main logo

Lefel 2 UAL Diploma mewn Perfformio

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00211
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs 1 flynedd amser-llawn.
Adran
Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys amrywiaeth o unedau lle byddwch yn datblygu sgiliau i’ch galluogi chi i gyflawni’r cymhwyster.

Bydd hyn yn cael ei wneud trwy ystod o weithgareddau fel:

● Perfformio mathau poblogaidd o gerddoriaeth mewn band/ensemble
● Technegau perfformio’n unigol ac ymarfer
● Technegau cyfansoddi cerddoriaeth
● Theori Cerddoriaeth Sylfaenol/Canolradd
● Peirianneg Sain Fyw
● Technegau recordio a chynhyrchu gan ddefnyddio gweithfannau sain ddigidol
● Cydweithio â dysgwyr eraill ar brosiectau creadigol
● Sgiliau ymchwil
● Paratoi ar gyfer gwaith yn y diwydiant cerddoriaeth

Bydd cyfleoedd I gymryd rhan mewn digwyddiadau a pherfformiadau byw yn yr ardal leol, y ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau ac ymweliadau addysgol I gynorthwyo gyda’ch astudiaethau.

Nod y cwrs hwn yw datblygu eich sgiliau mewn ystod eang o arferion perfformio cerddoriaeth ac arferion technolegol sy'n berthnasol I'r diwydiant.

Mae eich rhaglen ddysgu yn cynnwys nifer o gymwysterau. Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo I gefnogi eich dilyniant I gyflogaeth neu Addysg Uwch. Felly, mae pob cwrs yng Ngholeg Cambria yn rhoi’r cyfle I ddatblygu Saesneg a Mathemateg I Lefel 2 ac I radd C/4 TGAU os nad ydych chi wedi cyflawni hyn eisoes yn yr ysgol/coleg. Bydd hyn yn gwella eich rhagolygon yn y farchnad swyddi a bydd yn eich galluogi I symud ymlaen I Addysg Uwch.

Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn ennill y canlynol UAL Lefel 2 UAL mewn Perfformio Cerddoriaeth
Mae dull asesu’r cwrs hwn yn seiliedig ar waith cwrs/portffolio ac ni fydd angen i chi sefyll arholiadau ffurfiol. Caiff unedau crynodol eu graddio fel llwyddo, teilyngdod neu ragoriaeth ac maent yn cael eu hasesu’n fewnol ac yn allanol.

Bydd gofyn I chi gyflawni gradd llwyddo o leiaf ym mhob un o’r unedau ffurfiannol I gymhwyso gradd gyffredinol.
4 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg (Iaith gyntaf), neu bydd gofyn I ddarpar fyfyrwyr gwblhau cymhwyster Lefel 1 mewn Cerddoriaeth, cymhwyster Lefel 1 Cerddoriaeth, Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu ac argymhelliad gan diwtoriaid y cwrs.

Gallu sylfaenol I chwarae o leiaf un offeryn cerddorol (mae lleisiau/canu yn cael eu hystyried fel offeryn cerddorol hefyd).

Yn dilyn gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn, bydd angen I ddarpar ddysgwyr Lefel 2 gymryd rhan mewn prosiect mynediad ‘rhagflas’ byr, lle bydd dysgwyr yn cael y cyfle I ddangos eu sgiliau offeryn ymarferol neu sgiliau cynhyrchu yn ogystal â’u gwaith ysgrifenedig. Mae’r prosiect mynediad ‘rhagflas’ hwn wedi’I gynllunio I bennu pa mor addas yw’r cwrs i’r dysgwr ac I helpu dysgwyr benderfynu p’un a yw’r cwrs yn ddewis cywir.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle
ar gwrs lefel uwch.
Mae cyflogwyr yn rhoi gwerth ar Ddiplomâu Lefel 2 ac mae’r cwrs yn eich paratoi ar gyfer gweithio yn y Diwydiannau Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio.

Os hoffech barhau a symud ymlaen gyda’ch astudiaethau, gallwch ymgymryd â chymhwyster Lefel 3 mewn pwnc tebyg fel Perfformio Cerddoriaeth, Peirianneg Sain, Digwyddiadau Byw, Celfyddydau Perfformio neu Theatr Dechnegol.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?