main logo

Diploma Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP87952
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser i ddechrau, gydag estyniad i’r ail flwyddyn ar gyfer y Diploma Estynedig.
Adran
Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd y cwrs yn datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen arnoch chi wrth baratoi I ymuno â’r sefydliad gwasanaeth mewn lifrai o’ch dewis chi.

Mae'r sefydliadau hynny'n cynnwys sefydliadau fel Cyfiawnder Troseddol a Rheoli Troseddwyr fel yr Heddlu, y Gwasanaeth Carchardai neu'r Asiantaeth Ffiniau. Y Gwasanaeth Tân ac Achub neu'r Lluoedd Arfog fel Byddin Prydain, y Llu Awyr Brenhinol, y Llynges Frenhinol; neu fel arall, astudiaeth bellach mewn maes cysylltiedig mewn prifysgol.

Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn astudio amrywiaeth o bynciau gorfodol damcaniaethol ac ymarferol fel:
● Paratoi ar gyfer gyrfa mewn Gwasanaeth mewn Lifrai o’ch dewis
● Datblygu agweddau o Ffitrwydd Corfforol
● Meithrin Sgiliau Arwain
● Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Bydd unedau dewisol yn cynnwys:
● Darllen Mapiau a Chyfeiriannu ar draws Tir Agored
● Sgiliau ar gyfer Gweithgareddau Awyr Agored ac Antur ar y Tir
● Sgiliau ar gyfer Gweithgareddau Awyr Agored ac Antur yn y Dŵr
● Gweithgareddau Awyr Agored ac Antur
● Deall Disgyblaeth yn y Gwasanaethau mewn Lifrai

Bydd pob myfyriwr yn astudio ar gyfer eu Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ar lefel uwch a bydd disgwyl iddynt ymgymryd â Phrosiect Cymuned Fyd-eang a Phrosiect Cyrchfannau’r Dyfodol.
Yn ogystal, bydd disgwyl iddynt hefyd wirfoddoli ar gyfer ymgysylltu â'r gymuned yn ogystal â gwneud gweithgareddau preswyl a phrofiad gwaith

Byddwch yn gweithio I wella eich llytrennedd a’ch rhifedd trwy gydol y cwrs hefyd.
Byddwn yn eich asesu gan ddefnyddio ystod o ddulliau, gan gynnwys arsylwadau, aseiniadau ysgrifenedig, trafodaethau proffesiynol, cyflwyniadau llafar, gweithgareddau ymarferol ac ymarferion datblygu sgiliau eraill.

Byddwn yn eich asesu’n barhaus ar y rhaglen hon a byddwch yn gallu ennill lefelau cyrhaeddiad Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth.

Yn ystod y cwrs, bydd dysgwyr yn elwa o ymweliadau â gwahanol sefydliadau gwasanaeth mewn lifrai (yn amodol ar argaeledd) ac bydd asiantaethau gwirfoddol a sefydliadau sy’n berthnasol i’ch gyrfa a’r rhaglen hon yn ymweld â ni.

Bydd personél o amrywiaeth eang o Wasanaethau mewn Lifrai yn ymweld â ni hefyd, gan gynnwys yr Heddlu a’r Gwasanaethau Arfog.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch, gan gynnwys Mathemateg neu Iaith Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf).

Ar gyfer dysgwyr dilyniant – cwblhau cwrs lefel 2 yn llwyddiannus, a gweithio ar lefel sy’n gyfwerth â TGAU gradd C/4 mewn Mathemateg a Saesneg.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau TGAU. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, gallai hynny arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch.
Bydd y cwrs yn sail ddelfrydol ar gyfer symud ymlaen naill ai i brentisiaethau’r Heddlu, prentisiaethau’r Gwasanaeth Tân ac Achub, prentisiaethau’r Lluoedd Arfog, neu fel arall gallwch symud ymlaen i addysg uwch; mewn nifer o ddisgyblaethau gwahanol, gan gynnwys gradd Cyfiawnder Troseddol FdSc gyda Rheoli Troseddwyr.

Mae cyn fyfyrwyr wedi astudio pynciau amrywiol fel Cyfiawnder Troseddol, Astudiaethau Plismona, Chwaraeon, Seicoleg, Cymdeithaseg, Troseddeg, neu HND mewn Gwasanaethau Cyhoeddus.

Bydd hefyd o fudd penodol i unigolion sy’n dymuno dechrau a dilyn gyrfa yn y Fyddin Brydeinig, y Llu Awyr Brenhinol, y Llynges Frenhinol, y Gwasanaeth Carchardai neu’r Asiantaeth Ffiniau.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?