Tystysgrif Lefel 3 VTCT (ITEC) mewn Mynediad at Therapïau Esthetig

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r Dystysgrif Lefel 3 VTCT (ITEC) Mynediad i Estheteg wedi cael ei ddatblygu ar gyfer therapyddion harddwch cymwys sy’n dymuno diweddaru eu cymwysterau gyda’r newidiadau diweddar ac sydd ar y gweill o fewn y diwydiant harddwch/Estheteg ac i sicrhau’r arweiniad newydd a osodwyd gan Habia.

Mae’r cymhwyster hen wedi’i ddatblygu i helpu therapyddion sydd wedi cwblhau DPP neu lwybr achrededig yn barod o fewn y diwydiant ac sy’n dymuno cael llwybr rheoledig ar gyfer cyrchu cyrsiau estheteg.

Mae’r cwrs hwn hefyd yn addas yn addas i unigolion nad oes ganddynt brofiad na chymwysterau o fewn y diwydiant harddwch ond sy’n dymuno datblygu mewn gyrfa estheteg ar Lefel 4,5,6 a 7.

Mae’r cwrs hwn hefyd wedi’i anelu at ymarferwyr estheteg sydd â chefndiroedd meddygol fel, Gwaedwyr, nyrsys deintyddol, parafeddygon, meddygon ac ati. Hefyd rhai nad oes ganddynt gymhwyster triniaethau’r wyneb, neu gymhwyster anatomi a ffisioleg.

Bydd y cwrs hwn hefyd yn eich galluogi chi i gyrchu ystod o gymwysterau lefel 4 uwch y croen.


Mae’r cwrs hwn yn cynnwys pum uned sy’n cynnwys:

● Dadansoddi’r croen a gofal croen yr wyneb
● Gofal cleientiaid ac ymgynghoriadau
● Anatomi, ffisioleg a phatholeg
● Gwyddoniaeth drydanol
● Cynnal Iechyd a diogelwch yn y salon


UBT285 – Dadansoddi croen a gofal croen yr wyneb – caiff ei asesu gydag asesiad ymarferol, aseiniadau sy’n dangos canlyniadau dysgu gwybodaeth ac arholiad theori amlddewis.

UBT286 – Ymgynghori a gofal cleient – asesu aseiniadau ysgrifenedig, ffurflenni/technegau ymgynghori ac arholiad theori amlddewis.

UBT287 – Anatomeg, ffisioleg a phatholeg – wedi’u hasesu mewn aseiniadau ysgrifenedig sy’n dangos canlyniadau dysgu gwybodaeth, gwaith dosbarth wedi’i gwblhau ac arholiad theori amlddewis.

UBT288 – Gwyddoniaeth drydanol – aseiniadau ysgrifenedig wedi’u hasesu, canlyniadau dysgu gwybodaeth ac arholiad theori amlddewis.

UBT289 – Cynnal iechyd a diogelwch yn y salon – wedi’i asesu gydag aseiniadau ysgrifenedig sy’n dangos canlyniadau dysgu gwybodaeth ac arholiad theori amlddewis.

Oed – 18+
Mae gofyn i ddysgwyr fod â chymhwyster lefel 3 traddodiadol mewn therapi harddwch

Mae Cyfleoedd Gyrfa ar gyfer y cymhwyster hwn yn cynnwys triniaethau yn y diwydiant estheteg neu ddatblygiad proffesiynol parhaus i lefel 4, 5, 6 a 7.

(O VTCT) – Prif ddiben y cymhwyster hwn yw paratoi dysgwyr ar gyfer astudiaeth ychwanegol ar lefel 4+ yn y diwydiant harddwch estheteg. Bydd cyflawni’r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau ymhellach drwy gwblhau cymwysterau arbenigol ychwanegol ar Lefel 4 a 5, er enghraifft.

Dyfarniad Lefel 4 VTCT (ITEC) mewn Pilio Croen
Dyfarniad Lefel 4 VTCT (ITEC) mewn Nodwyddo Croen
Dyfarniad Lefel 4 VTCT (ITEC) mewn Uwchsain
Dyfarniad Lefel 4 VTCT (ITEC) mewn Dermablaenio
Dyfarniad Lefel 4 VTCT (ITEC) mewn Uwchsain â Ffocws Dwysedd Uchel (HIFU)
Dyfarniad Lefel 4 VTCT (ITEC) mewn Microbigmentiad Croen y Pen
Dyfarniad Lefel 5 VTCT (ITEC) mewn Microbigmentiad ar gyfer Cuddliwio ac Adfer




£450
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?