Home > Canolfan Brifysgol > Dilyniant Addysg Uwch
Dilyniant Addysg Uwch
Dilyniant Addysg Uwch
Ffioedd a Chyllid
Telerau ac Amodau
Partneriaid
Beth am barhau gyda'ch Astudiaethau gyda Chanolfan Brifysgol Cambria
Yn Cambria mae ein holl gyrsiau lefel prifysgol wedi’u llunio gyda chyflogaeth yn y cof er mwyn gwneud y mwyaf o’ch potensial o ran gyrfa. Mae ein myfyrwyr wedi elwa’n fawr o hyn ac wedi cyflawni canlyniadau rhagorol a gwell rhagolygon cyflogaeth i raddedigion. Mae mewnbwn gan gyflogwyr yn sicrhau eu bod nhw’n datblygu’r sgiliau sydd ei angen arnyn nhw yn eu gyrfa o ddewis.
Pam astudio gyda Chanolfan Brifysgol Cambria?
Isod mae rhai o’r rhesymau y dylech chi astudio gyda Chanolfan Brifysgol Cambria:
Canolbwyntio ar eich dyfodol – Mae ein holl raglenni wedi’u cynllunio gan ystyried eich cyflogaeth yn y dyfodol gyda darlithwyr yn rhannu eu gwybodaeth arbenigol am y diwydiant trwy eu dysgeidiaeth
Cyfleustra – Trwy astudio’n lleol gallech chi arbed swm sylweddol o arian, heb unrhyw ffioedd llety. Mae bwrsariaeth a chymorth i fyfyrwyr ar gael hefyd
Cefnogaeth – Mae ein timau cynhwysiant yn gweithio’n galed i roi cyngor ac arweiniad unigol i chi wedi’u teilwra i’ch anghenion penodol a’ch nodau gyrfa eich hun.
Mae uchafbwyntiau’r Datganiad Sicrhau Ansawdd diweddaraf a gafodd ei gyhoeddi i’w gweld yma.
Ein cyfleusterau
Myfyrwyr Addysg Uwch:
Mae nifer o ffynonellau cymorth ariannol ar gael i fyfyrwyr Addysg Uwch. Mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn cynnig benthyciadau a grantiau ar gyfer astudio cyrsiau addysg uwch yng Ngholeg Cambria. Mae bod yn gymwys i gael benthyciad neu grant yn dibynnu ar y math o gwrs a ble rydych chi’n byw.
Yn gryno:
- mae gan raddau sylfaen a graddau ffioedd y gellir eu hariannu gan fenthyciadau Ffioedd Dysgu
- fel arfer caiff prentisiaethau uwch eu hariannu gan Lywodraeth Cymru
- gall cyrsiau proffesiynol gael eu hariannu gan eich cyflogwr, gennych chi neu gan brosiectau Ewropeaidd.
Beth sydd angen i chi ei wybod
Bwrsari AU Cambria
I’r rhai sy’n mynd i’r afael â gradd yng Nghanolfan Brifysgol Cambria efallai eich bod chi’n gymwys ar gyfer cymorth ariannol anad-daladwy trwy Fwrsari AU Cambria.
Pwy sy’n gymwys*?
- Rhai sydd ar gwrs Addysg Uwch llawn amser
- Rhai sy’n talu eu ffioedd eu hun dros £7,500 neu uwch
- Myfyrwyr sydd â’r lefel presenoldeb gofynnol
- Myfyrwyr sy’n cwblhau ac yn cyflwyno eu haseiniadau ar amser
- Myfyrwyr sy’n ymddwyn yn unol â Chod Ymddygiad Coleg Cambria.
Sut mae’n cael ei dalu?
- Arian (gwobr benodol) i’ch cyfrif banc
- Credyd Safle Cambria (swm penodol a gwobr mewn nwyddau ar ffurf talebau).
*Mae Telerau ac Amodau llawn yn berthnasol a bydd taliad yn cael ei ddal yn ôl os bydd y myfyriwr yn methu â bodloni’r amodau gofynnol
I gael rhagor o wybodaeth:
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cymorth ariannol ychwanegol drwy glicio ar y canlynol:
Egluro Cyllid Myfyrwyr
Darganfod Cyllid Myfyrwyr
Sut i Wneud Cais ar gyfer Cyllid Myfyrwyr
Prifysgol Bangor
Prifysgol John Moores Lerpwl
Prifysgol Abertawe
Pearsons
Prifysgol Wrecsam
Prifysgol Caer
Sefydlwyd ym 1839 fel y coleg pwrpasol cyntaf i hyfforddi athrawon yn y wlad, mae Prifysgol Caer wedi darparu rhagoriaeth addysgu am 180 o flynyddoedd ac mae’n rhagflaenu bron pob darparwr addysg uwch yn Lloegr.
