Home > Canolfan Brifysgol > Gweld Pob Maes Pwnc > Busnes, Rheoli ac Arwain
BUSNES, RHEOLI AC ARWAIN
Busnes, Rheoli ac Arwain
Mae cyrsiau Busnes, Rheoli ac Arwain yng Nghanolfan Brifysgol Cambria wedi’u hanelu at y rhai sydd mewn cyflogaeth briodol am dros 30 awr yr wythnos. Ochr yn ochr â gweithio byddwch yn cael eich rhyddhau o’r gwaith am y dydd i Ysgol Fusnes Cambria a fydd yn eich darparu gyda’r cymhwyster/cymwysterau i ddatblygu eich gyrfa yn rhagor.
Wrth astudio yn Ysgol Fusnes Cambria ar safle Llaneurgain Coleg Cambria byddwch yn dysgu amrywiaeth o sgiliau mewn marchnata, adnoddau dynol, cyfrifeg a rhagor. Wrth fynd i’r afael â chwrs gyda Chanolfan Brifysgol Cambria efallai y byddwch yn dewis datblygu eich gyrfa mewn cyfrifeg, marchnata, logisteg neu ddiwydiant arall.
Cliciwch ar gwrs isod i weld y gofynion mynediad a darganfod rhagor am yr hyn y mae ein cyrsiau busnes, rheoli ac arwain yn eu cynnig.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
A oes gennych chi gwestiwn?
Ymweld â'n Galeri
Dewch i gael cip o amgylch y safle a gweld sut beth yw astudio gyda ni yng Nghanolfan Brifysgol Cambria neu dysgwch ragor am Ganolfan Brifysgol Cambria a’n cyfleusterau o’r radd flaenaf.
Astudiaethau Achos

Jac Hughes
Yn astudio – Gradd Rheoli Busnes Cymhwysol
Erbyn hyn – Yn cael ei gyflogi gan Airbus UK
“Agwedd orau fy nghwrs yw ei fod yn caniatáu i mi astudio’n rhan-amser gan roi hyblygrwydd i mi weithio o amgylch astudiaethau academaidd. Mae gallu cymhwyso fy nysgu yn uniongyrchol i fy ngwaith wedi cynnig cyfle unigryw i mi.
“Mae’r darlithwyr yn barod iawn i helpu ac maen nhw bob amser yn gwneud ymdrech i fy nghefnogi i. Mae’r cyfleusterau’n wych ac yn cynnig amgylcheddau unigryw ar gyfer gweithio.
“Mae’r cwrs wedi rhoi cyfleoedd dysgu amrywiol i mi ym maes busnes ac wedi gwella fy ngwybodaeth o’r pwnc yn aruthrol. Bydd hyn yn y dyfodol yn fy nghefnogi i gyflawni fy uchelgais gyrfaol o ddod yn arweinydd”.