Rhagor o Fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LP01360 |
Lleoliad | Llaneurgain |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn. Mae’n gwrs llawn amser, 3 diwrnod yr wythnos. Y diwrnodau yn y coleg yw: Dydd Llun, dydd Iau a dydd Gwener. Hyd y diwrnod coleg yw 9.30am tan 4.45pm (3.45pm ar ddydd Gwener). |
Adran | Sgiliau Byw’n Annibynnol |
Dyddiad Dechrau | 04 Sep 2024 |
Dyddiad Gorffen | 20 Jun 2025 |
Trosolwg o’r Cwrs
Lluniwyd cyrsiau Sgiliau Byw’n Annibynnol i gynorthwyo dysgwyr sydd ag anableddau a/neu anawsterau datblygu ac ehangu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer bywyd bob dydd a gwaith.
Bydd myfyrwyr ar y cwrs Lefel Mynediad hwn yn dilyn cwricwlwm amrywiol sy’n cynnwys: Sgiliau Gweithredol, Sgiliau Bywyd a Byw, Sgiliau Galwedigaethol ac Iechyd a Llesiant.
Bydd myfyrwyr newydd yn ymgymryd ag asesiad a chyflwyniad cychwynnol cynhwysfawr cyn symud ymlaen i amserlen unigol sy’n gysylltiedig â’u targedau penodol. Byddwn yn cynorthwyo myfyrwyr i ddewis o ystod o weithgareddau galwedigaethol gan gynnwys: Gofal Anifeiliaid, Ceffylau, Sgiliau Gweithdy, Crefftau Manwerthu ac Adfer Dodrefn, Glanhau Ceir, Gwallt a Harddwch, Gwaith Adeiladu, Lletygarwch a/neu Arlwyo, Busnes a Gweinyddu, Drama/Dawns.

Mae gan bob myfyriwr Gynllun Dysgu Unigol sy’n cofnodi eu nodau a’u targedau unigol. Bydd myfyrwyr yn derbyn cymorth un i un yn rheolaidd gan eu tiwtor personol i adolygu eu cynnydd. Mae targedau unigol yn sicrhau bod myfyrwyr yn symud ymlaen i gyrchfannau tymor hir.
Bydd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn gweithio tuag at Mynediad 2.
Bwriadwyd y cwrs hwn ar gyfer ymgeiswyr gydag anawsterau dysgu cymedrol cymhleth a/neu anawsterau cymdeithasol ac ymddygiadol.
Byddwn yn ystyried pob cais yn unigol a bydd unrhyw gynnig yn dibynnu ar gyfweliad ac ystod o dystiolaeth atodol, gan gynnwys cyflawniadau blaenorol ac asesu anghenion cymorth. Rydym yn gofyn I bob ymgeisydd ddod I sesiwn rhagflas fel rhan o’r broses ymgeisio, I gadarnhau eu haddasrwydd, eu gallu a’u hanghenion cymorth ychwanegol.
Bydd gan ddysgwyr sy’n addas ar gyfer y cwrs hwn Gynllun Addysg (Cynllun Sgiliau Dysgu neu Gynllun Gofal Iechyd Addysg) sy’n nodi eu hanghenion dysgu ychwanegol.

Efallai bydd yn bosibl symud ymlaen o’r cwrs hwn i’r rhaglen baratoi ar gyfer gwaith neu raglen alwedigaethol Mynediad 3. Mae’r cwrs hefyd yn cynorthwyo gyda symud ymlaen i ragor o annibyniaeth, byw’n annibynnol a/neu â chymorth, a nifer o gyd-destunau gwaith amrywiol. Lle bo hynny’n briodol, bydd cyfle hefyd i ystyried symud ymlaen i waith â chymorth naill ai’n wirfoddol neu gyda thâl.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit ListBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024
17:30
Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024
17:30
Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024