main logo

O Synwyryddion i Ddangosfyrddau - Dysgu Hanfodion LPWAN a LoRaWAN

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA18299
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Rhan Amser, Dydd Llun 01/07/24- 9:00-16:00 – yng Nglannau Dyfrdwy
Adran
Technolegau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura a TG
Dyddiad Dechrau
01 Jul 2024
Dyddiad Gorffen
01 Jul 2024

Trosolwg o’r Cwrs

Mae LoRaWAN (Rhwydwaith Ardal Eang Pellter Hir) yn brotocol rhwydweithio LPWAN (Rhwydwaith Ardal Eang Pŵer Isel) sy'n rhan o gyfres o dechnolegau Rhyngrwyd Pethau. Mae'n eich galluogi i gysylltu synwyryddion yn ddiwifr sy'n gallu casglu data a'u harddangos ar ddangosfwrdd, (yn ogystal â phethau eraill). Gan ddefnyddio meddalwedd cod agored ac amleddau didrwydded, mae gan dechnolegau LoRaWAN nifer o fanteision posibl i gwmnïau sydd am elwa o’r buddion sydd ynghlwm â’r systemau cysylltiedig.
Ar y cwrs hwn byddwch yn dysgu hanfodion rhwydweithio, synwyryddion a phyrth LoRaWAN. Bydd sesiwn damcaniaethol i ddechrau yna profiadau ymarferol i ddilyn. Byddwch yn dysgu pa mor bwerus y gall y dechnoleg hon fod ac yn ennill sgiliau ymarferol a fydd yn eich galluogi i osod synhwyrydd syml a fydd yn cael data.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Byddwch yn astudio’r unedau canlynol -
● Cyflwyniad i Rwydweithiau Synhwyrydd Di-wifr
○ LoRa, LoRaWAN, Zigbee, ac ati.
○ Defnydd Ymarferol Synwyryddion
● Rhwydweithiau Synhwyrydd Di-wifr
○ LPWAN
○ LoRa
○ Hanfodion LoRaWAN
○ LoRaWAN neu Zigbee, (Sigfox, NB-IOT, Zwave, ac ati.)
● Gweithio gyda System Sylfaenol a Sut i'w Gosod
○ Y Rhwydwaith Pethau
○ Synhwyrydd Di-wifr
○ Ddangosfyrddau Data
○ Pyrth Di-wifr

Hyd a Dull Cyflwyno’r Cwrs
Mae'r cwrs yn para 6 awr. Byddwch yn ennill sgiliau a gwybodaeth yn ogystal â chael profiadau ymarferol.
Pam astudio’r cwrs hwn?

Bwriad y cwrs yw darparu cyflwyniad ac ymwybyddiaeth well o dechnolegau LoRaWAN a pha effaith y gallai'r dechnoleg hon ei chael ar eich sefydliad a sut y gallai fod o fudd iddo yn y dyfodol.


Bwriad y cwrs yw darparu cyflwyniad ac ymwybyddiaeth well o dechnolegau LoRaWAN ac LPWAN. Bydd yn cyflwyno rhai sgiliau ymarferol a gwybodaeth am sut y caiff ei ddefnyddio. Bydd cyfle hefyd i ystyried pa effaith y gallai'r dechnoleg hon ei chael ar eich sefydliad a sut y gallai fod o fudd iddo yn y dyfodol.
Asesiad parhaus drwy dasgau a monitro gan diwtoriaid
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol na gwybodaeth flaenorol, er bod disgwyl i ddefnyddwyr fod yn gyfarwydd â hanfodion defnyddio cyfrifiadur a’r we.

Byddwch yn dysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i fodloni eich nodau a bydd yn rhoi’r sgiliau a’r offer sydd eu hangen i lwyddo.
Symud ymlaen
Mae’r cwrs hwn yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen at ystod o gyrsiau a chyfleoedd hyfforddi eraill, gan gynnwys –
● Hanfodion Rhyngrwyd Diwydiannol o Bethau (IIoT)
● Archwilio Rhwydweithiau’r Dyfodol
● Beth yw LPWAN a LoRaWAN, a sut y gallant fod o fudd i chi?
● Dylunio Systemau Rhyngrwyd Pethau
● Cyflwyniad i 5G
● Hanfodion LoRaWAN
● Gweithredu Systemau Rhyngrwyd Diwydiannol o Bethau
● Gweithredu Rhwydweithiau Synwyryddion Di-wifr

Byddai’r Ffatri Sgiliau a chyrsiau cysylltiedig yn fuddiol ar gyfer dysgwyr sydd eisiau meithrin sgiliau a gweithio tuag at yrfa mewn meysydd fel –

● Gyrfaoedd Peirianneg
● Gyrfaoedd TG
Am ddim
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?