main logo

Diploma Lefel 2 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP87951
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.
Adran
Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd y cwrs yn datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen I baratoi I ymuno â gwasanaeth cyhoeddus dewisol.

Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle I ddysgwyr ddatblygu'r sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu, datrys problemau a gwaith tîm a ddefnyddir yn y gwasanaethau hynny.

Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag ymarferion megis profi ffitrwydd ac unedau gorfodol fel Dinasyddiaeth, Cymdeithas a'r Gwasanaethau Cyhoeddus a Throseddu a'I Effeithiau ar Gymdeithas ac Unigolion, tra bydd unedau opsiynol yn cael eu dewis o amrywiaeth o bynciau gan gynnwys Paratoi I Ymateb I Ddigwyddiadau Brys, Iechyd, Ffitrwydd a Ffordd o Fyw a Phrofiad Ymdeithio Aml-ddiwrnod.

Yn ogystal â'r brif raglen hon, bydd pob myfyriwr yn ymgymryd â gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned, wrth weithio I ennill Gwobr Dug Caeredin.

Bydd myfyrwyr hefyd yn gallu ail-sefyll TGAU mewn Iaith Saesneg a Mathemateg neu Sgiliau Hanfodol os oes angen.
I'r rhai sydd â TGAU mewn Iaith Saesneg a Mathemateg, ceir gweithgareddau ymestyn I helpu I barhau I wella sgiliau llythrennedd a rhifedd.
Caiff dysgwyr eu hasesu drwy ystod o ddulliau gan gynnwys arholiadau, aseiniadau ysgrifenedig, cyflwyniadau llafar, gweithgareddau ymarferol a phrofiadau eraill sy’n gysylltiedig â gwaith.

Asesir yn barhaus ar y rhaglen hon a gellir ei chyflawni naill ai ar lefel Pasio, Teilyngdod neu Ragoriaeth.

Yn ystod y cwrs, bydd dysgwyr yn elwa o ymdeithiau awyr agored, ymweliadau â gwahanol sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus (yn amodol ar argaeledd) yn ogystal ag ymweliadau gan bersonél o amryw o wasanaethau cyhoeddus mewn lifrai.
4 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf)
neu
ar gyfer dysgwyr Dilyniant:
L1 BTEC mewn Chwaraeon/Gwasanaethau Cyhoeddus, wedi’I gefnogi gyda safon well o Lythrennedd a Rhifedd
Cwrs L1 perthnasol wedi’I gefnogi gan 2 TGAU gradd D/3 a safon well o Lythrennedd a Rhifedd

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch
Bydd y cwrs yn syflaen ddelfrydol ar gyfer symud ymlaen i brentisiaethau gyda’r Gwasanaethau Arfog neu Ddiploma Lefel 3 NCFE ar gyfer Mynediad i’r Gwasanaethau Amddiffynnol mewn Lifrai (601/8792/X) (ar yr amod bod y myfyriwr yn cyflawni gradd Teilyngdod cyffredinol ynghyd â TGAU Saesneg a Mathemateg Gradd C/4).

Mae hefyd o fudd arbennig I unigolion sy’n dymuno dilyn gyrfa yn y Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai fel:
y Fyddin Brydeinig, y Llynges Frenhinol neu’r Awyrlu Brenhinol neu’r Gwasanaethau Brys fel yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân neu’r Gwasanaeth Ambiwlans neu yn olaf y Gwasanaeth Carchardai neu Asiantaeth Ffiniau.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?