main logo

Diploma Lefel 3 C&G mewn Coginio Proffesiynol Uwch

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP01306
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Llawn Amser, Cwrs blwyddyn llawn amser yw hwn

3 diwrnod yr wythnos yn y coleg 9am tan 4.45 pm
Adran
Gweithgynhyrchu Bwyd, Lletygarwch ac Arlwyo
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyfle i unigolyn arbenigo mewn swydd y mae ei angerdd a’I greadigrwydd yn amlwg.

Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu safonau uchel o sgiliau a gwybodaeth, gyda'r gallu I oruchwylio ac arwain eraill yn eich tîm.


Bydd gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn arwain ac yn hwyluso'r cwrs astudio I gynnwys sesiynau ymarferol a chynhyrchu yn y pantri, y crwst a'r gegin, gan gynnwys digwyddiadau ar y safle ac oddi arno. Mae sesiynau eraill yn cynnwys theori gysylltiedig, gweinyddiaeth, tiwtorialau, sgiliau hanfodol, dysgu ar sail adnoddau a datblygu portffolio.

Mae gan yr adran gysylltiadau cadarn gyda chyflogwyr lleol a Chenedlaethol sy'n gwella'r cyfleoedd I'r dysgwyr.

Mae elfen profiad gwaith gorfodol i’r cwrs hwn sy’n cefnogi datblygiad y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer y cwrs a diwydiant. Daw'r rhain gan yr unigolyn ac argymhellir yn gryf eich bod yn dechrau ystyried cyfle o fewn busnes a fydd yn darparu profiad dysgu gwerthfawr.

Mae cyfleoedd ar gyfer profiadau allgyrsiol gyda'r nos ac ar benwythnosau mewn achlysuron/digwyddiadau yn rhoi profiad I ddysgwyr o gael eu trwytho'n llwyr mewn cynllunio, paratoi a goruchwylio digwyddiad I gwsmeriaid.

Yn ogystal â’r Diploma Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol Uwch, mae rhaglen y maes dysgu yn cynnwys yr elfennau gorfodol canlynol i’r cwrs:

● Hyfforddiant ac asesiadau Sgiliau Hanfodol Cymru

Mae angen gwisg ar gyfer y cwrs hwn. Mae manylion I'w gweld o dan y rhestr offer.
Amrywiaeth – goruchwylio, aseiniadau ysgrifenedig.
Mae unedau coginio y cwrs hwn yn cael eu hasesu drwy brofion synoptig / coginio prydau unigol sy’n cael ei nodi ym meini prawf y cwrs.

Mae ychydig o’r wybodaeth greiddiol yn cael ei asesu gan ddefnyddio profion papur byrion, mae mathau eraill o ddulliau asesu’n cynnwys aseiniadau/tasgau ymchwil gan gynnwys;

Dylunio bwydlenni, rhoi ryseitiau amgen gan gynnwys canllawiau maeth cyfredol. Cynhyrchu canllawiau, siartiau wal, pecynnau/taflenni gwybodaeth, taflenni, posteri a Chynhyrchu cyflwyniadau.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Mathemateg ac iaith Saesneg/Cymraeg (Iaith gyntaf) a dwy flynedd o brofiad diwydiant mewn Arlwyo a Lletygarwch (rydyn ni’n argymell hyn).
neu
wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus.

Bydd archwiliad sgiliau I sicrhau eich bod ar y lefel gywir.

Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych chi, ac fe allai eich galluogi I symud ymlaen I gwrs lefel uwch.
Mae hyfforddiant Gwesty ac Arlwyo yn gweithredu fel pasbort rhyngwladol i waith diddorol.

Mae’r diwydiant Gwesty ac Arlwyo yn un o’r cyflogwyr mwyaf yn y wlad, gyda 2.2 miliwn o swyddi a 200,000 o gyfleoedd llawn amser bob blwyddyn.

Gall y Diploma mewn Coginio Proffesiynol eich helpu chi I ddod o hyd I swydd fel:
● Rheolwr Arlwyo
● Chef
● Chef Crwst
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?