Gan ennill statws Prifysgol yn 2005, mae Prifysgol Caer heddiw yn brifysgol yr 21ain ganrif ac mae wedi ennill bodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr uwch na chyfartaledd y sector ar gyfer chwe blynedd ddiwethaf (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr). Y brifysgol hon yw’r sefydliad Addysg Uwch sy’n perfformio orau yng Ngogledd Orllewin Lloegr am wrando ar Lais y Myfyrwyr (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr), ac ennill sawl safle yn y 10 uchaf yng Ngwobrau Myfyrwr Whatuni 2020: 2il ar gyfer Rhyngwladol; 8fed ar gyfer Bywyd Lleol; 9fed ar gyfer Rhagolygon Swyddi; a 10fed ar gyfer Cymorth i Fyfyrwyr
Prifysgol Bangor
Wedi’i sefydlu ym 1884, mae Prifysgol Bangor heddiw yn sefydliad ffyniannus, blaengar sy’n cynnig cyfleoedd rhagorol.
Rydym yn ymfalchïo yn ansawdd ein haddysgu, ac yn cynnig cyrsiau ar draws y celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau. Mae ein staff wedi bod yn gwneud gwahaniaeth, gydag ymchwil amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol am fwy na 130 o flynyddoedd.
Mae gofalu am ein myfyrwyr a’u cefnogi yn flaenoriaeth. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys cyngor ac arweiniad ar yrfaoedd a chyflogadwyedd a materion o arian a thai i gymorth anabledd, cwnsela, a sgiliau astudio. Mae Bangor yn lle ysbrydoledig i fyw a dysgu – y lle delfrydol i dyfu, datblygu doniau a chynllunio ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.
Prifysgol John Moores Lerpwl
Mae ein dinas a’n prifysgol yn sefyll yn gadarn gyda’i gilydd. Rydym wedi tyfu o wreiddiau hyderus, uchelgeisiol Lerpwl ac mae gennym hanes gyda’n gilydd sy’n seiliedig ar weithio’n galed, gofalu am gefnogi pobl a chymunedau a bod yn falch o bwy ydym ni.
Mae gennym le unigryw yn y ddinas fywiog hon gyda’n pobl groesawgar, gyfeillgar ac agored. Rydym yn rhannu awch am antur gyda chymuned sy’n ymdrechu i wneud gwahaniaeth a rhoi rhywbeth yn ôl. Ein staff, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr yw calon guro’r brifysgol hon, gydag effaith sy’n mynd y tu hwnt i fesurau academaidd, economaidd a chymdeithasol.
Prifysgol Abertawe
Gosodwyd Prifysgol Abertawe yn gyntaf yng Nghymru ac yn 24ain yn y Deyrnas Unedig – ei safle uchaf erioed – gan Ganllaw Prifysgol Guardian 2021. Mae’r safle diweddaraf hwn yn gosod Prifysgol Abertawe yn 25 sefydliad gorau’r Deyrnas Unedig a’r brifysgol orau yng Nghymru am yr ail flwyddyn yn olynol.
Cyflawnodd Prifysgol Abertawe sgôr aur, y sgôr uchaf bosibl, yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr (TEF) ac mae ymhlith 10 prifysgol uchaf y DU am foddhad myfyrwyr yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr ar gyfer 2020.
Pearson
Mae Cymwysterau Cenedlaethol Uwch BTEC yn gymwysterau addysg uwch a gydnabyddir yn rhyngwladol ac a ddatblygwyd gan Pearson ar lefel 4 a 5 sy’n cyfateb i flwyddyn gyntaf ac ail flwyddyn gradd prifysgol, gan ddarparu dilyniant i brifysgol a chyflogaeth.
Mae cymwysterau Cenedlaethol Uwch BTEC yn cael eu darparu mewn prifysgolion a cholegau mewn 60 o wledydd ledled y byd. Maent yn ddewis delfrydol i fyfyrwyr sy’n chwilio am lwybr fforddiadwy a pherthnasol i radd neu gyflogaeth.
Prifysgol Wrecsam
Gan gyflwyno addysg ers 1887, mae Prifysgol Wrecsam yn gymuned ddysgu gyfeillgar a chynhwysol, sy’n canolbwyntio ar ysbrydoli pob myfyriwr a’u rhoi wrth wraidd popeth a wnawn.
Cynigiwyd cyrsiau gradd am y tro cyntaf ym 1924 a dod yn Brifysgol Glyndŵr yn 2008. Yn 2023, fe wnaethon nhw ailfrandio a newid eu henw – ond nid ethos Cymreig – y Brifysgol i Brifysgol Wrecsam/Wrexham University, dyfarnwyd sgôr arian i’r Brifysgol am ragoriaeth addysgu gan y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu ac mae’n cael ei chydnabod ac yn enwog am ddarparu lefelau uchel o foddhad, cefnogaeth a chyfleoedd gyrfa i fyfyrwyr.