Mae’r dudalen hon yn cynnwys dolenni at bolisïau, gweithdrefnau ac arweiniad cysylltiedig sy’n berthnasol i Cambria. Ar gyfer unrhyw wybodaeth arall, cysylltwch â ni.
Gallwch siarad yn uniongyrchol â’r staff dan sylw i ddechrau.
Os na allwch ddatrys eich cwyn fel hyn, llenwch y ffurflen adborth a bydd ein staff yn cysylltu â chi.
Gellir postio cwynion ysgrifenedig at:
Bridgette Jones – Cymhorthydd Personol y Dirprwy Brif Weithredwr Profiadau Pobl a Diwylliant
Cyfeiriad post:
Coleg Cambria Glannau Dyfrdwy
Ffordd y Celstryn
Cei Connah
Glannau Dyfrdwy
CH5 4BR
O dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae gofyn fod Coleg Cambria yn meithrin a chynnal cynllun cyhoeddi sy’n nodi’r wybodaeth y mae’r coleg yn bwriadu ei chyhoeddi’n weithredol fel rhan o’r drefn arferol. Diben y cynllun cyhoeddi yw hybu ‘awdurdodau cyhoeddus’, sy’n cynnwys colegau, i fod yn fwy agored.
Mae’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2018 yn nodi fod gan y coleg ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu data personol yn ôl y gofyn. Bydd y coleg yn ystyried ei gyfrifoldebau yn ofalus yn unol â’r GDPR cyn datgelu data personol o dan y FOI am unigolion byw, gan gynnwys aelodau presennol a chyn-aelodau staff, llywodraethwyr a myfyrwyr.
Bydd y coleg fel arfer yn ymateb i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth o fewn 20 diwrnod gwaith.
Ffoniwch ni ar 0300 30 30 007 neu defnyddiwch y ffurflen isod: