main logo

FdA mewn Cyfiawnder Troseddol

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01481
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Llawn amser. Dros gyfnod o 2 flynedd. Bydd y cwrs yn cael ei ddyfarnu gan LJMU. Cwrs llawn amser sy’n cael ei gynnal dau ddiwrnod yr wythnos o 09:00 tan 16:00. Bydd y rhaglen hon yn cael ei chyflwyno trwy gyfuniad o sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb i weddu i’ch anghenion. Bydd hyn ar yr amod ein bod yn gallu gweithio o fewn canllawiau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau eich diogelwch chi yn ogystal â diogelwch ein staff. Byddwn yn parhau i gynorthwyo’r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol o bell.
Adran
Gwyddorau Cymdeithasol a Throseddeg, Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai
Dyddiad Dechrau
16 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Ein nod yw rhoi mewnwelediad I'n myfyrwyr I ddamcaniaeth, polisi ac arferion ein system cyfiawnder troseddol. Rydym wedi ymrwymo I ddarparu addysg gyfoes, berthnasol sy’n ychwanegu gwerth ac wedi’I seilio ar addysgu sy'n seiliedig ar ymchwil, a'I chyflwyno gan arbenigwyr pwnc sy'n dod â gwybodaeth arloesol I'r ystafell ddosbarth. Rydym yn ceisio datblygu sgiliau a gwybodaeth galwedigaethol myfyrwyr, gan eu darparu gyda’r priodoleddau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi.

Modiwlau Blwyddyn 1

Cyfraith Trosedd a Throseddoli
Hanes Trosedd a Chyfiawnder Troseddol
System Cyfiawnder Troseddol
Damcaniaeth Droseddegol
Cyfiawnder Troseddol, Cyhoeddus a’r Cyfryngau
Datblygiad Personol ac Academaidd mewn Cyfiawnder Troseddol

Modiwlau Blwyddyn 2

Anghyfiawnderau mewn System ‘Gyfiawn’
Gwneud Penderfyniadau mewn Cyfiawnder Troseddol
Datblygiad Proffesiynol mewn Cyfiawnder Troseddol
Cyflwyniad I Benydeg
Polisi ac Arfer Cyfiawnder Troseddol a’r Sail Tystiolaeth
Ymchwil Cyfiawnder Troseddol
Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys ysgrifennu traethodau ffurfiol, portffolio myfyriol, astudiaeth achos. Arholiadau, gan gynnwys rhai dibaratoad ac ar-lein, adolygiad llyfr, cyflwyniadau gan unigolion a grwpiau.

Bydd LJMU yn rhoi un dystysgrif ar ôl cwblhau’r dyfarniad yn llwyddiannus.
72 pwynt UCAS
Gall myfyrwyr sy’n dymuno symud ymlaen wneud hynny trwy symud ymlaen i’r flwyddyn atodol i ennill gradd mewn Cyfiawnder Troseddol ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl.

Swyddi Cyfiawnder Troseddol a gorfodi’r gyfraith, fel:-

Llu Ffiniau’r DU, yr Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol, y Gwasanaeth Prawf, Gweithwyr Ieuenctid, yr Heddlu a Heddlu Trafnidiaeth Prydain. Swyddog carchar.
Ffioedd y cwrs £7500 y flwyddyn.

Dylid talu ffioedd i LJMU.

Efallai y bydd angen prynu offer a/neu iwnifform ar gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr offer atodedig am ragor o wybodaeth.

Cod Cwrs UCAS / SLC: 974583

Defnyddiwch Brifysgol John Moores Lerpwl fel y Sefydliad ar eich cais Cyllid Myfyrwyr.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?