol
- Dydd Llun – Dydd Iau: 8.30am – 4.30pm
- Dydd Gwener: 8.30am – 4pm
Ffoniwch 01978 267428 oes ydych chi angen adnewyddu eich llyfrau.
Ar gyfer holl ymholiadau’r llyfrgell anfonwch e-bost at library@cambria.ac.uk.
Dewch i Gymryd Cip o amgylch y Safle

Croeso
Mae gan Iâl enw da ers oes ac mae’n gartref i lawer o gyrsiau galwedigaethol a phrentisiaethau. Ar ôl cael ailddatblygiad gwerth £20m yn ddiweddar, mae gan Iâl gyfleusterau addysgu arbenigol, labordai gwyddoniaeth, ystafelloedd cyfrifiaduron a stiwdios celf.
Mae pob myfyriwr yn gallu cyrchu’r dechnoleg ddiweddaraf ac rydym yn annog iddynt ddefnyddio’r llyfrgell arddull prifysgol. Mae cyfleusterau diwydiannau creadigol Iâl ymhlith y gorau yn y rhanbarth.
Ymhlith y cyfleusterau mae Bwyty Iâl sy’n newydd sbon, Blodau Iâl a Salon Iâl a adnewyddwyd yn ddiweddar.
Ble Ydym Ni
- Coleg Cambria Iâl
- Ffordd Parc y Gelli
- Wrecsam
- LL12 7AB
Teithiau Rhithwir 360°
HAFOD
TRIN GWALLT
Dewch o hyd i gwrs sy'n addas i chi yn Iâl
Pethau Defnyddiol I'w Lawrlwytho
Uchafbwyntiau’r Safle
Labordai Gwyddoniaeth
Ardal Gyfrifiaduron
Stiwdio Celfyddydau Perfformio
Neuadd Chwaraeon
Llyfrgell
Stiwdio Troelli
Campfa
Hwb Llesiant
Bwyty Iâl
Salon Iâl
Siop Goffi Iâl
Blodau Iâl
Gwybodaeth Ddefnyddiol
Addysg Bellach
- Blodeuwriaeth
- Busnes, Arwain ac Addysg
- Celf a Dylunio
- Chwaraeon a Ffitrwydd
- Gofal Plant ac Addysg
- Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai
- Gwyddoniaeth Gymhwysol
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Lletygarwch ac Arlwyo
- Mynediad i Addysg Uwch
- Sgiliau Sylfaen
- Technolegau Digidol
- Teithio a Thwristiaeth
- Therapïau Sba, Harddwch a Chyflenwol
- Trin Gwallt a Thorri Gwallt Dynion
- Y Diwydiannau Creadigol – Perfformio Cerddoriaeth, Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu Theatr Cefn Llwyfan
Addysg Uwch
Yn ystod y tymor
- Dydd Llun – Dydd Mercher: 8am – 6pm
- Dydd Iau: 8am – 5pm
- Dydd Gwener: 8am – 4.15pm
Hanner tymor a gwyliau
- Dydd Llun – Dydd Iau: 8.30am – 4.30pm
- Dydd Gwener: 8.30am – 4pm
Ffoniwch 01978 267607 os oes angen adnewyddu eich llyfrau.
Ar gyfer holl ymholiadau’r llyfrgell anfonwch e-bost at library@cambria.ac.uk
Dewch i Gymryd Cip o Amgylch y Safle

