main logo

Diploma Lefel 3 mewn Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP87950
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Cwrs llawn amser, blwyddyn o hyd yw hwn i ddechrau, gydag estyniad i’r ail flwyddyn ar gyfer y Diploma Estynedig.
Adran
Chwaraeon a Ffitrwydd
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Dyluniwyd y cwrs hwn i ddarparu myfyrwyr gyda dealltwriaeth o chwaraeon a ffitrwydd corfforol, gan ddarparu efelychiad realistig o amgylchedd gwaith yn y diwydiant.
Cyflwynwyd naw uned mewn fformat prosiect:

Prosiect Perfformiad ac Arwain
• Hyfforddi Chwaraeon
• Arwain mewn Chwaraeon
• Chwaraeon Tîm Ymarferol

Prosiect Cyrchfannau’r Dyfodol
• Paratoi ar gyfer Gyrfa mewn Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol
• Profiad Gwaith mewn Chwaraeon
• Datblygu Chwaraeon

Prosiect Iechyd a Ffordd o Fyw
• Ymarfer Corff, Iechyd a Ffordd o Fyw
• Profi Ffitrwydd ar gyfer Chwaraeon
• Cyfarwyddo Gweithgaredd Corfforol ac Ymarfer Corff

Bydd Cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn cael ei gynnwys yn y rhaglen astudio hon. Mae’r Cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn ehangu dysgu myfyrwyr, gan ddarparu’r sgiliau a’r nodweddion personol y mae cyflogwyr a sefydliadau AU yn chwilio amdanynt.

Gallai fod cyfle I ymgymryd â chymwysterau ychwanegol trwy gydol y cwrs. Bydd disgwyl i’r holl ddysgwyr wella eu sgiliau llythrennedd a rhifedd.
Caiff pob uned ei hasesu a’i graddio a dyfernir gradd gyffredinol ar gyfer yr unedau fel llwyddo, teilyngdod neu ragoriaeth. Disgwylir i fyfyrwyr hefyd gwblhau’r oriau dysgu dan arweiniad angenrheidiol ar gyfer y cymhwyster hwn.

Asesir y myfyrwyr trwy asesiadau ysgrifenedig, cyflwyniadau rhyngweithiol, podlediadau, fideos, cyfweliadau panel, perfformiad ymarferol, cyflwyno sesiynau hyfforddiant, a phrofiad gwaith llwyddiannus.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch, gan gynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf) a Mathemateg.

Ar gyfer dysgwyr dilyniant Diploma Lefel 2 mewn pwnc perthnasol gyda TGAU mewn Mathemateg a Saesneg Iaith.

Mae’n rhaid bod gan ymgeiswyr diddordeb brwd mewn cymryd rhan mewn chwaraeon, eu hyfforddi neu eu gweinyddu.

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau.
Bydd gennych chi ragor o ddewisiadau os oes gennych chi raddau da, a gallai hynny arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.
Bydd myfyrwyr sy’n cyflawni ail flwyddyn y rhaglen (Diploma Estynedig mewn Chwaraeon) yn gallu ehangu eu hastudio academaidd mewn sefydliadau Addysg uwch.

Fel arall gall myfyrwyr gael cyflogaeth yn niwydiannau Chwaraeon/Adloniant/Hamdden e.e. hyfforddi chwaraeon, hyfforddi personol, hyfforddi mewn campfa, gwasanaethau hamdden, lluoedd EF, Heddlu, Gwasanaeth Tân.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?