main logo

Diploma Lefel 3 mewn Colur Theatrig, Effeithiau Arbennig a Chyfryngau

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01034
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.
Adran
Therapïau Harddwch, Sba a Chyflenwol
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Nod y cwrs hwn yw meithrin sgiliau ar gyfer gweithio yn y diwydiant colur Theatrig a'r Cyfryngau. Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i feithrin y sgiliau a fydd yn eich galluogi i gynhyrchu colur effeithiau arbenigol ar gyfer cystadlaethau, sesiynau tynnu lluniau, teledu a theatr. Mae gwybodaeth sylfaenol o lefel 2 naill ai mewn rhaglenni gwallt neu harddwch yn ddymunol i ymdrin â’r sgiliau creadigol sydd eu hangen ar gyfer y cwrs hwn.

Dyma enghraifft o rai o’r unedau y byddwch yn eu hastudio:

● Colur cyfryngau
● Dyluniad gwallt creadigol
● Colur ffasiwn a ffotograffiaeth
● Celf wyneb a chorff uwch
● Colur cuddliw

Yn ogystal â chymhwyster Lefel 3 Theatrig, Effeithiau Arbennig a Gwallt a Cholur Cyfryngau, mae rhaglen y maes dysgu yn cynnwys yr elfennau gorfodol canlynol i’r cwrs:

● Hyfforddiant ac asesiadau Sgiliau Hanfodol Cymru
● Datblygu sgiliau Cymraeg
● Rhaid i bob dysgwr gwblhau lleoliad gwaith

Sylwch fod angen cit a gwisg I allu astudio’r cwrs hwn.
Caiff gwaith cwrs ei wneud trwy asesu asesiadau ymarferol a damcaniaethol yn barhaus

Profiad gwaith mewn sefydliad masnachol e.e. theatr neu stiwdio ffotograffig yn rhan o’r cwrs i alluogi’r dysgwr i weithio dan gyfarwyddyd.
Cwblhau rhaglenni maes dysgu Lefel 2 mewn Gwallt a Chyfryngau Colur , Therapi Harddwch Lefel 2 neu raglenni maes dysgu Lefel 2 mewn trin gwallt yn llwyddiannus.
Y llwybrau dilyniant ar gyfer dysgwyr bydd i addysg uwch neu i weithio yn y sector celfyddyd colur creadigol.

Mae cyflogaeth yn y sector yn amrywiol a gall gynnwys gweithio mewn ffilmiau, ffasiwn, teledu neu theatr.Bydd angen i’r myfyrwyr hynny sydd eisiau symud ymlaen I addysg uwch sicrhau fod ganddynt ddigon o bwyntiau UCAS ar gyfer astudiaethau israddedig.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?