main logo

Diploma Lefel 2 C&G mewn Lletygarwch ac Arlwyo

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01536
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Llawn amser, dyma gwrs llawn amser blwyddyn o hyd

4 diwrnod yr wythnos (Bydd dysgwyr sydd wedi ennill o leiaf gradd Llwyddo mewn Diploma Lefel 1 mewn Lletygarwch ac Arlwyo yn astudio 3 diwrnod yr wythnos).

9 am tan 4.30 pm
Adran
Lletygarwch ac Arlwyo
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae lletygarwch ac arlwyo yn ddiwydiant cyffrous ac amrywiol sy’n ymgorffori caffis, bariau, bwytai, gwyliau bwyd, gwestai, siopau coffi a llawer yn rhagor o feysydd oddi mewn iddo.

Mae’r diploma lefel 2 yn cael ei gynnig fel cwrs llawn amser sy’n cynnwys coginio proffesiynol a gwasanaeth bwyd a diod.

P'un a ydych chi'n hoffi bod yn gwneud gwaith blaen tŷ, cynllunio digwyddiadau neu yn y gegin a gweithio gyda bwyd a diodydd o ansawdd da, bydd y cwrs hwn yn cyflwyno’r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen yn y diwydiant ac yn eu datblygu.

Bydd gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn arwain ac yn hwyluso’r cwrs astudio i gynnwys sesiynau ymarferol a chynhyrchu yn adrannau pantri, crwst a chegin, gweini blaen tŷ a derbynfa i gynnwys digwyddiadau ar y safle ac oddi arni. Mae sesiynau eraill yn cynnwys theori berthnasol, gweinyddu, tiwtorialau, dysgu yn seiliedig ar adnoddau a datblygu portffolio.

Mae gan yr adran gysylltiadau cadarn gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol sy’n gwella cyfleoedd i ddysgwyr.

Mae elfen profiad gwaith gorfodol i’r cwrs sy’n ategu datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer y cwrs a’r diwydiant. Yr unigolyn sy’n dod o hyd i’r rhain ac argymhellir yn gryf eich bod yn dechrau ystyried cyfle o fewn busnes a fydd yn darparu profiad dysgu gwerthfawr.

Mae cyfleoedd ar gyfer profiadau allgyrsiol yn ystod nosweithiau a phenwythnosau’n rhoi profiad i ddysgwyr o fod yn rhan o gynllunio, paratoi a chyflwyno digwyddiad neu ddigwyddiad i gwsmeriaid.


Yn ogystal, mae rhaglen y maes dysgu yn cynnwys yr elfennau gorfodol canlynol i’r cwrs:

● Hyfforddiant ac asesiadau Sgiliau Hanfodol Cymru

Mae angen gwisg ar gyfer y cwrs hwn. Mae manylion ar gael o dan ‘Rhestr cit’.
Amrywiol – arsylwi, aseiniadau ysgrifenedig. Asesir unedau coginio’r cwrs hwn trwy brofion synoptig wedi’u hamseru / coginio prydau unigol a nodir o fewn meini prawf y cwrs. Mae’r asesiadau bwyd a diod yn cael eu cwblhau o fewn amgylchedd gwaith realistig y bwyty, digwyddiadau, achlysuron a phrofiad gwaith.

Mae rhywfaint o’r wybodaeth sylfaenol yn cael ei hasesu gan ddefnyddio profion papur byr, mae mathau eraill o ddulliau asesu yn cynnwys aseiniadau ymchwil / tasgau gan gynnwys:

Dylunio bwydlenni, gan roi ryseitiau amgen gan gynnwys canllawiau maeth cyfredol. Cynhyrchu canllawiau, siartiau wal, pecynnau/dalennau gwybodaeth, taflenni a phosteri. Cynhyrchu cyflwyniadau.
4 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg/Cymraeg (Iaith 1af) neu gymhwyster L1 perthnasol,
neu ddwy flynedd o brofiad yn y diwydiant Arlwyo a Lletygarwch (argymhellir).

Bydd archwiliad sgiliau I sicrhau eich bod ar y lefel gywir

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Mae hyfforddiant Gwestai ac Arlwyo yn gweithredu fel pasbort rhyngwladol i waith diddorol. Y Diwydiant Gwestai ac Arlwyo yw un o’r cyflogwyr mwyaf yn y wlad, gyda 2.2 miliwn o swyddi a 200,000 o gyfleoedd llawn amser bob blwyddyn.

Gall y cymwysterau hyn eich helpu i symud ymlaen mewn ystod eang o swyddi lletygarwch:

● Staff bar
● Gwasanaeth bwrdd neu gownter
● Cymhorthydd cegin
● Cadw tŷ
● Gweinyddu
● Chef
● Chef Crwst
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?