main logo

Cyflwyniad i Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA17357
Lleoliad
Iâl
Hyd
Rhan Amser, 6 wythnos
6-8pm
Coleg Cambria, Safle Iâl
Adran
Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
14 Jan 2025
Dyddiad Gorffen
25 Feb 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd y cwrs Cyflwyniad i Iaith Arwyddion Prydain yn eich galluogi chi i ddeall BSL yn well: yr iaith, y gymuned, y diwylliant ac ymwybyddiaeth o’r byddar. Bydd yn eich helpu chi i gyfathrebu gyda phobl Fyddar neu unigolion sy’n drwm eu clyw mewn sefyllfaoedd bob dydd.

Nod y cwrs ydy darparu arwyddion syml i annog cefnogaeth well i unigolion. Bydd gemau sillafu â bysedd yn gwneud dysgu'n hwyl ac yn weithredol. Trwy ymarfer gyda ffrindiau, byddwch chi’n gallu cyflwyno eich hun, defnyddio cyfarchion a mân siarad cwrtais gan roi hyder newydd i chi.

Wythnos 1: Awgrymiadau Defnyddiol, Sillafu â’r Bysedd a Mân Siarad Cwrtais
Wythnos 2: Emosiynau, Rhifau a’r Teulu
Wythnos 3: Atgoffa, Diwylliant y Byddar, Sgwrsio Bob Dydd
Wythnos 4: Adnabod Arwyddion, Ymwybyddiaeth, Amgylchedd
Wythnos 5: Sgyrsiau Bob Dydd, Dyddiau’r Wythnos, Misoedd y Flwyddyn, Tywydd a’r Tymhorau
Wythnos 6: Atgoffa o wythnosau 1-5, egluro a chwis.

Bydd dysgu iaith newydd yn cyfoethogi eich sgiliau cyflogadwyedd. Bydd yn gwneud i’ch CV sefyll allan a chreu cyfleoedd newydd i ddatblygu eich gyrfa, llwybr gyrfa gwahanol hyd yn oed.

Felly am ba bynnag reswm rydych chi wedi penderfynu ymchwilio i BSL, mae’r cwrs Cyflwyniad i Arwyddion Prydain yn fan cychwyn perffaith.

Helpwch ni i dynnu sylw pawb at yr iaith weledol ryfeddol hon.
Amh
Amh
Arf cyfathrebu gwych. Gwell cefnogaeth a dealltwriaeth unigol. Cynhwysiant.
£40
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?