main logo

Diploma lefel 2 mewn Therapi Harddwch, Colur ac Ewinedd

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP00278
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.
Adran
Therapïau Harddwch, Sba a Chyflenwol
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r Diploma Lefel 2 mewn Therapi Harddwch wedi’i anelu at ddysgwyr sy’n dymuno dechrau gyrfa mewn Harddwch.

Bydd gennych gyfle i ddatblygu eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o anatomi a ffisioleg, iechyd a diogelwch a thechnegau sesiynau ymgynghori.
Yn ogystal â hyn byddwch yn gweithio gyda brandiau proffesiynol fel Dermalogica ac OPI i feithrin sgiliau mewn triniaethau’r dwylo, triniaethau’r traed, cwyro, triniaethau’r amrannau a’r aeliau, triniaethau’r wyneb a gwasanaethau goluro wrth ymgymryd â gwasanaethau Therapi Harddwch ar gwsmeriaid.

Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn meithrin sgiliau cyfathrebu a gwasanaeth cwsmer, ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd amgylcheddol a sgiliau datrys problemau. Mae’r sgiliau hynny’n werthfawr iawn i gyflogwyr.


Yn ogystal â’r cymhwyster Diploma Lefel 2 mewn Therapi Harddwch, bydd angen i chi gwblhau’r canlynol:
● TGAU mewn Saesneg a Mathemateg neu Sgiliau Hanfodol Cymru
● Meithrin sgiliau Cymraeg, trwy Gymraeg Gwaith
Byddwn yn asesu’r gwaith cwrs yn barhaus a bydd y dysgwyr yn gallu ennill y
graddau a ganlyn – Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth.
4 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg/Cymraeg (Iaith 1af) neu fod wedi cyflawni Therapi Harddwch Lefel 1 yn llwyddiannus.

Yng Ngholeg Cambria byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac fe allai eich galluogi i symud ymlaen i gwrs lefel uwch.
Mae cyfleoedd cyffrous o’ch blaen yn dilyn eich cymhwyster lefel 2. Gyda’r sgiliau rhagorol a ddysgwyd gennych, gallwch fynd yn syth i’r diwydiant gan weithio mewn salon stryd fawr brysur, sba moethus neu gonsesiynau manwerthu harddwch.

Mae rhagor o gyfleoedd dilyniant ar gael gan gynnwys Diploma Lefel 3 mewn Triniaethau Therapi Harddwch, Diploma Lefel 3 mewn Triniaethau Sba, Diploma Lefel 2 mewn Celfyddyd Gwallt a Cholur neu Ddiploma mewn Colur Theatr, Effeithiau Arbennig a Chyfryngau
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?