main logo

Lefel 1 Gwallt

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00128
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser.
Adran
Therapïau Harddwch, Sba a Chyflenwol, Dysgu Sylfaen, Trin Gwallt a Thorri Gwallt Dynion
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs yn addas ar gyfer y rhai sydd eisiau cyflwyniad i’r sector Gwallt.

Bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau trin gwallt a chyflogadwyedd i sicrhau bod ganddynt ystod o wybodaeth i’w galluogi nhw i symud ymlaen yn y sector. Bydd dysgwyr yn cymryd rhan mewn gweithdai ymarferol i ddatblygu eu sgiliau a theori yn yr ystafell ddosbarth i ddatblygu eu gwybodaeth.

Byddwch yn canolbwyntio ar ddatblygu llythrennedd a rhifedd ar y rhaglen, a bydd cyfle i chi ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif neu ail-sefyll arholiadau TGAU mewn Mathemateg a Saesneg.

Byddwn yn penodi Anogwr Bugeiliol i bob dysgwr a fydd yn eu cefnogi trwy gydol eu hamser ar y rhaglen. Bydd yr anogwr yn sicrhau bod unrhyw gymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol ar waith cyn i ddysgwyr ddechrau ar eu cwrs. Bydd hefyd yn sicrhau bod unrhyw anghenion newydd am gymorth a fyddai’n gallu ymddangos yn cael eu cynnwys yn eu rhaglen i helpu i’r dysgwyr lwyddo. Cefnogir y cwrs yn llawn i fodloni anghenion unigol a gwahaniaethau dysgu.

Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno dros dri diwrnod a bydd yn gymysgedd o ddarpariaeth yn yr ystafell ddosbarth ac mewn gweithdy.
Bydd dysgwyr yn cyflawni eu cymhwyster trwy gwblhau gwaith cwrs a fydd yn cael ei asesu’n fewnol. Gallai hyn gynnwys tasgau fel prosiectau, taflenni neu aseiniadau ysgrifenedig.
4 TGAU gradd E/2 neu uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf).

Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.

I’r holl ddysgwyr sy’n bwriadu symud ymlaen i’r cwrs Lefel 1 hwn o gwrs Mynediad, rhaid eich bod wedi cyflawni eich cymhwyster Lefel Mynediad 3, wedi symud ymlaen mewn mathemateg a Saesneg ac wedi cyrraedd yr holl dargedau yn eich CDU.
Dilyniant i gwrs Lefel 2, fel y rhai sy’n cael eu cynnig yn y sector Trin Gwallt, Twf Swyddi Cymru+, Prentisiaethau neu gyflogaeth llawn amser.
Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu rhestr o offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?