Croeso
Mae gan Chweched Iâl enw rhagorol am ysbrydoli myfyrwyr i lwyddo, addysgu a dysgu o ansawdd uchel ac arweiniad a chymorth rhagorol. Mae gan Chweched Iâl gyfleusterau addysgu arbenigol, sy’n galluogi myfyrwyr i fwynhau eu dysgu mewn amgylcheddau gwych. Mae gan bob myfyriwr fynediad i gyfleusterau TG i gefnogi astudiaethau fel Chromebooks ac Apps cyfoes a llyfrgell anhygoel yn arddull prifysgol.
Yn ogystal â’r pynciau Safon Uwch rydych chi’n eu dewis eich hun, byddwn yn eich cefnogi ymhellach i gyflawni eich potensial trwy eich cofrestru ar Fagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch y byddwch yn ei hastudio fel Safon Uwch ychwanegol ac a fydd yn eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau academaidd a chyflogadwyedd ychwanegol.
- Ble Ydym Ni
- Coleg Cambria Iâl
- Ffordd Parc y Gelli
- Wrecsam
- LL12 7AB
Dewch o hyd i gwrs sy'n addas i chi yn Chweched Iâl
Pethau Defnyddiol I'w Lawrlwytho
Uchafbwyntiau’r Safle
Labordai Gwyddoniaeth
Theatr
Ystafell gyfrifiaduron
Stiwdios Celf
Llyfrgell
Salon iâl
Bwyty iâl
Siop Goffi iâl
Blodau iâl
Gwybodaeth Ddefnyddiol
- Addysg Gorfforol
- Astudiaethau Busnes
- Astudiaethau Crefyddol (Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd)
- Astudiaethau Ffilm
- Astudiaethau’r Cyfryngau
- Bioleg
- Celf, Crefft a Dylunio
- Cemeg
- Cerddoriaeth
- Cyfrifiadureg
- Cymdeithaseg
- Cymraeg (Ail Iaith)
- Cymraeg (Iaith Gyntaf)
- Daearyddiaeth
- Drama ac Astudiaethau Theatr
- Economeg
- Ffiseg
- Ffrangeg
- Gwareiddiad Clasurol
- Hanes
- Iaith a Llenyddiaeth Saesneg Cyfun
- Iaith Saesneg
- Llenyddiaeth Saesneg
- Llywodraeth a Gwleidyddiaeth
- Mathemateg
- Mathemateg Bellach
- Sbaeneg
- Seicoleg
- Technolegau Digidol
- Y Gyfraith
Yn ystod y tymor
- Dydd Llun – Dydd Mercher: 8am – 6pm
- Dydd Iau: 8am – 5pm
- Dydd Gwener: 8am – 4.15pm
Hanner tymor a gwyliau
- Dydd Llun – Dydd Iau: 8.30am – 4.30pm
- Dydd Gwener: 8.30am – 4pm
Ffoniwch 01978 267607 os ydych chi angen adnewyddu eich llyfrau.
Ar gyfer holl ymholiadau llyfrgell anfonwch e-bost at library@cambria.ac.uk
Dewch i Gymryd Cip o Amgylch y Safle

Gwybodaeth am Fwyty Iâl
Wedi’i leoli yng nghanol Wrecsam, fel rhan o ddatblygiad newydd cyffrous, mae Bwyty Ial yn cynnig profiad bwyta cyfoes gydag amgylchedd braf a bywiog. Nid yn unig rydym yn angerddol am brofiad bwyta gwych; rydym hefyd yn angerddol am gynaliadwyedd, iechyd a’r amgylchedd. Dyna pam mae llawer o bobl yn credu mai ni yw’r bwyty gorau yn Wrecsam.
Gwefan
Taith Rithwir 360°
Ble ydym ni
- Coleg Cambria Iâl
- Ffordd Parc y Gelli
- Iâl
- Wrecsam
- LL12 7AB

