main logo

Lefel 3 UAL Diploma mewn Perfformio cerddoriaeth

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00680
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs 2 flynedd llawn amser.
Adran
Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Gellir cymryd y Diploma Lefel 3 fel Diploma blwyddyn neu fel Diploma Estynedig dwy flynedd llawn. Mae'r cwrs yn cwmpasu amrywiaeth o feysydd, gan ganolbwyntio ar wahanol agweddau ar berfformiad cerddoriaeth, creu a chyfansoddi cerddoriaeth a'r diwydiant cerddoriaeth.

Er y bydd y pwyslais ar gymhwyso sgiliau cerddoriaeth yn ymarferol, gweithio gyda'ch offerynnau a chwarae mewn grwpiau a bandiau, byddwn hefyd yn edrych ar hanes cerddoriaeth boblogaidd a'i draddodiadau a'i nifer o wahanol arddulliau a genres. Byddwch hefyd yn edrych ar sut mae'r diwydiant cerddoriaeth yn gweithio, yn ogystal â dysgu am theori cerddoriaeth a sut mae'n cyfrannu at gyfansoddiad a chreadigrwydd.

Mae'r cwrs yn cynnwys cyfres o brosiectau a fydd yn meithrin eich sgiliau a'ch dealltwriaeth yn y meysydd hyn ac yn arwain at brosiect cerddoriaeth mawr terfynol sy'n canolbwyntio ar faes o'ch dewis chi yr hoffech arbenigo ynddo neu ddysgu mwy amdano, er enghraifft perfformio byw, cyfansoddi neu astudiaeth offerynnol.

Prosiectau Enghreifftiol:
Perfformio Cerddoriaeth Fyw - Perfformio i gynulleidfa.
Cyfansoddi a Threfnu - Cyfansoddi a chreu cerddoriaeth newydd.
Cynhyrchu- Defnyddio gweithfannau sain digidol (Mac a Logic) i greu a chynhyrchu eich curiadau, grŵfs, cyfansoddiadau ac ailgymysgiadau eich hunain.
Gallu Cerddorol mewn Stiwdio a Sesiwn - sut i gymhwyso theori cerddoriaeth a gwybodaeth offerynnol wrth greu cerddoriaeth greadigol.
Cerddoriaeth Boblogaidd mewn Cyd-destun - dadansoddi gwahanol arddulliau a genres a'u hystyr a'u lle mewn cymdeithas, yn ogystal ag edrych ar sut mae artistiaid yn defnyddio cerddoriaeth fel math o fynegiant a chyfathrebu.

Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn ennill y canlynol UAL Lefel 3 UAL mewn Perfformio Cerddoriaeth
Caiff pob uned a phrosiect eu hasesu a’u dilysu’n fewnol, ac yna dyfernir gradd gyffredinol ar gyfer y cymhwyster ar ôl cwblhau eich prosiect cerddoriaeth fawr ac fe’i hasesir yn fewnol ac yn allanol.

I’ch helpu I wella a gloywi eich sgiliau, byddwch yn derbyn adborth yn rheolaidd gan eich tiwtoriaid wrth I chi weithio drwy bob prosiect. Mae pob blwyddyn yn cynnwys cyfres o brosiectau adeiladu sgiliau sy’n rhaid I chi eu pasio cyn symud ymlaen I’ch prosiect terfynol, a fydd yn cyfrannu at eich gradd derfynol am y flwyddyn.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Cymraeg/Saesneg (Iaith 1af).
Mae pwnc sy’n seiliedig ar Gerddoriaeth gradd C/4 neu uwch yn ddymunol ond nid yn hanfodol neu I ddysgwyr dilyniant Cymhwyster Lefel 2 .

Yn dilyn cais ar gyfer y cwrs hwn, bydd gofyn I ddarpar ddysgwyr Lefel 3 hefyd gymryd rhan mewn prosiect mynediad ‘profi’ byr lle bydd dysgwyr yn cael cyfle I arddangos eu sgiliau cynhyrchu neu offerynnol ymarferol yn ogystal â’u gwaith ysgrifenedig. Mae’r prosiect mynediad ‘profi’ hwn wedi’I gynllunio I bennu addasrwydd y dysgwr ar gyfer y cwrs ac I helpu dysgwyr I benderfynu ai dyma’r cwrs iawn iddyn nhw.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac o ganlyniad efallai y gallech symud ymlaen I gwrs lefel uwch.
Mae diplomâu Lefel 3 yn cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr ac mewn Addysg Uwch. Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y Diwydiannau Creadigol ac yn eich cefnogi eich cais prifysgol ar gyrsiau fel perfformio, cyfansoddi, cynhyrchu cerddoriaeth neu fusnes cerddoriaeth.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?