Cyrsiau Canolfan Brifysgol i Gyflogwyr

Teitl Croeso / Cyflwyniad

Mewn partneriaeth gyda rhai o’r prifysgolion gorau yng Nghymru a Lloegr, rydym yn gallu cynnig rhaglenni gradd o ansawdd uchel i chi er mwyn datblygu sgiliau eich gweithwyr yn eich gweithlu.

Mae Canolfan Brifysgol Cambria wedi ennill enw da am ragoriaeth. Rydym yn cyfuno addysgu ysbrydoledig gyda gofal myfyrwyr rhagorol ac yn rhoi’r sgiliau ymarferol, y wybodaeth am ddiwydiant, a’r gallu i feddwl yn feirniadol i’r dysgwyr, sydd eu hangen ar weithluoedd heddiw.

Rydym yn falch o gydweithio â chyflogwyr a busnesau lleol i sicrhau bod gweithwyr yn cael hyfforddiant perthnasol i’r diwydiant sy’n gweithio i’ch cwmni. Bydd gan ddysgwyr y cymwysterau a’r sgiliau go iawn sydd eu hangen yn y gweithle i ddiogelu llwyddiant eich busnes yn y dyfodol, gan sicrhau y bydd eich cwmni yn cael y gorau o’ch buddsoddiad ariannol.

“Mae myfyrwyr yn gadarnhaol dros ben am y cymorth maen nhw’n ei gael a’r ymrwymiad a hygyrchedd staff mewn swyddi academaidd a swyddi cymorth i fyfyrwyr”

Adolygiad Ansawdd QAA, 2023

QAA Logo

Cofrestrwch eich diddordeb yn un o'n cyrsiau Addysg Uwch

Llenwch y ffurflen isod a byddwn yn cysylltu â chi.

Edrychwch ar ba gyrsiau sydd ar gael

Cliciwch ar un o’r pynciau isod am restr lawn o gyrsiau addysg uwch yr ydym yn eu cynnal.