Gwybodaeth am Flodau Iâl
Mae Blodau Iâl yn rhan o ddatblygiad cyffrous newydd yng nghalon Wrecsam. Mae’r tîm yn angerddol am bopeth sy’n ymwneud â blodau, maent yn cyfuno profiad a’u gwaith dylunio medrus gyda thechnegau sy’n ecogyfeillgar i greu trefniadau artistig gwych, perffaith ar gyfer pob achlysur a chyllideb.
Rydym wrth ein bodd gyda blodau; rydym wedi’n syfrdanu gan eu diffiniadau ac wrth weithio yn ôl y tymhorau. Rydym yn cael ein hysbrydoli gan natur ac yn cyfuno harddwch tymhorol yn ein dyluniadau. P’un ai ei fod yn dusw dathlu, priodas, angladd, digwyddiad neu ddigwyddiad penodol, gallwch chi ddewis o’n casgliad ar-lein neu gysylltu â’n tîm a fydd yn gweithio gyda chi i’ch helpu chi i greu arddangosiad blodau perffaith. Hefyd, rydym wedi cyflwyno ein cyfres newydd sbon o anrhegion, mae gennym ni gasgliad hyfryd o anrhegion, sy’n berffaith ar gyfer pob achlysur.
Rydym yn angerddol am addysg fel rydym yn angerddol am duswau hardd. Fel rhan o Goleg Cambria, mae ein siop yn hwb bywiog sy’n cael ei ddefnyddio i hyfforddi myfyrwyr blodeuwriaeth lleol. Mae myfyrwyr yn cael eu harwain gan weithwyr proffesiynol profiadol, ac maent yn cael budd o ddysgu gan bobl sy’n rhagorol yn eu maes. Byddwn yn eu helpu i fagu eu creadigrwydd, datblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth o’r diwydiant.
Gwefan
Taith Rhithwir 360°
Ble Ydym Ni
- Coleg Cambria Iâl
- Ffordd Parc y Gelli
- Iâl
- Wrecsam
- LL12 7AB

Gwybodaeth am Salon Iâl
O’r eiliad y byddwch yn cerdded i mewn i’r salon, rydym am i chi fwynhau profiad salon heb ei ail sy’n gwneud i chi edrych a theimlo’n wych y tu mewn a’r tu allan. Gan gynnig detholiad ardderchog o driniaethau gwallt a harddwch sy’n cynnwys torri a lliw newydd sbon, siapio eiliau a thylino meinwe dwfn, rydym am i chi adael yn teimlo’n wych o’ch corun i’ch sawdl.
Nid dyna ben draw ein brwdfrydedd. Rydym yn falch iawn o chwarae rhan yn y broses o greu therapyddion a steilyddion y dyfodol. Ar y cyd â Choleg Cambria Iâl, mae ein salon yn cael ei gydnabod fel Canolfan Ragoriaeth, sy’n cynnig amgylchedd hyfforddi unigryw i fyfyrwyr sy’n awyddus i ddilyn gyrfa yn y diwydiant gwallt a harddwch, lle mae creadigrwydd yn cael ei annog, technegau’n cael eu mireinio a sgiliau’n cael eu datblygu a’u perffeithio, i gyd o dan arweiniad arbenigol tîm o weithwyr proffesiynol y diwydiant.
Er mwyn gweld popeth sydd angen i chi ei wybod am y triniaethau rydym yn eu cynnig, oriau agor a rhestrau prisiau, ewch i
Gwefan
Taith Rhithwir 360°
Ble Ydym Ni
- Coleg Cambria Iâl
- Ffordd Parc y Gelli
- Iâl
- Wrecsam
- LL12 7AB

Y Siop Goffi
P’un a ydych chi eisiau cinio hamddenol, bachu brechdan wedi’i thostio yn sydyn neu angen rhywbeth melys, does dim dwywaith y bydd rhywbeth at eich dant chi yn Siop Goffi Iâl! Yn syml, rydym yn angerddol am weini’r cynnyrch gorau; o fara wedi’i bobi’n ffres, paninis a baguettes yn llawn cynhwysion sawrus lleol, i gacennau a theisennau crwst cartref.
Does dim angen i chi gadw eich lle, dewch draw i ymweld â ni o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 3pm. I gael rhagor o wybodaeth ewch i
Gwefan
Ble ydym ni
- Coleg Cambria Iâl
- Ffordd Parc y Gelli
- Iâl
- Wrecsam
- LL12 7AB