main logo

Lefel 1 Lletygarwch ac Arlwyo

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP81022
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs 1 flwyddyn llawn amser.
Adran
Dysgu Sylfaen, Lletygarwch ac Arlwyo
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Cynigir y Diploma ar Lefel 1 yn llawn amser, yn ogystal â chyfleoedd pellach ar gyfer profiad allgyrsiol gyda'r nos ac ar benwythnosau mewn achlysuron/digwyddiadau.

Bydd y cwrs astudio yn cynnwys: Sesiynau ymarferol a chynhyrchu mewn pantri, crwst a chegin, gweini blaen tŷ a gwaith derbynfa i gynnwys achlysuron/digwyddiadau ar ac oddi ar y safle. Mae sesiynau eraill yn cynnwys gweinyddu, tiwtorialau a theori cysylltiedig, dysgu seiliedig ar adnoddau, datblygu portffolio a Sgiliau Hanfodol/Allweddol.

Bydd myfyrwyr diploma yn gweithio ar sail rota ym mhob rhan gynhyrchu o’r adran er mwyn cael profiad ymarferol cynhwysfawr a gwerthfawr, gan gynnwys ceginau a bwytai. Cwblheir unedau ymarferol yn y ceginau cynhyrchu a'r bwyty lle mae cinio a chiniawau'n cael eu paratoi ar gyfer y bwyty a'u gweini i'r cyhoedd. Bydd myfyrwyr hefyd yn cyflawni’r Dystysgrif mewn Gwasanaeth Bwyd a Diod fel rhan o'u profiad yn gweithio ym mlaen y tŷ yn ein bwytai hyfforddi.

• Uned 202 Diogelwch bwyd mewn arlwyo
• Uned 602 Cyflwyniad i gyflogadwyedd yn y diwydiant Arlwyo a Lletygarwch
• Uned 603 Ymwybyddiaeth iechyd a diogelwch ar gyfer Arlwyo a Lletygarwch
• Uned 604 Cyflwyniad i fwydydd iachach a dietau arbennig
• Uned 605 Cyflwyniad i gyfarpar cegin
• Uned 607 Paratoi a choginio bwyd drwy ferwi, potsio a stemio
• Uned 608 Paratoi a choginio bwyd drwy stiwio a brwysio
• Uned 609 Paratoi a choginio bwyd drwy bobi, rhostio a grilio
• Uned 610 Paratoi a choginio bwyd drwy ffrio dwfn a ffrio bas
• Uned 611 Atgynhyrchu bwyd wedi’i baratoi ymlaen llaw
• Uned 612 Paratoi bwyd oer
• Uned 102 Cyflwyniad i gyflogadwyedd yn y diwydiant Arlwyo a Lletygarwch
• Uned 103 Ymwybyddiaeth iechyd a diogelwch ar gyfer Arlwyo a Lletygarwch
• Uned 104 Deddfwriaeth yn y gwasanaeth bwyd a diod
• Uned 105 Deall bwydlenni
• Uned 107 Delio gyda thaliadau a bwciadau
• Uned 108 Sgiliau gwasanaeth bwyd a diod
• Uned 109 Sgiliau gwasanaeth bar
• Uned 110 Sgiliau diodydd poeth

Mae’r cwrs yn cynnwys dau arholiad synoptig, sef arholiadau ymarferol lle bydd gofyn i ddysgwyr baratoi, coginio a gorffen nifer o brydau o fewn amserlen benodol. Bydd yr arholiadau hyn yn cael eu gwneud yn annibynnol, felly maent yn galw am sgiliau sefydliadol da a'r gallu i amlorchwylio.
Amrywiaeth – arsylwi, aseiniadau ysgrifenedig. Asesir rhywfaint o’r wybodaeth sylfaenol gan ddefnyddio profion papur byr. Mae mathau eraill o ddulliau asesu yn cynnwys aseiniadau / tasgau ymchwil gan gynnwys;

Dylunio bwydlenni / Rhoi ryseitiau amgen gan gynnwys canllawiau maeth cyfredol.
Cynhyrchu canllawiau, siartiau wal, pecynnau/taflenni gwybodaeth, taflenni a phosteri.
Cynhyrchu cyflwyniadau
Asesir cogyddion y cwrs hwn drwy brofion synoptig wedi’u hamseru / coginio prydau unigol a nodir o fewn meini prawf y cwrs.
4 TGAU graddau E/2 neu uwch i gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg/Cymraeg (Iaith 1af).

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac o ganlyniad efallai y gallech symud ymlaen i gwrs lefel uwch.
Mae hyfforddiant Gwestai ac Arlwyo yn gweithredu fel pasbort rhyngwladol i waith diddorol. Y Diwydiant Gwestai ac Arlwyo yw un o’r cyflogwyr mwyaf yn y wlad, gyda 2.2 miliwn o swyddi a 200,000 o gyfleoedd llawn amser bob blwyddyn i bobl.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?