Home > Cludiant
Yma yng Ngholeg Cambria mae gennym ni gysylltiadau da, gyda chludiant ar gael o amrywiaeth eang o leoliadau ledled Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.
Nid yn unig hynny; os ydych chi’n fyfyriwr llawn amser neu addysg uwch, rydyn ni’n cynnig cludiant â chymhorthdal un ai teithio ar fysiau’r Coleg neu docynnau bysiau cyhoeddus Arriva.
I fod yn gymwys am gludiant â chymhorthdal bydd angen i chi fyw dros 3 milltir o safle’r coleg agosaf sy’n cyflwyno’ch dewis o gwrs*. Os ydych chi’n teithio ar eich beic, bydd rheseli beiciau ar gael i chi yn y rhan fwyaf o safleoedd.
*Yn amodol ar gymhwysedd ac argaeledd. Gall llwybrau a gwasanaethau cludiant amrywio ychydig o flwyddyn i flwyddyn yn dibynnu ar y galw ac argaeledd.
Os na allwch chi ddod o hyd i’ch llwybr, peidiwch â phoeni! Rydyn ni wrth law i ddod o hyd i’r ffordd hawsaf a chyflymaf i chi ein cyrraedd ni. Ffoniwch 0300 30 30 007 a byddwn yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i deithio’n ddiogel i’r coleg ac oddi yno.
Gallwch weld amserlenni bysiau’r coleg a mannau codi drwy lawrlwytho’r dogfennau defnyddiol isod.
Mae cyfraniad â chymhorthdal o £90 y tymor i ddysgwyr 16-18 oed a £160 i ddysgwyr 19+ oed i’w ddefnyddio ar gyfer cludiant coleg.
Mae hyn yn gyfraniad tuag at eich tocyn bws, gyda Choleg Cambria’n talu gweddill y gost.
Ydych, mae’n bosib i chi gael cymorth ariannol. Os ydych chi’n poeni am fforddio’r ffi cludiant â chymhorthdal, cysylltwch â Gwasanaethau Myfyrwyr.
Gall ein tîm drafod opsiynau i chi fel y Gronfa Ariannol Wrth Gefn, Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) (i fyfyrwyr 16-18 oed), neu’r Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Uwch (i fyfyrwyr 19+).
Os ydych chi’n ansicr ynghylch eich safle bysiau neu lwybr dynodedig, cysylltwch â Gwasanaethau Myfyrwyr gwasanaethaumyfyrwyr@cambria.ac.uk neu’r tîm Cludiant ar cludiant@cambria.ac.uk.
Oes, mae pob safle Coleg Cambria yn darparu mannau dynodedig ar gyfer parcio beiciau a sgwter diogel.
Gall darparwyr cludiant a gwybodaeth amserlenni newid. Er eglurder, cysylltwch â’r Gwasanaethau Myfyrwyr dros y ffôn/e-bost gan ddefnyddio’r manylion uchod.