Home > Canolfan Brifysgol > Meysydd Pwnc – Canolfan Brifysgol > Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladau
Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladau
Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladau

Gyda chymhwyster mewn Adeiladu a Gwaith Adeiladu o Ganolfan Brifysgol Cambria byddwch yn datblygu ystod o sgiliau a thechnegau a fydd yn eich galluogi i astudio rhagor neu i ddatblygu eich gyrfa.
Os rydych yn gobeithio symud i swydd mewn rheoli adeiladu, arolygu adeiladau, neu dechnoleg bensaernïol, gall y cwrs hwn eich helpu i fod yn y llwybr cywir i lwyddo.
Dewiswch gwrs o’r dewisiadau isod am ragor o fanylion a gofynion mynediad i ymuno â chwrs mewn Adeiladu a Gwaith Adeiladu gyda Chanolfan Brifysgol Cambria.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
A oes gennych chi gwestiwn?
Ymweld â'n Galeri
Dewch i gael cip o amgylch y safle a gweld sut beth yw astudio gyda ni yng Nghanolfan Brifysgol Cambria neu dysgwch ragor am Ganolfan Brifysgol Cambria a’n cyfleusterau o’r radd flaenaf.
Astudiaethau Achos

Carla Joyner
Wedi Astudio – HNC mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig – Adeiladu
Erbyn Hyn – Cyfarwyddwr Coastal Construction & Renovation Services Ltd
“Mae’r cwrs yma yn gwrs cyfannol ac yn ymdrin â chymaint o feysydd o fewn y diwydiant adeiladu a pheirianneg sifil. Mae’r dysgu ar y cwrs yma wedi bod yn berthnasol a diddorol. Dwi wedi gallu rhoi llawer o brosesau newydd ar waith yn ein busnes o ganlyniad i’r hyn dwi wedi’i ddysgu.
“Mae’r cymorth gan y tiwtoriaid wedi bod yn rhagorol, roeddwn i’n poeni y buaswn i’n cael trafferth gan nad ydw i wedi ymwneud ag addysg ers bron i 20 mlynedd. Mae’r tiwtoriaid i gyd wedi rhoi’r gefnogaeth a’r sicrwydd yr oedd eu hangen arnaf fi drwy gydol yr amser ac wedi rhoi anogaeth i mi sydd wedi fy ngalluogi i symud ymlaen yn llwyddiannus.
“Mae’r cymhwyster yma yn gam nesaf rhagorol at gael gradd mewn pwnc arbenigol delfrydol. Gwnes i ddechrau’r cwrs yma yn meddwl fy mod i eisiau bod yn Syrfëwr Meintiau. Yna ar ddiwedd y cwrs gwnes i benderfynu fy mod i eisiau bod yn Rheolwr Adeiladu. Bydd y cwrs yma yn sicr yn fy helpu i gyflawni fy uchelgeisiau gyrfa.”