main logo

Diploma Lefel 3 C&G mewn Goruchwylio Bwyd a Diod ac Egwyddorion Arwain

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01303
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Llawn Amser. Mae hwn yn cwrs 1 flwyddyn llawn amser.
Adran
Lletygarwch ac Arlwyo
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyfle i unigolyn arbenigo mewn swydd y mae ei angerdd a’i greadigrwydd yn amlwg.

Mae lefel tri yn gweithio tuag at ddatblygu safonau uchel o sgiliau a gwybodaeth, gyda'r gallu I oruchwylio ac arwain eraill yn eich tîm.

Bydd gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn arwain ac yn hwyluso'r cwrs astudio I gynnwys sesiynau ymarferol a chynhyrchu blaen tŷ, gweini a derbyniad, gan gynnwys digwyddiadau ar y safle ac oddi arno. Mae sesiynau eraill yn cynnwys theori gysylltiedig, gweinyddiaeth, tiwtorialau, sgiliau hanfodol, dysgu ar sail adnoddau a datblygu portffolio.

Ochr yn ochr ag astudio’r cymhwyster Goruchwylio Bwyd a Diod, bydd y dysgwyr yn archwilio Egwyddorion Arwain yn y Diwydiant Lletygarwch ac yn dysgu am sgiliau a thechnegau a all gefnogi dysgwyr I gyflawni swyddi goruchwylio a hyfforddi eraill mewn tîm.

Mae elfen profiad gwaith gorfodol I'r cwrs hwn sy'n cefnogi datblygiad sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen ar gyfer y cwrs a'r diwydiant. Yr unigolion sy’n gyfrifol am ddod o hyd i’r rhain ac argymhellir yn gryf eich bod yn dechrau ystyried cyfle mewn busnes a fydd yn darparu profiad dysgu gwerthfawr.

Mae cyfleoedd ar gyfer profiadau allgyrsiol gyda'r nos ac ar benwythnosau mewn derbyniadau/digwyddiadau yn rhoi'r profiad I ddysgwyr o gael eu trochi'n llawn wrth gynllunio, paratoi a goruchwylio digwyddiad neu dderbyniad I gwsmeriaid.
Amrywiaeth – arsylwi, aseiniadau ysgrifenedig.

Mae’r asesiadau bwyd a diod yn cael eu cwblhau yn amgylchedd gwaith realistig y bwyty, digwyddiadau, achlysuron a phrofiad gwaith.

Bydd peth o’r wybodaeth greiddiol yn cael ei asesu gan ddefnyddio profion papur byr, mae mathau eraill o ddulliau asesu yn cynnwys aseiniadau/tasgau ymchwil gan gynnwys;

● Dylunio bwydlenni, a rhoi ryseitiau amgen gan gynnwys canllawiau maeth cyfredol.
● Cynhyrchu canllawiau,
● siartiau wal, pecynnau/taflenni gwybodaeth, taflenni a phosteri.
● Cynhyrchu cyflwyniadau
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Gymraeg/Saesneg (iaith gyntaf) a dwy flynedd o brofiad diwydiant ym maes Arlwyo a Lletygarwch (argymhellir).
Neu
fod wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus.

Bydd archwiliad sgiliau I sicrhau eich bod ar y lefel gywir.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich
arholiadau TGAU. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, gallai hynny arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.
Mae hyfforddiant Gwestai ac Arlwyo yn gweithredu fel pasbort rhyngwladol i waith diddorol. Y Diwydiant Gwestai ac Arlwyo yw un o’r cyflogwyr mwyaf yn y wlad, gyda 2.2 miliwn o swyddi a 200,000 o gyfleoedd llawn amser bob blwyddyn.

Gall y cymhwyster hwn eich helpu i symud ymlaen mewn ystod eang o rolau lletygarwch gan gynnwys:

● Goruchwylydd bar
● Goruchwylydd blaen tŷ
● Rheolwr bwyty neu arlwyo
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?