main logo

Lefel 3 UAL Diploma mewn Chynhyrchu Cerddoriaeth

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP81016
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, 2 flynedd lawn amser
Blwyddyn 1af – Diploma, paratoad addas ar gyfer cyflogaeth, prentisiaethau, neu Brifysgol (gyda chymwysterau lefel 3 eraill) yn symud ymlaen i 2il Flwyddyn – Diploma Estynedig, sy’n addas i symud ymlaen yn uniongyrchol i’r Brifysgol neu gyflogaeth yn y diwydiant.
Adran
Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r Diploma Estynedig UAL mewn Peirianneg Sain yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr archwilio hanfodion gwaith technegol sain a chynhyrchu cerddoriaeth mewn modd galwedigaethol ac sy’n seiliedig ar brosiectau. Mae’r cwrs yn meithrin y sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnoch i weithio fel Peiriannydd Sain mewn meysydd fel Sain Byw, Cynhyrchu Cerddoriaeth mewn Stiwdio, Peirianneg Darlledu, Acwsteg ac ôl-gynhyrchu sain ar gyfer ffilmiau, teledu a gemau cyfrifiadurol. Yn ogystal â hynny, byddwch yn cael y wybodaeth dechnegol ac academaidd sydd eu hangen ar gyfer astudiaeth arbenigol bellach mewn prifysgol.

Bydd Cynhyrchu Sain Byw yn meithrin sgiliau peirianneg blaen tŷ, monitro cymysgu a goleuadau llwyfan, wrth ehangu sgiliau wrth drefnu a rheoli digwyddiadau byw hefyd. Bydd gwaith Recordio mewn Stiwdio yn galluogi dysgwyr i gynllunio, gosod a rheoli sesiynau stiwdio safonol y diwydiant, wrth weithio'n uniongyrchol â cherddorion i gipio a chynhyrchu traciau o ansawdd uchel gan ddefnyddio offer recordio modern y diwydiant, mewn amgylchedd stiwdio pwrpasol. Bydd Cynhyrchu Cerddoriaeth yn datblygu gallu myfyrwyr i ddefnyddio meddalwedd dilyniannu cerddoriaeth (DAW) i’w galluogi i gynhyrchu cymysgedd cerddoriaeth o safon broffesiynol, defnyddio MIDI a thechnegau golygu sain i gynhyrchu caneuon ailgymysgu a chaneuon gwreiddiol.

Yn ddiweddarach yn y cwrs, bydd dysgwyr yn cael y cyfle i ganolbwyntio ar feysydd megis cynhyrchu sain ar gyfer ffilmiau a’r cyfryngau, creu recordiadau estynedig proffesiynol a datblygu sgiliau cymysgu a golygu ansawdd proffesiynol, sy'n cynnwys technegau dosbarthu a meistrolaeth o safon y diwydiant.

Mae cyfleoedd i gael profiad gwaith trwy gydol y cwrs, gyda chysylltiadau diwydiant cryf â lleoliadau cerdd a stiwdios recordio yng Ngogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr, lle mae llawer o'n myfyrwyr yn cymryd rhan ochr yn ochr â'u hastudiaethau. Mae galw mawr am weithredwyr aml-fedrus ledled y diwydiannau creadigol ehangach. Rhagwelir y bydd twf o £100 biliwn y flwyddyn ar gyfer economi'r DU, gan greu 900,000 o swyddi ychwanegol erbyn 2030.

Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn ennill y canlynol UAL Lefel 3 Diploma mewn Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys hyd at 168 o bwyntiau UCAS ac mae’n addas ar gyfer ystod eang o gyrsiau gradd israddedig uchel eu parch yn genedlaethol, gyda hanes o fyfyrwyr yn llwyddo i fynd i’r brifysgol ac yn uniongyrchol i’r diwydiant. Trwy gydol y cwrs bydd dysgwyr yn datblygu eu dealltwriaeth o’r diwydiant cerddoriaeth a sut i baratoi eu hunain yn effeithiol ar gyfer cyflogaeth yn y maes.

Mae gradd llwyddo / methu i bob uned o astudiaeth meithrin sgiliau. Ar ddiwedd bob blwyddyn, byddwch yn astudio uned brosiect fawr olaf sy’n eich galluogi i arbenigo mewn maes o’ch dewis, a fydd yn ffurfio eich gradd gyfansawdd derfynol. Byddwch yn cael eich asesu ar bortffolio, gwaith cwrs a thasgau ymarferol, yn ogystal â chymryd rhan mewn cynyrchiadau galwedigaethol go iawn.
Bydd angen 5 neu ragor o TGAU arnoch chi, gradd A*-C neu 9-4 ar gyfer TGAU Saesneg.

I ddysgwyr sy’n symud ymlaen, cwblhau cymhwyster Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus ar lefel Llwyddo.

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Bydd ennill graddau da yn rhoi rhagor o ddewisiadau i chi a byddant yn gallu arwain at gael lle ar gwrs lefel uwch
Gall y cwrs hwn arwain yn uniongyrchol at yrfa fel Peiriannydd Sain Byw, Peiriannydd Recordio, Cynhyrchydd Radio, Recordydd Sain Teledu neu Ffilm, Golygydd, Artist Foley, DJ, Cynhyrchydd Cerddoriaeth neu Reolwr Cerddoriaeth.

Mae dewisiadau’r Brifysgol yn cynnwys cyrsiau gradd megis Technoleg Cerddoriaeth, Peirianneg Sain, Cynhyrchu Cerddoriaeth, Acwsteg, Peirianneg Darlledu, Cynhyrchu Digwyddiadau Byw a Busnes/Rheoli Cerddoriaeth.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?