main logo

Niwrodechnoleg Lefel 1

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LP52307
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser
Adran
Technolegau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura a TG, Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
05 Sep 2024
Dyddiad Gorffen
20 Jun 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Oes gennych chi ddiddordeb mewn Technolegau Digidol ond yn pryderu na fyddech yn gallu ymdopi mewn amgylchedd coleg mawr? A yw’n well gennych gael eich addysgu mewn grwpiau bach gyda staff cyfarwydd ag amserlen reolaidd? Os felly, mae gennym ni’r cwrs delfrydol i chi.
Mae ein cwrs Lefel 1 mewn Niwrodechnoleg yn gwrs cwbl gynhwysol a chefnogol sydd wedi’i anelu at ymadawyr ysgol gydag anawsterau cyfathrebu cymdeithasol fel Awtistiaeth. Mae’r cwrs yn cael ei ddarparu mewn amgylchedd dysgu bach gyda lefelau isel o ysgogiad synhwyraidd. Mae’r cwrs yn cynnig y strwythur a’r drefn sydd eu hangen i gadw pryderon dan reolaeth.

Mae astudio cwrs Niwrodechnoleg yng Ngholeg Cambria yn eich galluogi i weithio gyda chynhyrchion arloesol a thechnoleg newidiol mewn un o’r sectorau sy’n cynyddu gyflymaf yn y byd. Mae’n eich rhoi yn y sefyllfa gorau posib i fanteisio i’r eithaf ar yr amgylchedd digidol hwn ac ar eich potensial.

Bydd cwrs Niwrodechnoleg yn cynnig yr amrediad cywir o sgiliau a gwybodaeth er mwyn sicrhau eich bod yn datblygu ac yn llwyddo I gyflawni eich dyheadau. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â dysgwyr niwroamrywiol eraill I ddatblygu eich sgiliau digidol a chyflogadwyedd gyda chymorth staff profiadol. Byddwch yn cael rhaglen ddysgu unigol I ddatblygu eich sgiliau cyfathrebu cymdeithasol, trefnu a sgiliau bywyd.
Bydd cymhwyster BTEC Lefel 1 Pearson mewn Technoleg Gwybodaeth yn rhoi’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen arnoch I lwyddo gan gynnwys rhai o’r canlynol -

● Bod yn drefnus
● Llunio cynllun datblygu personol
● Gweithio gydag eraill
● Ymchwilio I bwnc
● Defnyddio technolegau cyfathrebu digidol
● Datrys problemau technolegol TG
● Creu taenlenni I ddatrys problemau
● Creu gwefannau
● Creu cynnyrch digidol
● Datblygu animeiddiad graffig digidol

Byddwch yn canolbwyntio ar ddatblygu llythrennedd a rhifedd ar y rhaglen, a bydd cyfle I chi ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif neu ailsefyll arholiadau TGAU mewn Mathemateg a Saesneg.
Asesu parhaus trwy gyfrwng tasgau a monitro gan y tiwtor.
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y rhaglen hon, rhaid i bob dysgwr gael anhawster cyfathrebu cymdeithasol megis Awtistiaeth.

Does dim gofynion mynediad ffurfiol, er y disgwylir i ddefnyddwyr fod yn gyfarwydd â hanfodion defnyddio cyfrifiadur a’r rhyngrwyd, a bod â Chynllun Dysgu a Sgiliau cyfredol, Cynllun Datblygu Unigol neu Gynllun Addysg, Iechyd a Gofal.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi i wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol, er y disgwylir i ddefnyddwyr fod yn gyfarwydd gyda hanfodion defnyddio cyfrifiadur a’r rhyngrwyd, a bod â Chynllun Dysgu a Sgiliau, Cynllun Datblygu Unigol neu Gynllun Addysg, Iechyd a Gofal cyfredol.
Efallai y bydd angen prynu rhestrau cit a gyfer rhai cyrsiau. Gweler y rhestr cit atodedig am ragor o wybodaeth.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Useful downloads
Kit List

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Iâl a Chweched Iâl
20/03/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?