Home > Coleg 16-18 > Gweld Pob Maes Pwnc > Lletygarwch ac Arlwyo
LLETYGARWCH AC ARLWYO
Lletygarwch ac Arlwyo
Academi Bryn Williams
Mae’r diwydiant gwasanaethau yn ffynnu, ac os oes gennych chi’r cymwysterau cywir, mae’r cyfleoedd swyddi yn ddiddiwedd. Gall Coleg Cambria gynnig y rhain i chi, gyda’n tiwtoriaid profiadol yn y diwydiant yn canolbwyntio ar wasanaethau i gwsmeriaid, protocolau iechyd a diogelwch a datblygu eich sgiliau ymarferol proffesiynol. Byddwch yn dysgu i baratoi a chreu ystod eang o fwyd, o brydau lleol clasurol i fwyd rhyngwladol, cacennau, danteithion crwst a rhagor.
Bydd hyn oll yn cael ei wneud yn ein ceginau o’r radd flaenaf a’n bwyty ar y safle yn Iâl, lle gallwch brofi eich doniau a gweini i westeion go iawn sy’n talu. Mae gennym gysylltiadau gyda chwmnïau lleol a fydd yn eich helpu i wireddu eich gyrfa ddelfrydol. Yr unig beth sydd ei angen arnoch yw angerdd am fwyd da a gwasanaeth rhagorol; byddwn ni’n dangos y gweddill i chi.
Cyfleusterau Lletygarwch ac Arlwyo
Bwyty Iâl
Emily Jones
Wedi Astudio – Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol, Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol, HND mewn Rheoli Lletygarwch
Erbyn hyn – Rheolwr Bwyty yn Palé Hall
“Gwnes i ddewis y cwrs yma oherwydd roeddwn i eisiau gyrfa yn y diwydiant lletygarwch ac roeddwn i’n teimlo byddai hyn yn rhoi’r mewnwelediad gorau i mi o beth roedd y diwydiant yn ei ddisgwyl gen i a beth sydd gan y diwydiant lletygarwch i’w gynnig i mi hefyd.
“Wrth gwblhau’r cymhwyster gyda Choleg Cambria roeddwn i’n gallu ennill profiad gwaith buaswn i heb ei gael fel arall, gan gynnwys profiad gwaith mewn dau wahanol fusnes lletygarwch, cefais fy nhalu i weithio gydag un ohonyn nhw yn y pendraw.”
Frankie McCamley
Studied – A Level English, Drama, Maths and French
Currently – Presenter and News Correspondent for the BBC
“I wasn’t sure what I wanted to do in the future, so I chose a range of different subjects to study at A Level. I’m now employed by the BBC as a Presenter and News Correspondent and studying at Yale Sixth gave me the confidence and skills to go onto university. I made some amazing friends, had some great teachers who I’ll never forget and had a great time in Wrexham!
“I look back on my time at Yale with pride and fondness and will never forget it!”
Pethau Defnyddiol i'w Lawrlwytho
A oes gennych chi gwestiwn?
Ymweld â'n horiel
Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
17:30
Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
Digwyddiad Agored – Llaneurgain
Home > Coleg 16-18 > Gweld Pob Maes Pwnc > Lletygarwch ac Arlwyo
Academi Bryn Williams
Dysgwch gan y gorau!
Mae Coleg Cambria a’r cogydd enwog Bryn Williams wedi lansio Academi Bryn Williams i ddylanwadu’n gadarnhaol ar y genhedlaeth nesaf o gogyddion a staff lletygarwch ledled Gogledd Ddwyrain Cymru. Dyma’r academi gyntaf o’i math i Bryn, i Goleg Cambria, ac i Gymru.
Byddwch yn elwa o ddosbarthiadau meistr dan arweiniad Bryn Williams a’i dîm o gogyddion arbenigol, a fydd yn cael eu cynnal ym mwyty Iâl yng Ngholeg Cambria Iâl yn ogystal â bwyty Bryn, Bryn Williams ym Mhorth Eirias. Bydd hyn yn eich galluogi i roi eich gwybodaeth a’ch sgiliau ar waith a’u meithrin ymhellach mewn lleoliad gwaith.
Ar ol cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus, bydd cyfleoedd i symud ymlaen i gwrs lefel uwch neu i gyflogaeth. Bydd tîm yr academi yn dal i gadw cysylltiad â chi trwy gydol eich gyrfa ac yn cynnig cyngor ac arweiniad.
Os oes gennych chi angerdd am arlwyo neu waith blaen tŷ, a bod gennych y cymhelliant a’r uchelgais i fod ar y brig, yna dyma’r cwrs i chi!
Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Bydd holl ymgeiswyr yr academi yn mynd trwy’r broses dethol.
Mae’r academi yn cynnwys rhaglen a fydd yn rhoi llwybrau tuag at gyflogaeth i chi gyda chyfuniad o addysg a phrofiad gwaith o safon uchel. Mae’r rhaglen academi yn cynnwys:
- Rhaglen astudio lawn amser sy’n cynnwys Diploma Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol neu Lefel 3 mewn Goruchwylio Gwasanaethau Bwyd a Diod yn ogystal â rhaglen i ddatblygu rhagor ar sgiliau Saesneg a Mathemateg.
- Dosbarth meistr dan arweiniad Bryn Williams a’i dîm o gogyddion arbenigol.
- Profiad gwaith o safon uchel
- Gwisg academi
Byddwch yn astudio ym Mwyty Iâl yng Ngholeg Cambria Iâl.
Bydd lleoliadau gwaith yn cael eu cynnal ym mwyty Bryn, Bryn Williams ym Mhorth Eirias.
About Bryn
Hailing from Denbigh in North Wales, Bryn Williams learnt to appreciate food and its origins from an early age.
He has worked in some of the most prestigious kitchens in London. He has worked under Marco Pierre White at The Criterion, Michel Roux at Le Gavroche for three years and he was senior-sous at The Orrery for four years.
Bryn is now the Chef Patron of Odette’s, taking over the property in October 2008. Bryn also is at Porth Eirias, a beach-front Restaurant, Café & Bar on the North Wales Coast. Bryn has also opened at Somerset House, on The Strand, London.